Gweddi am heddwch

Ionawr 13, 2019

college_green,_westminster

Pwy a ŵyr beth a ddigwydd yn San Steffan yr wythnos hon?  Mae’r Senedd i fod i bleidleisio ddydd Mawrth o blaid neu yn erbyn y cytundeb a sicrhaodd Theresa May gyda’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb.  Mae’n debyg y cynhelir y bleidlais, ond fyddai neb yn synnu erbyn hyn pe byddai’n cael ei gohirio unwaith eto.  Mae wedi bod yn amhosibl rhagweld yr hyn a ddigwyddodd dros y misoedd diwethaf.  Os bydd yr Aelodau Seneddol yn bwrw pleidlais, ac os – fel y tybir – y caiff cytundeb Mrs May ei wrthod, pwy a ŵyr beth a ddigwydd nesaf?  Etholiad Cyffredinol?  Refferendwm arall?  Neu a welir y Senedd yn cymryd cyfrifoldeb am y cyfan ac yn ceisio datrys yr holl lanast ei hunan?

Beth bynnag a ddigwydd, mae’n anodd peidio â meddwl y gwelir gwaethygu’r tensiynau presennol sy’n bygwth ein cymdeithas yn y gwledydd hyn.  Roedd pethau’n danllyd a chas yn Llundain yr wythnos ddiwethaf. Ni fyddai’n syndod os ceir golygfeydd tebyg yr wythnos hon eto. A beth bynnag a ddigwydd ddydd Mawrth, bydd y dadlau’n parhau a misoedd os nad blynyddoedd o drafod pellach i ddod.  Un o’r ychydig bethau y gallwn ei ddweud yn hyderus yw bod yr holl drafodaeth ynghylch  Brexit wedi creu rhaniadau dwfn, neu wedi dod â rhaniadau a oedd yn llechu dan y wyneb yn y gwledydd hyn i’r amlwg.  Mae’r cyfan wedi esgor ar ddadlau a ffraeo, ac at ymosodiadau geiriol hynod o gas ar wleidyddion a newyddiadurwyr a darlledwyr, ond hefyd ar fewnfudwyr a chymdogion a châr fel ei gilydd.  Gwaethaf pethau yw’r posibilrwydd real nad yw hyn oll ond megis dechrau.  Oherwydd mae dyfnder y tensiynau presennol, a chieidd-dra’r geiriau, ac o bosibl yn waeth na dim afresymoldeb cymaint o’r rhagfarnau a’r dadleuon yn gwneud i mi ofni y gallai’r cyfan arwain at waeth o lawer na gweiddi a ffraeo a galw enwau cas.  Nid yw’n amhosibl i’r cyfan esgor ar drais a therfysg ac ymladd ar strydoedd y gwledydd hyn.  Nid yw hynny’n rhwym o ddigwydd wrth gwrs, ac rwy’n gobeithio’n fawr na wireddir f’ofnau.  Ond mae unrhyw un sy’n credu fod pobl y gwledydd hyn yn gallach na hynny a rywsut yn ddiogel rhag y fath berygl yn ei dwyllo ei hun ac yn anghofio mai cam bychan sydd yn aml o’r geiriau i’r ymddygiad cas a threisiol.

Nid bygwth gwae na chodi braw yw’r bwriad wrth ddweud hyn ond yn hytrach annog pawb ohonom i weddïo na ddaw hyn oll i fod.  Ar ddechrau blwyddyn a all fod yn dyngedfennol ar lawer ystyr i’r cenedlaethau nesaf yn y gwledydd hyn, gweddïwn y gall pobl drafod yn synhwyrol a pharchus, ac na welwn ddirywiad pellach ym mherthynas pobl a’i gilydd.  Gweddïwn, beth bynnag y penderfyniadau gwleidyddol, na welwn ddyfnhau’r casineb sy’n dod i’r wyneb mor aml heddiw, ac y cedwir y gwledydd hyn a’u pobl rhag llithro i drais ac ymladd.  A gweddïwn y bydd ein cymdeithas yn wâr a chyfiawn.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 13 Ionawr, 2019

