Gorweddian

Mae Jacob Rees Mogg yn well na mi. 

Os gorwedda i ar wastad fy nghefn ar y soffa i ddarllen neu i wylio’r teledu mae yna siawns go dda y byddaf yn cysgu o fewn hanner awr. Ar f’eistedd wrth sgrin y cyfrifiadur y gwyliais ran o’r darllediad o Dŷ’r Cyffredin nos Fawrth. Erbyn i mi ddechrau gwneud hynny roedd Siambr y Tŷ wedi dechrau gwagio gan fod y drafodaeth ar y gweill ers awr neu ddwy. Roedd y prif siaradwyr wedi dweud eu dweud ac wedi mynd am baned, neu beth bynnag arall y mae aelodau seneddol yn ei wneud at ddiwedd eu trafodaethau. Ac eithrio un arall, Mr Rees Mogg, yn ei swydd gyfrifol fel Arweinydd y Tŷ,  oedd yr unig un ar ôl ar fainc flaen y Llywodraeth. A golygai hynny bod ganddo ddigon o le i orweddian ar y fainc tra parhâi’r drafodaeth.  

Cafodd ei feirniadu’n hallt, er i rai ei amddiffyn trwy fynnu mai gorwedd a wnâi er mwyn i’w glust fod yn nes at y  ‘speaker’  (y seinydd y tu ôl iddo yn hytrach na’r llefarydd John Bercow o’i flaen!)  Pwy wyf fi i ddweud fel arall neu i awgrymu mai gwên sarhaus oedd ar ei wyneb wrth i eraill annerch? A phwy wyf fi i awgrymu bod ei osgo a’i orweddian yn gwbl fwriadol er mwyn dangos ei ddirmyg llwyr ac amlwg at bawb a phopeth nad yw o fewn ei gylch breintiedig o eithafwyr cyfoethog?  Er i rai dynnu sylw at ei orweddian gan weiddi arno i ddangos parch (‘Sit up, man!) daliai i grechwenu’n wawdlyd.  Pa hawl oedd gan y gwehilion hyn i feiddio’i feirniadu o? Wrth gwrs, dwi ddim am eiliad yn dweud mai dyna oedd Mr Rees Mogg yn ei wneud na’i feddwl! Ond heb os, dyna’r argraff a roddai. 

Y mae’r argraff a rown i bobl eraill mor bwysig. Ac felly mae angen gofal rhag i ni roi lle i bobl ein camddeall. Wêl neb, ar wahân i’r Duw Hollalluog, ein cymhellion a’n teimladau mewnol.  Yr hyn a wêl pobl yw ein hagwedd, y ffordd yr edrychwn arnynt a’r ffordd y siaradwn â hwynt ac amdanynt. Yr hyn a welant yw ein hymddygiad tuag atynt a’n hymateb i’w hanghenion.  Waeth i ni heb â dadlau ein bod yn caru pobl yn nyfnder ein calon os mai’r argraff a roddwn trwy ein hymwneud â hwy yw nad ydym yn malio amdanynt.

Ac felly gwyliwn ein geiriau. Gwyliwn ein hosgo. Gwyliwn rhag rhoi’r argraff ein bod yn ddirmygus  o bobl eraill; rhag rhoi’r argraff ein bod yn ein cyfrif ein hunain yn well na hwy; a rhag rhoi’r argraff nad yw pobl eraill yn ddigon pwysig i wrando arnynt nac i roi sylw iddynt.

Ar adegau, am nad ydym yn ddigon gofalus, gallwn roi camargraff i bobl eraill. Yn anfwriadol, gallwn wneud neu ddweud pethau nad ydynt wir yn adlewyrchu’r hyn sydd yn y galon. Ond fel yn achos y Pharisead hwnnw y soniodd Iesu amdano’n gweddïo gan siarad yn gwbl sarhaus am y casglwr trethi a weddïai wrth ei ymyl (Luc 18) ein geiriau a’n hosgo sy’n amlach na heb yn datgelu’r gwir amdanom. 

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 08 Medi, 2019

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: