Mary a Domingo

_105251431_gettyimages-1084960140

Gallasai canlyniad un o gemau Uwch Gynghrair Lloegr bnawn ddoe fod: St Mary’s Young Men’s Association Football Club 2, St Domingo Football Club 1.  Mae’n dipyn haws dweud ‘Southampton 2 Everton 1’.

Mae’r gyfrol Thank God for Football yn olrhain hanes dwsin o glybiau sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr a ffurfiwyd yn gysylltiedig ag eglwys. Dau ohonynt yw Everton (a ffurfiwyd yn 1878 dan nawdd Wesleaid capel St Domingo’s) a Southampton (a ffurfiwyd yn 1885 dan nawdd eglwys Anglicanaidd St Mary’s). Diddorol yw nodi bod y cyswllt wedi ei gydnabod yn 2001 trwy enwi stadiwm newydd Southampton,  ‘St Mary’s Stadium’.

Peter Lupson yw awdur y gyfrol fach ddifyr hon, ac y mae’r bennod ar glwb Southampton yn arbennig o ddiddorol.  Basil Wilberforce oedd rheithor St Mary’s pan ffurfiwyd y tîm pêl droed gan aelodau cymdeithas gwŷr ifanc yr eglwys.  Roedd Basil yn ŵyr i William Wilberforce a fu’n arwain yr ymgyrch i ddileu Caethwasiaeth oddi mewn i’r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn fab i Samuel Wilberforce a fu’n Esgob Rhydychen.  Cawsai Basil ei addysg yn Ysgol Fonedd Eton ac un o golegau Rhydychen. Deuai felly o gefndir breintiedig, â’r Frenhines Fictoria yn fam fedydd iddo hyd yn oed.  Ond yr hyn sy’n ddiddorol yw ei fod ef, fel cymaint o rai tebyg, yn gweinidogaethu mewn ardaloedd tlawd ac anodd.  Un wedd ar weinidogaeth Wilberforce a’i debyg oedd eu pwyslais ar yr ‘Efengyl gyhyrog’. Roeddent yn darparu pob math o weithgareddau er mwyn denu pobl oddi wrth fywyd ofer, anfoesol a gwastraffus. Yr oedd i chwaraeon le amlwg am eu bod yn argyhoeddedig fod yr Efengyl yn cynnig bywyd iach, yn gorfforol yn ogystal ag ysbrydol. Roedd y term ‘Efengyl gyhyrog’ yn ddieithr i mi er fy mod yn gyfarwydd â defnyddio chwaraeon i genhadu neu rannu’r Efengyl. Yn sicr, mae Cynllun Efe wedi hen arfer â gwneud hynny.

Ond yr hyn a werthfawrogais fwyaf o ddarllen am glwb pêl droed St Mary’s oedd y dyfyniadau o gylchgrawn plwyfol Basil Wilberforce sy’n dangos fod ei bwyslais ef ar les ysbrydol ei blwyfolion ac aelodau Cymdeithas Gwŷr Ifanc yr eglwys.  ‘Cymdeithas bersonol â Christ yw’r gyfrinach … Mae bod yn Gristion yn fwy na dim ond proffesu ffydd neu gydymffurfio â chred; mae’n golygu cyswllt agos rhwng Crist a’r enaid; nid efelychu  esiampl berffaith, ond cael ysbryd nerthol o’n mewn.’ Roedd Wilberforce wedi ei deall i’r dim.  Ar y naill law, mae’n pwysleisio nad dod i oedfa yw dechrau a diwedd Cristnogaeth, ond ar y llaw arall mae’n gofidio erbyn 1888 nad yw pob aelod o’r tîm pêl droed yn mynychu oedfa neu’n cymryd rhan yng ngwaith yr  eglwys leol.  Iddo ef,  perthynas bersonol a Christ trwy ffydd yw’r man cychwyn, a hynny’n arwain at addoli a gwasanaethu Crist o fewn cymdeithas yr eglwys.  Mae hynny’r un mor wir i ninnau heddiw.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Ionawr, 2019

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: