Mae yna rai pobl sy’n gwneud cynlluniau fisoedd lawer ymlaen llaw. Synnwn i ddim nad oes ambell un wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer Nadolig 2019. Ond i’r mwyafrif ohonom, mae meddwl am y Nadolig a ddaw drennydd yn fwy na digon. Fedrwn ni ddim edrych ymhellach na hynny, gan obeithio y bydd yr holl baratoadau a wnaethom (neu y bwriadwn eu gwneud dros y deuddydd nesaf!) yn talu ar eu canfed.
Daethom at Sul olaf Tymor yr Adfent, a thros y tri Sul diwethaf gwelsom mai ar ddyfodiad Iesu Grist y mae pwyslais yr Eglwys Gristnogol yn y Tymor hwn sy’n arwain at y Nadolig. Cofiwn fod Mab Duw wedi dod i’r byd yn blentyn bach; edrychwn ymlaen yn llawen at ddathlu ei ddyfodiad.
Ie, tymor o edrych ymlaen yw’r Adfent. Mae’r holl ddisgwyl sydd am y partïon a’r cyngherddau a’r carolau a’r mins peis a’r twrci ac ati yn ein hatgoffa o hynny. A thrwy’r cyfan, edrychwn ymlaen at yr holl ddathliadau sy’n ein galluogi i gyhoeddi o’r newydd fod ein Gwaredwr wedi dod i’r byd trwy eni Iesu.
Ond mae yna hefyd rywbeth annisgwyl iawn ynglŷn â’r Adfent gan fod yr Eglwys Gristnogol yn y tymor hwn yn edrych heibio i eni Iesu at yr hyn a’i dilynodd. Nid ar ddyfodiad Iesu ym Methlehem yn unig y mae’r sylw, ond ar yr hyn a elwir ei ‘Ailddyfodiad’.
Yn hynny o beth, yr ydym nid yn unig yn edrych nôl ond hefyd yn edrych ymlaen: edrych nôl ar yr hyn a ddigwyddodd ym Methlehem ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddigwydd pan ddaw Iesu eto.
‘Pan ddaw Iesu eto’: mor anghyfarwydd y geiriau hyn i gynifer o Gristnogion. Mor ddieithr y neges am Ailddyfodiad ein Harglwydd. Mor dawel fu’r Eglwys ynglŷn â’r gwirionedd y soniodd Iesu ei hun amdano: ‘A’r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna’r anfona ef ei angylion a chynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef’ (Marc 13:26–27). Ac mor amharod fuom i gyhoeddi gyda’r Apostol Paul: ‘Pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn cyfodi yn gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn barhaus’ (1 Thesaloniaid 4:16–17).
Ar un wedd, nid syndod fod yr Eglwys mor dawel ynghylch yr Ailddyfodiad. Mae’r cyfan mor ddieithr: diwedd y byd; dydd barn; dychwelyd ar gymylau’r nef; atgyfodiad y meirw. A’r cyfan wrth gwrs y tu hwnt i’n profiad gan nad yw wedi digwydd eto. Ond nid yw hynny’n rheswm dros beidio â derbyn yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu. Trwy ffydd y credwn y pethau hyn yn union fel mai trwy ffydd y credwn fod Iesu Grist wedi ei eni ac wedi byw a marw ac atgyfodi.
Tybed mai un o gymwynasau’r Adfent yw ei fod yn cyfeirio at yr Ailddyfodiad? Wrth ddathlu’r Nadolig a diolch am ddyfodiad Mab Duw i’r byd, edrychwn ninnau heibio i hynny er sicrhau ein bod, trwy ffydd yn Iesu Grist, yn barod at ddydd mawr ei ddychweliad.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Rhagfyr, 2018