Dydd Iau

Mehefin 2, 2019

Mae’n ddydd Iau. Wir i chi. Beth bynnag a ddywed y calendr ar y wal a’r dyddiadur yn eich poced ac ar sgrin eich ffôn, dydd Iau yw hi arnaf yn sgwennu’r geiriau hyn.  Dydd Iau, Mai 29, neu yng Nghalendr yr Eglwys Gristnogol eleni, Dydd Iau Dyrchafael.

Byr iawn yw’r adroddiadau am ‘y dydd y cymerwyd ef i fyny’ (Actau 1:2); y dydd yr esgynnodd Iesu i’r nefoedd ddeugain niwrnod wedi iddo atgyfodi. Dim ond ychydig adnodau ar ddiwedd Efengyl Luc a dechrau Llyfr yr Actau, ac un adnod ar ddiwedd Efengyl Marc, sy’n cofnodi’r digwyddiad. Ond mae’r ychydig yn ddigon. Mae’r manylion yn fwriadol yn brin, rhag i ni o bosibl golli golwg ar y digwyddiad ei hun. Yr hyn a adroddir, ac yn amlwg yr hyn y mae gofyn i ni ei ddeall, yw bod Iesu Grist, a oedd y diwrnod hwnnw yng nghwmni ei ddisgyblion, wedi ei gymryd oddi wrthynt trwy gael ei godi oddi ar y ddaear cyn diflannu o’u golwg mewn cwmwl.

Ar un wedd, yr oedd esgyniad Iesu yn ddiweddglo: diwedd cyfnod a diwedd profiad. Bu’r disgyblion gydag ef gydol ei weinidogaeth. Gwelsant ei wyrthiau a chlywsant ei bregethau. Cawsant eu dysgu ganddo a mwynhau ei gwmni. Ac er ei gymryd oddi wrthynt a’i ladd ar groes, daeth Iesu’n ôl yn fyw, a gwelsant ef fwy nag unwaith yn ystod y deugain niwrnod ers ei atgyfodiad. Ond gyda’i esgyniad daw ei gyfnod ar y ddaear, ac felly ei bresenoldeb gyda’i ddisgyblion, i ben. Mae wedi mynd; mae wedi eu gadael. Ond yn annisgwyl ac yn syfrdanol, er iddynt ddeall hynny mae’r disgyblion yn llawen.  Maent yn addoli a llawenhau wedi i ddau ddyn mewn dillad gwyn ddod atynt a dweud bod Iesu wedi mynd i’r nefoedd ac y byddai’n ‘dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef’ (1:11).

Yn eu llawenydd tybed a gofient y geiriau hyn a ddywedodd Iesu cyn hynny? ‘Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi.’

Y gobaith mawr a rydd esgyniad Iesu  Grist yw ei fod wedi mynd i baratoi lle yn y nefoedd ar gyfer ei ddilynwyr. Cyflawniad llawn y gobaith hwn fydd y dydd y daw Iesu (yn ôl a ddywedodd ef ei hun a’r angylion) i gymryd pawb sydd wedi credu ynddo ato’i hun. Yn ei ailddyfodiad, bydd y credinwyr a fu farw ac sydd eisoes yn y nefoedd a’r credinwyr a fydd yn dal yn fyw, yn cael eu cymryd i’r lle a baratowyd ar eu cyfer gan Iesu Grist. Yr addewid sicr hon sy’n gwared Cristnogion rhag  anobeithio’n llwyr yn wyneb angau. Oherwydd gallwn ninnau gredu mai mynd i’r lle a baratowyd ar eu cyfer yr ydym ni a phawb o’n hanwyliaid sydd wedi credu yng Nghrist. Mynd adref i’r nef a wnaeth Iesu; a mynd adref hefyd a wnaiff pawb sydd yn ‘marw yn yr Arglwydd’.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 02 Mehefin, 2019

Advertisements