Dieithryn?

‘Byddi ar dy ennill o beidio â’i adael yn yr eglwys fel dieithryn … Rhaid i ti fynd ag ef gyda thi i’th ystafell ac i’th dŷ. Ni ddylet ei gyfarch unwaith yr wythnos neu unwaith y mis, neu pa mor aml bynnag y byddi’n mynd i’r eglwys, ond rhaid iddo fod gyda thi ym mhobman fel hen gyfaill, rhaid iddo fod wrth dy fwrdd fel cydnabod annwyl a chydymaith gorau.’

Wyddoch chi am beth y mae’r geiriau hyn yn sôn?  Aralleiriad ydyn nhw o eiriau a gyhoeddwyd gyntaf bron i 400 o flynyddoedd.  (Cyfieithiad Saesneg o’r geiriau welais i’r dydd o’r blaen, a chan i mi fethu â dod o hyd i’r gwreiddiol rhaid bodloni am y tro ar yr aralleiriad uchod.)  Ond am beth mae’r geiriau’n sôn?  Pwy neu beth sydd fel hen gydnabod neu gyfaill gorau?

Os dywedaf mai am hwn y canodd y Ficer (Rhys) Prichard ers talwm bydd y mwyafrif ohonoch yn deall ar unwaith mai’r ‘Beibl Bach’ sydd dan sylw.

Mae’r Beibl Bach yn awr yn gyson

Yn iaith dy fam, i’w gael er coron;

Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw,

Mae’n well na thref dy dad i’th gadw.

Cyhoeddwyd ‘Y Beibl Bach’ yn 1630.  Nid dyna oedd ei deitl swyddogol wrth gwrs, fel petai’n grynodeb o’r Beibl neu’n Feibl cynnar ar gyfer plant bach.  Yr unig beth ‘bach’ amdano oedd ei faint o’i gymharu â’r Beiblau Cymraeg a gyhoeddwyd ers i gyfieithiad William Morgan ddod o’r Wasg yn 1588.  Dim ond Beiblau at ddefnydd yr eglwysi a gafwyd cyn cyhoeddi’r fersiwn hwn yn 1630 a oedd yn llai o lawer ei faint ac yn gymharol rad.  Golygai’r ddau beth hyn fod modd, am y tro cyntaf, i bobl fod yn berchen ar eu Beibl eu hunain.  Dyna  holl bwrpas ei gyhoeddi wrth gwrs; rhoi’r Beibl yn llaw pobl er mwyn iddyn nhw fedru ei ddarllen, a thrwy hynny ddyfnhau eu ffydd.

I’r mwyafrif ohonom, nid yw’r Beibl yn llythrennol yn ‘ddieithryn’ sy’n cael ei adael yn yr eglwys neu’r capel gan fod gennym gopi ohono gartref.  Mae’n bosib fod gennym fwy nag un copi.  Ond mae’n werth sylwi ar y geiriau uchod o’r Rhagymadrodd i’r ‘Beibl Bach’ a oedd yn annog pobl i drin y Beibl fel cydnabod a chyfaill a chydymaith gorau. Trwy gyhoeddi’r ‘Beibl Bach’ roedd modd bellach i’r llyfr dieithr ddod yn llyfr cyfarwydd i bobl.

Ond er i ni fod yn berchen ar sawl copi ohono gall Y Beibl fod yn ddieithryn i ninnau wrth iddo gael ei adael, nid yn yr eglwys neu’r capel, ond ar silff neu mewn cwpwrdd.  Mae’r geiriau a gyhoeddwyd yn 1630 yn anogaeth i ninnau heddiw.  Gwnawn gyfaill o’r Beibl.  Awn ag o gyda ni i’n cartrefi a’n stafelloedd.  Mynnwn ei gael gyda ni ym mhobman; mynnwn ei agor a’i ddarllen a myfyrio ynddo, fel y daw Gair Duw yn gydymaith gwerthfawr i ni bob dydd.  Ac o wneud hynny fe wireddir i ninnau’r addewid, ‘Byddi ar dy ennill’.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Chwefror, 2019

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: