Nogaeth: Crefydd pwdin reis

A hithau’n ganol haf, mae’n debyg bod yna bwdinau mwy tymhorol, ond dwi am wneud pwdin reis. Mae mwy nag un ffordd o wneud pwdin reis mae’n debyg. Yn ôl rysáit ‘Cegin Bryn’ ar wefan S4C mae angen hufen tew, llaeth, fanila, melyn wy, siwgr mân, hufen dwbl a reis. Mae’n swnio fel lot o hufen! Ond ta waeth am hynny, fe ddilynaf y rysáit i’r llythyren, ac eithrio un peth bach. Dwi ddim am ddefnyddio reis.

Am ryw reswm na allaf ei ddeall mae miloedd ar filoedd o Gristnogion yr Unol Daleithiau’n gwbl gefnogol i Mr Trump. O’r herwydd dyw’r Arlywydd ddim wedi anelu ei hoff ddau air atyn nhw. Ond un peth sy’n sicr, pe gwelid nhw’n dechrau ei feirniadu am y peth lleiaf, buan iawn y byddai o’n ymosod arnyn nhw a’u Hefengyl efo’r geiriau, ‘Fake News’.

Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod yna bobl yr ochr yma i’r Iwerydd sydd dan ddylanwad yr Arlywydd. Mae’r modd y gwrthododd rhai gwleidyddion Prydeinig ei feirniadu am ei ymosodiad ar Kim Darroch, Llysgennad y Deyrnas Unedig, yn dangos hynny. Ni fyddwn yn awgrymu bod rhai o grefyddwyr Cymru yn eu plith, ac eto mae yna rai ohonynt hwythau’n ddigon Trumpaidd eu hagwedd. I’r Arlywydd, ‘Fake News’ – rhywbeth nad yw’n wir – yw unrhyw feirniadaeth arno ef, a phopeth na all ef ei dderbyn. I rai o grefyddwyr Cymru’r un modd, ‘myth’ – rhywbeth nad yw’n wir – yw popeth na allan nhw eu hunain ei gredu na’i dderbyn; myth yw popeth y mae’r Eglwys wedi ei gredu erioed am Dduw ac am Iesu Grist. A chyda’r un angerdd ag y mae Trump yn cyhoeddi ‘Fake News’ y datgan y bobl hyn mai ‘myth’ yw popeth a ddywed y Beibl ac mai ‘ffwndamentalwyr’ dwl a pheryglus yw pawb sy’n mynnu dal i gredu yng ngwirioneddau’r Beibl. Mae pobl gall a rhesymol, meddant wrthym, wedi hen droi cefn ar y credoau cyntefig yr arferai Cristnogion eu credu.

‘Fake News’ a ‘myth’, meddir, yw’r Efengyl a dysgeidiaeth y Beibl am Dduw a Christ a’r iachawdwriaeth. Ac oherwydd hynny mae angen ailfeddwl ac ailddiffinio Duw er mwyn cael rhyw fath o grefydd a fydd yn apelio at bobl ein hoes ni. Mae angen , meddir, llunio Cristnogaeth o’r newydd, er mwyn iddi apelio at genhedlaeth na all dderbyn hyd yn oed y syniad o Dduw sydd uwchlaw i ni, heb sôn am gredu yn y Mab a ddaeth yn un ohonom ni er mwyn byw a marw trosom.

Gymrwch chi bwdin? Un peth sy’n sicr, os nad oes ynddo reis, nid pwdin reis mohono. Waeth i mi heb â cheisio dadlau’n wahanol. A beth bynnag a ddywed neb, heb Feibl, heb Dduw’r Beibl, heb Grist, heb Ysbryd Glân, heb Efengyl, heb gred, nid Cristnogaeth sydd gennym. Ar bob cyfrif, lluniwn ein crefydd yn ôl ein ffansi, ond i ni gofio mai ‘Nogaeth’ fydd y grefydd honno.  Oherwydd tynnwn Grist o Gristnogaeth, a dyna fydd ar  ôl.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 14 Gorffennaf, 2019

