Edifeirwch

adfent (2)

Nid yw’n syndod o gwbl fod yr Eglwys Gristnogol yn Nhymor yr Adfent wedi rhoi sylw i Ioan Fedyddiwr. Os mai’r tymor sy’n dathlu dyfodiad y Meseia yw hwn, mae’n naturiol fod sylw’n cael ei roi i’r dyn hwn a anfonwyd i gyhoeddi ei ddyfodiad. Ioan oedd yr un a anfonwyd gan Dduw i baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodiad Iesu.

Neges fawr Ioan Fedyddiwr i’r bobl a ddeuai i wrando arno yn yr anialwch  oedd bod angen iddynt edifarhau am fod ‘teyrnas nefoedd wedi dod yn agos’

(Mathew 3:2). Cyfeirio yr oedd Ioan at y ffaith fod Iesu ar ddod. Ym mherson Iesu Grist roedd holl ofynion teyrnas Dduw ar bobl yn cael eu hamlygu, a’r holl fendithion oedd gan Dduw ar eu cyfer yn cael eu cynnig. Ond er mwyn medru ufuddhau i orchmynion Duw ac er mwyn derbyn ei fendithion roedd angen i bobl edifarhau.  Ystyr hynny oedd troi oddi wrth ddrygioni ac ymroi i fyw mewn ffordd newydd.  Troi o amgylch yn llwyr a newid cyfeiriad yw edifeirwch, a galwai Ioan ar bobl i wneud hynny er iddynt fod yn barod ar gyfer dyfodiad Iesu.

Wrth edrych ymlaen bob blwyddyn at ddathlu dyfodiad Iesu, Fab Duw, i’r byd mae’r Eglwys hefyd, yn Nhymor yr Adfent, yn pwysleisio’r ffaith fod rhaid wrth edifeirwch er mwyn medru croesawu Iesu’n iawn. Ond mor hawdd yw colli golwg ar hynny.  Diolchwn am bob sylw a roddir i’r baban a aned ym Methlehem, yn arbennig y dyddiau hyn a ninnau’n gwybod y bydd llawer yn dathlu’r Nadolig heb fod ganddynt y syniad lleiaf am wir ystyr yr Ŵyl Gristnogol bwysig hon. Yng Nghymru, mewn oes sy’n prysur droi cefn ar y Ffydd, diolchwn am bob cyfeiriad a fydd at Iesu yn ystod yr Adfent eleni.

Ond mae’n rhaid cofio hefyd fod modd gwneud Iesu’n llai nag ydyw.  Mae’n rhwydd iawn i hynny ddigwydd adeg y Nadolig os mai aros yn fabi bach yn ein golwg ni a wna baban Bethlehem.  Os mai’r cwbl a welwn y Nadolig hwn fydd babi bach, fyddwn ni ddim yn debygol o blygu mewn edifeirwch.  Mi fedrwn ddotio a rhyfeddu a llawenhau wrth weld y babi mewn preseb. Oni wnawn ni hynny wrth grud pob babi bach newydd?  Gweld fod y babi hwn yn wahanol i bob babi arall; gweld mai’r babi hwn ydi Mab Duw ei hun a wna i ni blygu mewn edifeirwch wrth i ni feddwl amdano a dynesu ato.

Yng nghanol ein holl baratoadau ar gyfer y Nadolig, dowch i ni gofio pwy yw’r babi y dathlwn ei eni, a pham yn union y cafodd ei eni. Hwn ydi’r unig un y gellir dweud amdano ei fod wedi cael ei eni er mwyn iddo farw.  Cafodd ei anfon i’r byd er mwyn dioddef a marw trosom ar Galfaria.  O ddeall hynny, mi feddyliwn am y Geni mewn ffordd newydd; ac un wedd ar y ffordd honno yw edifeirwch. O gofio fod Iesu wedi dod i ddioddef yn ein lle ar y groes, dowch i droi ato o’r newydd mewn parch a chariad.  Bydd hynny’n golygu hefyd droi oddi wrth bopeth sy’n groes i’w eiriau a’i esiampl.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 09 Rhagfyr, 2018

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: