Na, nid bresych.

Mehefin 9, 2019

Mae’n debyg na ddylwn ddweud hyn, ond pwy all feio plant am beidio â bwyta bresych. Mi wn eu bod yn wyrdd ac yn faethlon, ond mae’n siŵr gen i y byddai llysieuwyr pybyr yn cydnabod nad bresych yw’r delaf na’r mwyaf blasus o blant llysiau. Pam felly y meddyliodd neb (a mwy na hynny, pwy a feddyliodd!) am roi bresych yn wobr i blant bach ar raglen deledu? Mae’n wir mai gwobr gysur (os gwobr hefyd!) oedd yr hen fresychen ar Crackerjack ers talwm, ond go brin i’r plant ei gwerthfawrogi. A gwobr gysur yw llawer o’r tlysau a gyflwynir o hyd i gystadleuwyr rhaglenni cwis y teledu a fethodd ag ennill y wobr go iawn yr oeddent wedi gobeithio ei chael.    

Cofio’r diwrnod yr anfonodd Duw ei Ysbryd Glân a wna Cristnogion ar Ŵyl y Pentecost heddiw. Dathlwn y rhodd arbennig a roddodd Duw i’w Eglwys. Roedd Iesu Grist wedi addo y byddai’r Ysbryd Glân yn dod arnynt. ‘Yr wyf fi’n dweud y gwir wrthych: y mae’n fuddiol i chwi fy mod i’n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw’r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe’i hanfonaf ef atoch’ (Ioan 16:7).  A chyn gadael ei ddisgyblion ac esgyn i’r nefoedd yr oedd wedi eu sicrhau: ‘Fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod      arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear’ (Actau 1:8).

Ar ddydd y Pentecost, fel y dengys ail bennodd Llyfr yr Actau, cyflawnwyd yr addewidion hyn yn nhywalltiad yr Ysbryd Glân ar y disgyblion. Ac mor bwysig yw cofio nad gwobr gysur mo’r Ysbryd.  Nid eilbeth mohono yn niffyg y gwir beth. Oherwydd Duw ei hun yw’r Ysbryd Glân hwn. Yn Iesu Grist, cawsai’r disgyblion gwmni Mab Duw dros gyfnod ei weinidogaeth ar y ddaear. Deng niwrnod cyn y Pentecost, roedd Mab Duw wedi eu gadael, ac fe lwyddodd y disgyblion i lawenhau er na fyddent yn ei weld mwyach. Yr   unig esboniad am eu llawenydd oedd bod y disgyblion yn deall y byddent yn yr Ysbryd Glân yn cael  cwmni Iesu a chwmni’r Tad nefol. Oherwydd person a addawyd iddynt, a pherson a ddeuai atynt. Nid dylanwad nac effaith na grym yw’r Ysbryd, ond person dwyfol.  Gwyddai’r disgyblion hyn oherwydd yr hyn a ddywedwyd amdano gan Iesu; ac aethant yn ôl i Jerwsalem yn llawen iawn wedi esgyniad Iesu am iddynt gael gwybod y byddai’r Ysbryd gyda hwy, yn gwmni ac yn gymorth iddynt, fel y bu Iesu cyn hynny. A thrwyddo byddai Iesu, fel yr addawodd, gyda hwy ‘hyd ddiwedd amser’ (Mathew 28:20). 

Na, nid gwobr gysur o unrhyw fath yw’r Ysbryd Glân ond Duw ei hun gyda ni. Gan mai person ydyw, gallwn alw arno i gyflawni ei waith.  Gallwn ymbil arno i lwyddo cenhadaeth Duw. Gallwn erfyn arno i’n harwain a’n  goleuo. Gallwn fod yn hyderus mai ei ddymuniad ef yw gweld Iesu Grist yn cael ei ogoneddu. Wrth geisio Ysbryd  Glân Duw, yr ydym yn ceisio Duw ei hun. Galwch arno.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Y Sulgwyn, 09 Mehefin, 2019