Yn ddeunaw oed

Ers blynyddoedd un arwydd sicr i mi o ddiwedd yr haf a dyfodiad tymor yr hydref yw’r rheidrwydd i ail afael yn y gwaith o baratoi Gronyn.  Mae’n rhaid cyfaddef nad yw hynny bob amser yn rhwydd i’w wneud gan fy mod i, fel y rhelyw o bobl, yn medru cynefino’n sydyn iawn â pheidio cyflawni rhai tasgau pan ddaw cyfle i’w rhoi heibio am sbel. Mi fyddaf yn dychryn yn aml o sylweddoli mor rhwydd y gallwn roi heibio pethau a fu’n arferion oes.  Mae Gronyn ymhell o fod yn arfer oes er, ar brydiau, ei bod yn anodd gennyf gofio diwedd wythnos waith heb fod angen ei baratoi. Ond heddiw, mae’n ddeunaw oed gan mai ar Sul cyntaf Medi 2001 y dechreuwyd ei gyhoeddi’n wythnosol.

Fel arfer, cyffro disgwylgar sy’n mynd law yn llaw â dathliadau deunaw oed pobl ifanc â’u byd a’u bywyd o’u blaen.  Pe gallai siarad, byddai Gronyn yn cydnabod mai deunaw oed hen ydi o. Yn wahanol i ieuenctid deunaw oed, mae’n dechrau meddwl am ba hyd y gall ddal ati; mae’n dechrau ofni a fydd ganddo’r egni a’r brwdfrydedd i fynd heibio’r pen blwydd hwn.  Pe gallai siarad, byddai’n cyfaddef ei bryderon ynghylch ei allu i barhau i feddwl am rywbeth i’w ddweud bob wythnos.  Mae’n sylweddoli mai profiad digon anghysurus yw bod yn ddeunaw oed hen. Pe gallai siarad, pwy a ŵyr beth a ddywedai?

Ar fy mhen blwydd yn ddeunaw oed roeddwn ar fin mynd i’r coleg am y tro cyntaf. Hyd y cofiaf, roedd yna gyffro yn gymysg â pheth pryder wrth feddwl beth oedd o’m blaen. Y gwir, fodd bynnag, yw mai ychydig iawn a gofiaf am y cyfnod hwnnw o baratoi ar gyfer coleg. Mae gen i fwy o gof o’r dyddiau cyntaf yno, a’r wythnosau a’r misoedd a’r blynyddoedd a’u dilynodd. Mae’r pum mlynedd o goleg a’r blynyddoedd ers hynny wedi gwibio heibio. Mae byd a betws, ynghyd â’m bywyd innau, wedi newid mewn sawl ffordd ers y cyfnod hwnnw. Rwyf flynyddoedd yn hŷn. Wn i ddim ydw i gallach, ond mae’n siŵr fy mod wedi newid mewn sawl ffordd. Ac eto, ar un wedd, rwy’n dal yn ddeunaw oed. 

Yn ddeunaw oed y gwelais gyntaf fawredd Iesu Grist; yn ddeunaw oed y clywais gyntaf ei wahoddiad i ddod ato; yn ddeunaw oed y cymerais ei air gan ymddiried ynddo i’m derbyn ac i faddau fy meiau.  Yn ddeunaw oed y cefais fy nerbyn ganddo trwy ras; yn  ddeunaw oed y gosodwyd cyfeiriad i weddill fy mywyd na fu’n bosibl troi nôl oddi wrtho. Yr un peth amlwg yr wyf wedi ei ddifaru lawer gwaith ers hynny yw na lwyddais i fyw’r bywyd Cristnogol yn well, yn ddeunaw oed, yn ddeugain oed ac yn drigain oed. Ond yr un peth nad wyf yn ei ddifaru yw’r credu a’m dygodd i’r bywyd hwn o ymddiried yng Nghrist a’i ddilyn.

Ac am fy mod yn ddeunaw oed o hyd, neu am fy mod trwy ras yn glynu wrth yr hyn a brofais bryd hynny, daliaf am y tro i ddefnyddio Gronyn i rannu’r newydd da am yr Un y credais ynddo.  

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 01 Medi, 2019

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: