
Y siom i mi oedd na chaed gan Mrs May gân wedi’r cyhoeddiad, a minnau wedi tybio bod David Cameron wedi gosod cynsail i’w olynwyr wedi iddo ganu nodyn neu ddau’n galonnog wrth gamu trwy ddrws 10 Stryd Downing ar ei ymddiswyddiad dair blynedd yn ôl.
Fe dalwyd teyrngedau ddydd Gwener i Theresa May wedi iddi gyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ar Fehefin 7fed. Druan ohoni, nid yn unig yn cael ei gwthio o’r neilltu gan ei phlaid ei hun ond yn cael y fraint o aros yn ei swydd ddigon hir i orfod croesawu’r Arlywydd Trump ddechrau’r wythnos olaf wrth y llyw. Halen ar y briw fydd hynny!
Ond nôl at y teyrngedau. Cymaint o ganmol, cymaint o edmygedd, cymaint o bethau da’n cael eu dweud am Mrs May. Ymhlith y mwyaf brwd eu clod yr oedd rhai a fu’n rhannol, os nad yn bennaf cyfrifol am ei chwymp: rhai a ymddiswyddodd o’i Llywodraeth; rhai a wrthododd gefnogi ei Chynllun; rhai a fu’n cynllwynio’r llynedd i’w disodli; rhai a fu’n llafar eu beirniadaeth ers misoedd. Mor rhwydd yw beirniadu; ond mor rhwydd hefyd yw gwenieithu, a rhagrithio os oes rhaid. Mae mwy nag un o gyfeillion tybiedig Prif Weinidog San Steffan yn feistri ar y grefft.
Ac mor rhwydd i ninnau ymosod yn eiriol ar eraill; a’r geiriau’n niweidio a chlwyfo a lladd. Yn y Beibl, mae Llythyr Iago’n sôn am y drwg yn ogystal â’r da y medrwn ei wneud â’n geiriau. ’Y mae’r hil ddynol yn gallu rheoli pob math o anifeiliaid ac adar, o ymlusgiaid a physgod; yn wir, y mae wedi eu rheoli. Ond nid oes neb sy’n gallu rheoli’r tafod. Drwg diorffwys yw, yn llawn o wenwyn marwol. Â’r tafod yr ydym yn bendithio’r Arglwydd a’r Tad; â’r tafod hefyd yr ydym yn melltithio’r rhai a luniwyd ar ddelw Duw. O’r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod’ (Iago 3:7-10). Gallwn ganmol a bod yn garedig un funud a sarhau a lladd ar bobl y funud nesaf. Gall geiriau wneud drwg mawr; mwy o ddrwg nag a feddyliwn ni’n aml. Ac fel y dywed Iago, ‘Nid felly y mae pethau i fod’.
Ydi, mae Iago’n siarsio’i ddarllenwyr i ymdrechu i reoli’r tafod am fod eu geiriau’n medru brifo ac achosi pob math o ddrwg. Mae Iago yn cychwyn efo’n geiriau, ac yn meddwl am yr hyn sy’n deillio ohonynt. Ond mae Iesu Grist fel petai’n cymryd cam yn ôl o’r fan honno. Nid cychwyn efo’n geiriau a wna Iesu, ond efo’n calonnau. Mae’n ein siarsio i fod yn ofalus o’r hyn a ddywedwn am fod geiriau, fel gweithredodd, yn datgelu’r galon. ‘Y mae’r pethau sy’n dod allan o’r genau yn dod o’r galon, a dyna’r pethau sy’n halogi rhywun. Oherwydd o’r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu’ (Mathew 15:18-19). Nid y geg, medd Iesu, yw gwreiddyn y drwg, ond y galon. Er mwyn rheoli fy nhafod, mae’n rhaid trin fy nghalon.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Mai, 2019