Help i ddeall

Dim ond rhan o’r cyfweliad a glywais. Dim ond digon i ddeall y caiff miloedd o bunnoedd ei wario ar Ynys Cybi dros y flwyddyn neu ddwy nesaf i warchod yr amgylchedd a hybu’r economi. Ond digon hefyd i sylweddoli, at ddiwedd y cyfweliad, nad oedd yr holwr wedi deall bod yna bobl yn byw ar yr ynys hon! Rywsut, fe lwyddodd i ddod â’r cyfweliad i ben heb dynnu gormod o sylw at y ffaith na wyddai mai ar Ynys Cybi y mae tref Caergybi ei hun.

Ar ganol y sgwrs y gwawriodd ar yr holwr nad ynys bellennig a di-bobl oedd dan sylw.  Profiad digon tebyg yw dechrau sgwrs a sylweddoli wrth i’r sgwrs fynd rhagddi nad y person yr oeddech chi yn meddwl oedd o sy’n sefyll o’ch blaen. Mae rhywbeth y mae’n ei ddweud, neu  ryw ystum corfforol yn gwneud i chi sylweddoli mai person cwbl wahanol ydyw.  Ond ambell dro, nid yw’r wawr yn torri o gwbl, a daw’n amlwg cyn diwedd y sgwrs i ni gamgymryd y person am rywun arall.  Mae hynny bob amser yn gryn embaras.

Gall methu ag adnabod geiriau achosi embaras tebyg, yn arbennig eiriau’r Beibl. Peidio â chofio, er enghraifft, bod ambell enw, boed enw person neu enw lle, yn dod o’r Beibl. Mae hynny wastad yn dipyn bach o gywilydd i weinidog! Peidio ag adnabod adnod neu ran o adnod wedyn. Yn ddiweddar, o weld geiriau anghyfarwydd ar ddarn o gelf holais am eu hystyr a chael yr ateb gan y sawl oedd pia fo y dylwn i wybod gan mai dyfyniad o’r Beibl ydoedd. Gall yr un peth ddigwydd gydag emyn: clywed llinell neu gwpled ond methu’n glir â chofio dechrau’r pennill neu’r emyn.  Yr unig gysur yw nad oes modd i neb gofio pob gair o bob adnod a phob emyn.

Weithiau, mae gofyn bod yn ddigon dewr i gydnabod anwybodaeth.  Mae’n debyg y byddai’n ddoethach cyfaddef nad ydym yn cofio pobl na chymryd arnom ein bod yn gwybod yn iawn pwy ydyn nhw.

Mae’n sicr yn rheitiach i ni gydnabod nad ydym yn deall ambell ran o’r Beibl na chymryd arnom ein bod yn deall yn iawn. Os na wnawn ni hynny, does dim gobaith i neb ein helpu i ddeall; ond yn bwysicach, wnawn ni ddim gofyn i Dduw ei hun roi goleuni i ni ar rannau o’i Air sy’n ddieithr i ni.

Wrth ddarllen y Beibl, felly, ceisiwn gymorth Duw; ceisiwn ei help i ddeall yr hyn a ddarllenwn. Un o’r pethau sy’n medru digwydd wrth i ni ofyn i Dduw oleuo ei Air i ni yw ein bod yn gweld rhywbeth gwahanol a newydd mewn rhannau cyfarwydd o’r Beibl. Gallwn feddwl ein bod yn gwybod yn union beth yw ystyr adnod neu ddameg neu beth yw arwyddocâd ambell stori, ond wrth droi atynt eto, ac yn arbennig wrth wneud hyn yn weddigar, mi welwn rywbeth newydd ynddynt. Mae peth bob amser yn gwneud i ni ryfeddu at gyfoeth a dyfnder Gair Duw, sydd er yn hen, o hyd yn newydd ar ein cyfer.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 07 Gorffennaf, 2019