Ailddyfodiad Iesu

adfent (4)

Mae yna rai pobl sy’n gwneud cynlluniau fisoedd lawer ymlaen llaw. Synnwn i ddim nad oes ambell un wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer Nadolig 2019.  Ond i’r mwyafrif ohonom, mae meddwl am y Nadolig a ddaw drennydd yn fwy na digon.  Fedrwn ni ddim edrych ymhellach na hynny, gan obeithio y bydd yr holl  baratoadau a wnaethom (neu y bwriadwn eu gwneud dros y deuddydd nesaf!) yn talu ar eu canfed.

Daethom at Sul olaf Tymor yr Adfent, a thros y tri Sul diwethaf gwelsom mai ar ddyfodiad Iesu Grist y mae pwyslais  yr Eglwys Gristnogol yn y Tymor hwn sy’n arwain at y Nadolig.  Cofiwn fod Mab Duw wedi dod i’r byd yn blentyn bach; edrychwn ymlaen yn llawen at ddathlu ei ddyfodiad.

Ie, tymor o edrych ymlaen yw’r Adfent.  Mae’r holl ddisgwyl sydd am y partïon a’r cyngherddau a’r carolau a’r mins peis a’r twrci ac ati yn ein hatgoffa o hynny.  A thrwy’r cyfan, edrychwn ymlaen at yr holl ddathliadau sy’n ein galluogi i gyhoeddi o’r newydd fod ein Gwaredwr wedi dod i’r byd trwy eni Iesu.

Ond mae yna hefyd rywbeth annisgwyl iawn ynglŷn â’r Adfent gan fod yr Eglwys  Gristnogol yn y tymor hwn yn edrych heibio i eni Iesu at yr hyn a’i dilynodd.  Nid ar ddyfodiad Iesu ym Methlehem yn unig y mae’r sylw, ond ar yr hyn a elwir ei ‘Ailddyfodiad’.

Yn hynny o beth, yr ydym nid yn unig yn edrych nôl ond hefyd yn edrych ymlaen: edrych nôl ar yr hyn a ddigwyddodd ym Methlehem ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddigwydd pan ddaw Iesu eto.

‘Pan ddaw Iesu eto’: mor anghyfarwydd y geiriau hyn i gynifer o Gristnogion.  Mor ddieithr y neges am Ailddyfodiad ein Harglwydd.  Mor dawel fu’r Eglwys ynglŷn â’r gwirionedd y soniodd Iesu ei hun amdano: ‘A’r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna’r anfona ef ei angylion a chynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o   eithaf y ddaear hyd eithaf y nef’ (Marc 13:26–27).   Ac mor amharod fuom i gyhoeddi gyda’r Apostol Paul: ‘Pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn cyfodi yn gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn barhaus’ (1 Thesaloniaid 4:16–17).

Ar un wedd, nid syndod fod yr Eglwys mor dawel ynghylch yr Ailddyfodiad.  Mae’r cyfan mor ddieithr: diwedd y byd; dydd barn; dychwelyd ar gymylau’r nef; atgyfodiad y meirw.  A’r cyfan wrth gwrs y tu hwnt i’n profiad gan nad yw wedi digwydd eto.  Ond nid yw hynny’n rheswm  dros beidio â derbyn yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu.  Trwy ffydd y credwn y pethau hyn yn union fel mai trwy ffydd y credwn fod Iesu Grist wedi ei eni ac wedi byw a marw ac atgyfodi.

Tybed mai un o gymwynasau’r Adfent yw ei fod yn cyfeirio at yr Ailddyfodiad?  Wrth ddathlu’r Nadolig a diolch am ddyfodiad Mab Duw i’r byd, edrychwn ninnau heibio i hynny er sicrhau ein bod, trwy ffydd yn Iesu Grist, yn barod at ddydd mawr ei ddychweliad.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Rhagfyr, 2018

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: