
Doeddwn i ddim yn adnabod Paul Flynn a fu farw ddydd Sul diwethaf. Unwaith yn unig y bûm yng nghwmni’r gŵr bonheddig a fu’n aelod seneddol dros etholaeth Gorllewin Casnewydd ers 1987. Ond a bod yn onest, nid yw dweud i mi fod yn ei gwmni’n gwbl gywir chwaith.
Wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau oedd hi, fis Awst 2016. Os buoch yn yr Eisteddfod ar Ddôl y Castell yng nghanol Y Fenni mi gofiwch fod y meysydd parcio ddwy neu dair milltir oddi yno, a bysus i fynd â chi i Faes yr Eisteddfod. Yn un o’r meysydd parcio hynny y gwelais i Paul Flynn. Wnes i ddim siarad ag o: fel y dywedais, doeddwn i ddim yn ei nabod. Ond roeddwn yn yr un ciw ag o, yn aros am y bws. Roedd y ciw yn hir iawn, ac roedd yn amlwg y byddai sawl bws wedi dod a mynd cyn y byddem yn cyrraedd blaen y ciw.
Does fawr o ddim y medrwch ei wneud mewn ciw, heblaw ciwio. Ond o leiaf mewn ciw eisteddfodol mi fedrwch chi sbïo o’ch cwmpas i weld pwy arall sydd yno. Oes rhywun yr ydych yn ei nabod? Oes wynebau cyfarwydd? Oes rhywun enwog? Dyna pryd y gwelsom Paul Flynn. Roedd y tu ôl i ni, yn nes at gefn y ciw na’i flaen. Nid ni yn unig a’i gwelodd. Roedd un o stiwardiaid y maes parcio wedi sylwi arno ac wedi mynd ato i’w nôl i flaen y ciw. O bosib iddo weld golwg fregus ar Mr Flynn: roedd y gŵr bonheddig dros ei bedwar ugain a heb fod yn dda ei iechyd. Ond mae’n fwy tebygol i’r stiward fynd ato am mai fo oedd yr aelod seneddol lleol. Siawns mai un o freintiau’r swydd honno yw nad oes rhaid ciwio? Ond gwrthod y gwahoddiad i symud i’r blaen a wnaeth Paul Flynn, er i’r stiward ac eraill bwyso arno.
Na, wnaethom ni ddim siarad ag o’r bore hwnnw. Ond roeddem yn teimlo er hynny ein bod wedi dod i’w nabod. Yn sicr fe welsom ostyngeiddrwydd y dyn. Mor hawdd fyddai iddo fod wedi mynd i flaen y ciw. Go brin y byddai neb wedi cwyno o gofio mor boeth oedd hi ac mor fregus oedd o. Ond aros ei dro fel pawb arall a wnaeth.
Doedd Paul Flynn ddim yn ei gyfrif ei hun yn well nac yn bwysicach na’r bobl eraill a safai yn y cae hwnnw. Y bore hwnnw, eisteddfodwr cyffredin oedd yntau, yn amlwg yn ei uniaethu ei hun â’r gweddill ohonom. Mynnai wynebu’r un amgylchiadau a’r un trafferthion â ni gan wrthod llwybr hawdd. Ac yn hyn o beth, gwelsom ynddo rywbeth a’n hatgoffai am yr un y dywedodd Paul arall amdano: ‘Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes’ (Philipiaid 2:6–8). Dyma’r Crist y cawn ein hannog gan Paul i gredu ynddo ac i fod o’r un agwedd meddwl ag ef.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Chwefror, 2019