
Maddeuwch i mi am ddychwelyd at yr hyn y soniais amdano bythefnos yn ôl. Yr oedd gweithred Mr Boris Johnson i gau’r Senedd yn anghyfreithlon. Dyna oedd dyfarniad digamsyniol Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ddydd Mawrth diwethaf. Roedd yr un barnwr ar ddeg yn unfrydol eu penderfyniad. Dilëwyd y cau gan y Llys, a drannoeth roedd yr aelodau seneddol yn ôl wrth eu gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn ôl yr ymateb a fu i ddyfarniad y Llys, mae’n amlwg nad oedd nemor neb yn disgwyl hyn. Yn sicr, nid oedd neb wedi darogan dyfarniad unfrydol. Ond yr oedd trwch y gwleidyddion a’r sylwebwyr a’r gohebwyr yn gytûn bod y dyfarniad hwn yn cadarnhau nad oes neb, hyd yn oed y Prif Weinidog a’r Llywodraeth, uwchlaw’r Gyfraith.
Doedd Mr Johnson ddim gartref ddydd Mawrth. Tybed ai fo oedd yr unig un a ddisgwyliai’r dyfarniad a gafwyd, a’i fod yn hwylus iawn wedi gofalu ei fod yn ddigon pell i ffwrdd pan ddeuai hwnnw? Yn Efrog Newydd yr oedd, yn annerch y Cenhedloedd Unedig, er y byddai wedi bod yn gymwynas fawr â’r sefydliad hwnnw pe byddai wedi aros gartref o glywed mor annealladwy a charbwl oedd ei anerchiad!
Ond pan gafwyd ymateb ganddo, y gwir yw na fyddai neb wedi disgwyl dim gwahanol. A dyna sy’n gwneud pethau mor drychinebus o drist. Oherwydd, ymateb y Prif Weinidog oedd ei fod yn parchu’r dyfarniad ond yn anghytuno â’r Llys. Un o oblygiadau’r dyfarniad oedd nad oes neb uwchlaw’r Gyfraith, ond ni wnaeth ymateb Mr Johnson ond cadarnhau ei fod yn dal i’w ystyried ei hun uwchlaw iddi. Wfft i’r Gyfraith.
Dychmygwch bawb a ddyfarnwyd yn euog o dorri’r Gyfraith yn ymateb yn yr un modd. Dychmygwch lofruddion a threiswyr a lladron yn cael rhwydd hynt i gyhoeddi eu bod nhw hefyd yn anghydweld â phenderfyniad rheithgor a dyfarniad barnwr. Ni ddylai fod yn anodd i bechaduriaid ddychmygu hyn, a ninnau mor dueddol o gyfiawnhau ein tuedd ein hunain i dorri Cyfraith Dduw trwy fynnu bod ein safonau ni’r un mor ddilys ag eiddo Duw. Pa ots bod Cyfraith Dduw yn dweud un peth os mai fel arall y gwelwn ni bethau? Nid yr un yw camweddau Mr Johnson a’r troseddwyr uchod a ninnau, ond yr un yw’r egwyddor o fynnu bod ein barn ni’r un mor ddilys, os nad yn fwy dilys, na’r Gyfraith, boed honno gyfraith gwlad neu Gyfraith Dduw.
Wedi’r dyfarniad, roedd llawer yn pwyso ar Mr Johnson i ymddiswyddo, neu o leiaf i ymddiheuro. Doedd neb yn disgwyl y byddai’n gwneud hynny mewn gwirionedd. Ond prin y byddai neb wedi disgwyl y byddai ef hyd yn oed yn ddigon wyneb galed i ddadlau na wnaeth ddim o’i le ac nad oes a wnelo’r Goruchaf Lys ddim oll ag ef a’i benderfyniadau. Yn yr un modd yn union y bydd pobl yn dadlau eu bod yn parchu Duw, er eu bod yr un pryd yn dewis anwybyddu ei Gyfraith.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Medi, 2019