 


Gobaith a gweddi

Ionawr 13, 2019

2019-welsh-calendars-tabs-insets-3-500x500

Mae pawb yn bwriadu’n dda, ond gall ein geiriau ar ddechrau blwyddyn fod yn wag ac ystrydebol. ‘Have a good year’ oedd cyfarchiad un dyn wrth i mi dalu am betrol nos Galan, fel petai gen i’r gallu i sicrhau peth felly.

Roedd John Lennon yn nes ati mae’n debyg:

‘A very merry Christmas

and a happy New Year,

Let’s hope it’s a good one

without any fear’.

Gobeithio oedd o am flwyddyn dda a dibryder. Roedd y gân hon yn ein herio i ddymuno’r gorau ar ddechrau blwyddyn. Mae’r geiriau’n dal i herio’r byd gan atgoffa pobl fod modd iddynt, os dymunant,  wneud pethau a fydd yn sicrhau blwyddyn dda a dibryder.  O ran baich John Lennon dros ddod â rhyfeloedd i ben, mae’n amlwg ein bod yn dal i ddisgwyl i’r byd ddymuno hynny.  Ond o leiaf, gallwn fel Lennon obeithio am hynny a sawl peth arall.

A ‘Blwyddyn Newydd Dda’ meddwn ninnau mor rhwydd. Ond a oes modd i ni sicrhau nad geiriau ystrydebol ydynt ar ddechrau blwyddyn?  Oes mae’n debyg trwy gofio nad addewid ond dymuniad yw’r geiriau.  Fedrwn ni ddim addo blwyddyn dda i’n gilydd; fedrwn ni ddim gwarantu peth felly i ni’n hunain nac i neb arall.  Ond mi fedrwn ddymuno hynny i’n gilydd.  Gyda John Lennon, gallwn obeithio am beth felly i’r naill a’r llall.

Ond gallwn wneud mwy na hynny. Ar ddechrau blwyddyn newydd gallwn weddïo dros ein gilydd, a gweddïo yn benodol ar i’r flwyddyn newydd esgor ar fendithion o bob math.

Ond beth ydi blwyddyn dda? Beth fyddai blwyddyn dda eleni?  Ai blwyddyn y mae popeth yn mynd o’n plaid ynddi?  Mor braf fyddai meddwl bod peth felly’n bosibl. Dyna wedi’r cyfan y byddai pawb ohonom yn ei ddymuno i’n gilydd.  Ond yn y byd amherffaith hwn gyda’i ddioddefiadau a’i broblemau, mor annhebygol yw hynny.

Beth ynteu fyddai blwyddyn dda?  Blwyddyn heb lawer o broblemau a gofidiau?  Ie o bosibl.  Ond tybed nad oes gwell na hynny i bobl ffydd?  Onid blwyddyn dda eleni fydd ein bod yn ymwybod â  gofal Duw amdanom, beth bynnag a ddigwydd?  Blwyddyn dda fydd gwybod fod Duw yn rhoi ei nerth a’i gymorth hyd yn oed pan fo pethau’n galed ac anodd.  Blwyddyn dda fydd profi diddanwch yng nghanol pob dioddefaint a phrofedigaeth, a medru byw bob dydd gan wybod fod yr Arglwydd ei hun yn gwmnïaeth ac yn gymorth beth bynnag a wynebwn. Blwyddyn dda fydd gwybod bob dydd am law’r Arglwydd ‘â’i gafael ynof er nas gwelaf hi’.

Feiddiwn ni ddweud y gall y gwaethaf o flynyddoedd, trwy ras a thrugaredd Duw, fod yn dda os gwyddom am ei nerth a’i gynhaliaeth a’i obaith Ef yn ein cynnal a’n cynorthwyo?

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Ionawr, 2019