Y di-ddeall

Chwefror 17, 2019

Roeddwn i’n arfer gwylio This Week ar nos Iau nes i mi flino ar arddull y cyflwynydd Andrew Neil.  Ac felly fyddaf fi ddim yn colli’r rhaglen pan ddaw i ben yn ôl a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf. Ond rwy’n dal i wylio Question Time a ddarlledir o’i blaen bob wythnos, er mai profiad rhwystredig fu’r gwylio hwnnw ers tro byd am fod mwyafrif y cwestiynau’n ymwneud â Brexit. Nos Iau, Mr Jacob Rees-Mogg oedd un o’r panelwyr.  Ac roedd o’n ddychrynllyd.

Mae Mr Rees-Mogg yn medru bod yn ddychrynllyd o nawddoglyd neu’n ddychrynllyd o ddiflas.  Ond y tro hwn dim ond dychrynllyd oedd o, gan iddo yn wirioneddol godi braw ar lawer o bobl gyda’i sylwadau am Ryfel y Böer yn ne Affrica dros ryw dair blynedd ar droad yr Ugeinfed Ganrif.  Y nesaf peth i ddim a wn i am Ryfel y Boer, ac mae’n ymddangos fod yr un peth yn wir am Mr Rees-Mogg er iddo swnio’n awdurdodol iawn. Rhwng 1899 a 1901 cadwyd oddeutu 200,000 o bobl  mewn gwersylloedd rhyfel gan y Prydeinwyr.  Y Böer (disgynyddion mewnfudwyr o’r Iseldiroedd a’r Almaen a Ffrainc)   ynghyd â thrigolion brodorol deheudir Affrica oedd y rhain.

Yr hyn sy’n ddychryn i mi, ac i bobl sy’n gwybod llawer iawn mwy na mi a Mr Rees-Mogg am y rhyfel hwnnw, yw ei fod yn dadlau fod y Prydeinwyr wedi llenwi’r gwersylloedd hyn â gwragedd a phlant er mwyn eu gwarchod a’u bwydo. Bu farw oddeutu 48,000 yn y gwersylloedd hynny, ac roedd hyd at 80% ohonynt yn blant dan 16 oed. Ond roedd Mr Rees-Mogg yn mynnu mai llefydd i warchod pobl oedd y rhain. Roedd yn ymwrthod â’r posibilrwydd bod y Llywodraeth a’r Ymerodraeth Brydeinig i’w beio mewn unrhyw ffordd am y miloedd a fu farw o newyn yn y gwersylloedd. Nid oedd mwy o farwolaethau yn y gwersylloedd nag yn Glasgow yn yr un cyfnod, meddai Mr Rees-Mogg yn hamddenol. Mae’n ddirgelwch pam y bu iddo gyfeirio at Glasgow mwy na’r un ddinas arall. Mae’n sicr y bu farw nifer fawr o bobl a phlant yno oherwydd tlodi a chyflwr gwael y tai ac ati, ond peth od iawn oedd clywed gwleidydd yn defnyddio trueni’r sefyllfa honno i gyfiawnhau’r marwolaethau yn y gwersylloedd.  

‘Mae’n rhaid i chi ddeall yr hanes,’ oedd cri Mr Rees-Mogg, ac yntau’n amlwg heb ddechrau ei ddeall. Mor debyg ydyw i’r bobl y soniodd Paul amdanynt wrth Timotheus, ‘Nid ydynt yn deall dim ar eu geiriau eu hunain, na chwaith ar y pynciau y maent yn eu trafod mor awdurdodol’ (1 Tim. 1:7). Peth ofnadwy yw clywed pobl yn doethinebu am bob math o bynciau mewn anwybodaeth. Ie, gwirioneddol ddychrynllyd yw bod pobl sydd mor barod i ystumio ffeithiau mewn safle mor ddylanwadol. Ac o gofio geiriau Paul, mor bwysig ydyw i bawb sy’n trafod y Ffydd a’r Efengyl a’r Beibl fod yn ddigon gostyngedig i geisio  goleuni Duw, rhag i ninnau ymwneud â’r pethau hyn heb eu deall.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Chwefror, 2019

Advertisements