
Dau neu dri enw sydd gan y mwyafrif ohonom. Mae gan eraill bedwar, ac ambell un fwy na hynny. Mae gan y Sul cyntaf wedi’r Pasg fwy o enwau nag a feddyliais i. Glywsoch chi alw’r diwrnod hwn yn Wython y Pasg neu Ddydd Octaf y Pasg; Pasg Bach neu Basg Bychan; Pasg Gwyn; Sul Thomas; Sul Adnewyddiad; neu hyd yn oed Sul Quasimodo? Defnyddir y gwahanol enwau gan wahanol draddodiadau’r Eglwys Gristnogol, megis yr Eglwys Babyddol neu Eglwys Uniongred y Dwyrain. Ond o fewn y traddodiad Protestannaidd y perthynwn ni iddo, ac yn arbennig draddodiad anghydffurfiol ein capeli, mae’r cyfan yn ddieithr.
Yr unig un o’r enwau hyn a ddeallaf yn ddidrafferth yw ‘Sul Thomas’ gan mai cyfeiriad ydyw at Thomas yn gweld Iesu wythnos wedi atgyfodiad Iesu (Ioan 20:24–29). Am ryw reswm, doedd Thomas ddim efo’r disgyblion eraill pan ddaeth Iesu atynt nos Sul y Pasg; a phan ddywedwyd wrtho eu bod wedi ei weld, gwrthododd Thomas â chredu. Mynnodd na fyddai’n credu fod Iesu’n fyw os na chai weld ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a hyd yn oed roi ei fys yn yr olion hynny. Ymhen yr wythnos, felly, daeth Iesu atynt eto, a’r tro hwn roedd Thomas yno hefyd. Ac er i Iesu ei wahodd i roi ei fys yn ôl yr hoelion ni ddywedir ei fod wedi gwneud hynny. Roedd gweld Iesu’n ddigon i Thomas gredu ei fod yn fyw. Un o’r pethau mwyaf cofiadwy o’r hanes hwn am yr amheuwr Thomas yw geiriau Iesu Grist, ‘Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu?Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld’ (adnod 29). Wrth ddweud hyn, roedd Iesu’n cyfeirio at y miliynau o bobl dros y canrifoedd a ddeuai i gredu ynddo er na fyddent yn ei weld â’u llygaid naturiol. Ond trwy ras Duw, byddent yn ei weld trwy ffydd ac yn credu’r hyn a ddywed Y Beibl am ei fywyd, ei farwolaeth, ei atgyfodiad, ei esgyniad a’i ailddyfodiad.
Ond beth am yr enwau eraill? Un peth a ddangosant yw bod dathliadau’r Pasg, i rai traddodiadau eglwysig, yn para mwy nag un dydd. ‘Wython (neu Octaf) y Pasg’ yw’r wyth niwrnod o Sul y Pasg hyd y Sul canlynol; a ‘Dydd Octaf y Pasg’ yw’r Sul hwnnw, y Sul wedi’r Pasg. Mae rhai traddodiadau ac eglwysi Cristnogol yn dathlu’r Pasg dros wythnos gyfan. Sul y Pasg yw dydd atgyfodiad Iesu wrth gwrs, ond rhoddwyd yr enw ‘Pasg Bach’ i’r Sul dilynol sy’n cloi’r dathliadau.
Ond ‘Sul Quasimodo’? Geiriau cyntaf gweddi agoriadol gwasanaeth Lladin ar gyfer y Sul hwn oedd: ‘Quasi modo geniti infantes’ (‘Fel babanod newydd eu geni’, 1 Pedr 2:2). Ystyr ‘quasi modo’ felly yw ‘fel’ neu ‘mewn modd tebyg’. Roedd ‘Sul Quasimodo’ yn bod cyn y cymeriad ffuglennol o’r un enw yn nofel Victor Hugo am y Dyn Crwbi o Notre Dame. Yn y nofel, dywedir i’r enw gael ei roi iddo un ai am iddo gael ei ganfod ar y Sul arbennig hwn, neu am ei fod ‘fel’ neu ‘bron â bod’ yn ddyn.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Ebrill, 2019