
Maddeuwch nodyn personol heddiw gan ei bod yn ddeugain mlynedd ers i mi gychwyn fy ngweinidogaeth ym Mhen Llŷn. Cefais fy ordeinio yn Abersoch ar Fawrth 29ain, 1979, a dydd Sul, Ebrill 1af oedd y diwrnod cychwyn swyddogol yn yr Ofalaeth. Erbyn heno, felly, bydd union ddeugain mlynedd ers y diwrnod hwnnw.
Do, mi ddechreuais fy ngweinidogaeth ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill. Ac rwy’n dal i feddwl ei fod cystal ag unrhyw ddydd i wneud hynny gan na fedraf wadu mai’r hyn a fûm ers hynny, ar un ystyr ac yng ngolwg llawer, yw ffŵl sy’n cyhoeddi ffolineb. Ond nid fi yn unig, wrth gwrs; dyna’r gwir am bob gweinidog i Iesu Grist heddiw fel erioed.
Mae’r Apostol Paul yn ein helpu i ddeall hynny pan ddywed, ‘Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i’r rhai sydd ar lwybr colledigaeth’ (1 Corinthiaid 1:18). Y ‘gair am y groes’ yw’r neges am Grist yn marw dros bechaduriaid ar Galfaria; y newydd da bod maddeuant a bywyd i bawb sy’n ymddiried yn Iesu a’r hyn a wnaeth drosom ar y groes honno; y cyhoeddiad nad oes obaith i neb gerbron Duw oni bai ei fod yn pwyso ar yr Un a fu farw ac a ddaeth yn ôl yn fyw o’r bedd. I Paul, dyma’r neges fwyaf oll: ‘I ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw’. Dyna pam, wedi iddo ei chofleidio, y cysegrodd Paul ei holl fywyd a’i holl egni i’w chyhoeddi. Ond gwyddai er hynny mai ynfydrwydd oedd y neges hon yng ngolwg y bobl nad oedd yn ei chredu. Ynfydrwydd yw hi o hyd yng ngolwg y rhai nad ydynt yn ei chredu, ac fe glywn bobl heddiw yn mynnu mai diystyr, annealladwy ac amherthnasol yw pob sôn am groes a marwolaeth Crist dros eich pechod chi a minnau.
Ond am ei fod yn gwbl sicr mai gwir oedd yr Efengyl, bu Paul yn fodlon i’w roi ei hun yn llwyr i’w gwasanaethu, er i hynny ddod â llawer o ofid iddo. ‘Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref, yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain’ (1 Cor. 4:10). Dioddefodd Paul lawer am ei fod yn mynnu cyhoeddi’r Efengyl; ac roedd hynny yn ei wneud yn ffôl yng ngolwg y byd: ‘Ni yn ffyliaid er mwyn Crist … Ni yn wan … ninnau heb ddim parch’ (1 Cor. 4:9). Pobl i’w dirmygu oedd Paul a’i debyg am iddynt wneud rhywbeth a gyfrifid yn ffolineb yn sail i’w holl fywyd.
Nid yr Apostol Paul wyf fi, a thros y deugain mlynedd diwethaf diolch na phrofais y dioddefiadau a ddaeth i’w ran ef. Rwy’n ddiolchgar na fu raid i mi wynebu gwrthwynebiad mawr, ond yn gobeithio’r un pryd na fu hynny am na lwyddais i gyflwyno’r neges am Grist a’i groes yn ddigon eglur. Ond rwy’n deall, er hynny, mai’r hyn wyf a’r hyn a fûm yn aml yng ngolwg y byd yw ffŵl yn cyhoeddi ffolineb. Rwy’n fwy na bodlon ar hynny; a thrwy ras Duw mi arhosaf, os byw ac iach, yn un o’r ‘ffyliaid er mwyn Crist’, beth bynnag a ddywed neb amdanaf fi na’r Efengyl.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 31 Mawrth, 2019