Doeddwn i’n cofio dim am y trychineb a ddioddefodd tref Mariana yn nhalaith Minas Gerais ym Mrasil ar Dachwedd 5ed, 2015. Lladdwyd 19 o bobl wedi i argae ddymchwel gan dywallt tunelli o wastraff gweithfeydd mwyn haearn dros ardal eang. Roedd yn drychineb amgylcheddol yn ogystal â dynol. Mi gafwyd adroddiadau amdano ar y pryd gan y BBC ac eraill (fel y gwelais neithiwr wrth chwilio amdanynt). Ond un ai mi anghofiais y cyfan neu mi lwyddais i beidio â chlywed dim ar y pryd. Byddai’n dda gen i pe na fyddwn i a chithau wedi cael ein hatgoffa o’r hyn a ddigwyddodd yno dair blynedd yn ôl. Ond cael ein hatgoffa a gawsom trwy’r adroddiadau am drychineb gwaeth a ddigwyddodd ddydd Gwener yn yr un dalaith.
Y tro hwn, cadarnhawyd fod 34 o bobl wedi eu lladd wedi i argae arall ddymchwel, ger tref Brumadinho. Ond mae oddeutu 300 o bobl ar goll. Ofnir eu bod i gyd wedi eu lladd. Yr un oedd yr amgylchiadau ag yn 2015, tunelli o wastraff gweithfeydd mwyn haearn yn llifo a lladd. Mae’n anodd peidio â dwyn i gof drychineb Aberfan pan glywn am drychinebau a achosir gan wastraff diwydiannol.
Mor ddychrynllyd o drist yw meddwl am drychineb arall ym Mrasil, yn yr un dalaith, a’r un cwmni’n gyfrifol am y ddau safle. Does ryfedd fod pobl eisoes yn gofyn a ddylasai’r cwmni neu rywun arall fod wedi rhagweld y peryg y byddai’r un peth yn medru digwydd eto. Pwy all eu beio am ofyn hynny?
Yn Brumadinho heddiw mae yna bobl yn galaru ac yn ofni’r gwaethaf. Mae yna bobl sy’n ddig wrth eraill ac yn gweld bai arnynt. Mae yna bobl a fydd yn byw mewn ofn y gall hyn ddigwydd eto rywle arall, yng nghysgod argae arall, ger gwaith mwyn haearn arall. Gallwn ddeall eu hofnau; a gallwn gydymdeimlo â nhw yn eu gofid.
Unwaith yn rhagor, fel sy’n digwydd mor aml pan glywn am ddigwyddiadau trasig mewn gwahanol rannau o’r byd, teimlwn mor ddiymadferth. Gwyddom nad ydym ond torf o wylwyr yn gweld o bell ddioddefaint mawr y cymunedau a’r teuluoedd a’r unigolion sydd wedi dioddef mor erchyll. Gwyddom hefyd y byddwn, er gwaetha’r cydymdeimlad a deimlwn heddiw, yn fuan iawn wedi anghofio am bobl Brumadinho. Onid yw hynny bron yn anorfod wrth i bethau eraill gael sylw’r cyfryngau ac wrth i ninnau droi ein sylw at bob math o ddyletswyddau a bwrw ymlaen â’n bywydau? Ond heddiw, a thros y dyddiau nesaf, tra’r ydym yn cofio, mi fedrwn ddod â phobl Brumadinho a Minas Gerais yn eu galar a’u poen at Dduw yn ein gweddïau. Pa fudd a ddaw o wneud hynny? Pa wahaniaeth a wnaiff ein gweddïau ni a gweddïau pobl eraill i bobl Brumadinho? Wn i ddim. A dweud y gwir, does gen i mo’r syniad lleiaf. Mi adawaf hynny i Dduw, sy’n fwy nag abl i gynnal a chysuro. Gweddïwn, gan ymddiried y gweddill i Dduw ei hun.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Ionawr, 2019