Llawenhau

adfent (3)

Un o themâu amlwg Tymor yr Adfent yw llawenydd.  Wrth gofio a dathlu dyfodiad Iesu i’r byd mae Cristnogion ar hyd yr oesoedd wedi llawenhau, a chawn ninnau ein hannog i wneud felly hefyd.

Yr oedd yna lawenhau wrth gwrs pan aned Iesu.  Wedi’r cyfan a ddywedwyd wrthynt amdano cyn ei eni, byddai Mair a Joseff yn sicr wedi llawenhau ar ei enedigaeth ym Methlehem.  Ac y mae hanes y bugeiliaid yn amlwg yn llawn o lawenydd.  Fe soniodd yr angel wrthynt am ‘newydd da o lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl’; fe ganodd y côr o angylion yn llawen; a brysiodd y bugeiliaid at grud Iesu cyn dychwelyd at eu gwaith a’u defaid yn moli Duw am y cyfan yr oeddent wedi ei weld a’i glywed. Byddai eu llawenydd yn amlwg i bawb a’u gwelai.

Mae llawenydd yn rhan annatod o ddathliadau’r tymor hwn i bawb o bobl Dduw.  Gŵyl lawen yw’r Nadolig yn ei hanfod.  Mae’r byd yn deall hynny, hyd yn oed os nad yw’n deall sail a natur y llawenydd hwnnw.  Ar lawenydd, neu o leiaf ar fod yn hapus a chael hwyl y mae pwyslais mawr y byd wrth arwain at y Nadolig o hyd.  Mae’r addurniadau  a’r danteithion a’r anrhegion a’r partïon a’r adloniant a’r seibiant a’r cyfan  ynghylch y dathliadau i fod i’n gwneud ni oll yn llawen. Ac mae’n amlwg fod yna hwyl a mwynhad a llawenydd i’w gael yn yr holl bethau hyn. Ydi, mae’r Nadolig yn Ŵyl o lawenydd ar lawer cyfrif, a gobeithio y bydd felly eleni.

Ond nid pawb eleni, mwy na’r un  Nadolig arall, a fydd yn profi’r hapusrwydd delfrydol a gyflwynir iddynt ac a ddisgwylir ganddynt.  Nid pawb all fforddio’r anrhegion drud; nid pawb gaiff eistedd wrth fwrdd gorlawn o fwydydd blasus.  Nid pawb fydd â tho uwch eu pen.  Nid pawb fydd wedi eu hamgylchu â theulu a ffrindiau.  Nid pawb fydd yn ddigon iach i fwynhau’r dathliadau. Bydd hapusrwydd a hwyl yn bethau anodd eu cael i lawer yn ein pentrefi a’n cymunedau ni, a hyd yn oed yn ein heglwysi hefyd gan fod pob math o amgylchiadau a phrofiadau’n medru eu lladrata a’u difa.

Ac eto, os bydd hwyl ar adegau’n brin neu allan o gyrraedd, y mae llawenydd y Nadolig yn aros.  Oherwydd beth bynnag y profiadau a’r amgylchiadau, mae neges y Nadolig, am ddyfodiad Iesu yn aros. Y mae’r neges honno’n ein sicrhau fod Duw o’n plaid, a’i fod gyda ni bynnag a ddigwydd yn y byd ansicr a chreulon hwn. Yn ei Fab Iesu Grist, daeth Duw atom; a thrwy’r un Iesu atgyfodedig y mae’n parhau gyda ni yng nghanol ein byw bob dydd.  Mae gyda ni pan fo popeth yn rhwydd ac o’n plaid; ond y mae gyda ni hefyd pan fo’r byd, yn ôl a welwn ni, yn llwyr yn ein herbyn.  Nid peth hawdd yw egluro’r llawenydd dwfn sy’n eiddo i ni trwy ffydd yng Nghrist.  Nid yw’n golygu ein bod yn neidio a dawnsio, na hyd yn oed o reidrwydd ein bod yn teimlo’n llawen. Ond    rywsut trwy’r cyfan, fe wyddom yn nyfnder ein calon fod popeth yn iawn.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 16 Rhagfyr, 2018

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: