
Aw! Roedd fy nghlust a’m pen yn brifo. Fedrwn i ddim peidio â gweiddi. Ia, gweiddi yn y car gan mai dyna ble’r oeddwn ar y pryd, “Na! Na! Na-aaa!”
Roeddwn rywfaint gwell ar ôl y waedd. Ond dwi’n dal i wingo wrth gofio’r boen a deimlais o glywed y gair erchyll ar y radio.
Lamineiddio, imwneiddio, coloneiddio, clorineiddio: mae’r geiriau hyn yn y geiriadur ers talwm. Defnyddiwch nhw ar bob cyfrif. Y gair sy’n achosi cur pen bob tro y byddaf yn ei glywed yw ‘nomineiddio’! Plîs, plîs, benaethiaid S4C, cynhyrchwyr Radio Cymru a golygyddion papurau a chylchgronau, gwnewch hi’n drosedd i gyflwynwyr a gohebwyr ddweud ac ysgrifennu’r gair. Gorfodwch bob un ohonyn nhw i ddweud rhywbeth fel ‘enwebu’ neu ‘enwi’, a rhowch ddirwy drom iddyn nhw os na fyddan nhw’n ufuddhau. Oherwydd ni ddylid ar unrhyw gyfrif normaleiddio defnyddio ‘nomineiddio’.
Rwy’n casáu’r gair â chas perffaith.
Ond tybed oes yna o fewn ein geirfa grefyddol, eiriau y mae rhai’n eu casáu, er nad geiriau dieithr mohonynt ond hen eiriau a fu’n rhan o iaith y Beibl a’n geirfa Gristnogol o’r cychwyn? Tybed pa eiriau sy’n gwneud i rai pobl, o’u clywed, weiddi mewn protest yn nyfnder y galon os nad yn gyhoeddus?
‘Pechod’ o bosibl yw un o’r geiriau na all pobl ei oddef , am na allant dderbyn yr hyn a ddywed y Beibl trwyddo am ddrygioni a gwrthryfel pawb ohonom yn erbyn Duw.
Geiriau a gaiff lai fyth o groeso yw ‘barn’ ac ‘uffern’, a hawdd iawn yw dychmygu gwrthwynebiad pobl i bob awgrym bod a wnelo colledigaeth a chosb ag ymateb Duw i’n pechod.
Mae’r geiriau ‘tröedigaeth’ ac ‘aileni’ yn aml yn codi gwrychyn pobl am eu bod yn disgrifio profiad sy’n anodd i lawer ei amgyffred. Ond mae’r profiad hwnnw, er ei fod yn amrywio’n fawr o ran ei amseriad a’i gyffro (neu ddiffyg cyffro hyd yn oed) yn sylfaenol i’r bywyd Cristnogol.
Mwy annisgwyl fyddai cynnwys ‘gras’ a ‘maddeuant’ ymhlith y geiriau y gall pobl eu casáu, ond gall hyd yn oed y geiriau melys hyn fod yn gur pen i rai. Gallaf ddychmygu ambell un yn cael ei gythruddo o glywed bod maddeuant Duw ar gael i bawb sy’n edifarhau ac yn credu yng Nghrist, pa bechodau bynnag y maent yn euog ohonynt. Ac mae’n siŵr bod yna rai sy’n wfftio’r syniad mai gras Duw, yn hytrach na’r hyn a wnawn ni, a ddaw â ni at Dduw. Er mor rhyfeddol yw gras a’i neges ein bod yn derbyn trwy Grist yr hyn na fedrwn fyth ei haeddu, y mae’r gair ‘gras’ yn wrthun i bwy bynnag sy’n mynnu credu y medran nhw wneud rhywbeth i haeddu cael dod at Dduw. Boed i Dduw drugarhau wrthym, er sicrhau na all geiriau’r Beibl fyth fod yn gur pen i’r un ohonom ni.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Mehefin, 2019