
Nifer llyfrau’r Hen Destament a’r ‘Steps’ yn un o nofelau John Buchan; blwyddyn dechrau’r Ail Ryfel Byd; a theitl un o ganeuon Queen. Ond fore Mercher diwethaf, clywyd am 39 arall. Yn Essex, cafwyd 39 o bobl yn farw yng nghefn lori. Credir bod y trelar wedi glanio ym mhorthladd Purfleet ryw awr a hanner cyn hynny. Megis dechrau y mae’r ymchwiliad, ond mae’n amlwg mai pobl anobeithiol a oedd yn fodlon mentro’r cyfan er mwyn ceisio bywyd newydd yng ngwledydd Prydain oedd y 39 hyn.
Sôn am ugain o ofodwyr yn mentro i bellafoedd y bydysawd i chwilio am fydoedd newydd y mae’r gân ‘39’ gan Brian May a Queen. Cyfeirio at y flwyddyn a wna’r teitl: “In the year of ’39”. Dychwelant ymhen canrif union, ond dim ond blwyddyn yn hŷn ydyn nhw wedi crwydro’r gofod! Tristwch y gân yw bod y bobl a adawsant ar y ddaear wedi marw; a chlywir un o’r gofodwyr yn hiraethu gan alw, ar ei wraig mae’n debyg:
“Don’t you hear my call
though you’re many years away
Don’t you hear me calling you”.
Wedi’r antur fawr o ddarganfod ym mhellafoedd y bydysawd “a world so newly born”, mae’r gân yn gorffen gyda geiriau dirdynnol un sy’n gweld ei fod wedi colli’r anwyliaid yr oedd wedi gobeithio dychwelyd atynt:
“For my life
Still ahead
Pity me”.
Rywle, yn Fietnam fe awgrymwyd, mae rhywrai a adawyd gan y 39. O bosib na ŵyr llawer ohonynt y bu farw eu hanwyliaid. Ond fe’u gadawyd i alaru. Yn eu colled, mae’n debyg y gallai llawer ohonynt ddeall geiriau’r gân, “For my life Still ahead Pity me”. Heb wybod pwy yw’r galarwyr, gweddïwn drostynt heddiw. Oherwydd os a phan ddeallant fod eu hanwyliaid wedi marw heb weld y ‘byd newydd’ yr oeddent yn chwilio amdano, bydd eu byd hwythau’n deilchion. Wedi cael sicrwydd, gan y rhai a fanteisiodd mor annynol arnynt, y byddai bywyd ym Mhrydain yn werth pob pris y byddai raid iddynt ei dalu amdano, yr oeddent yn breuddwydio am y gwynfyd o gael dweud, “Ne’er looked back, never feared, never cried”. Nid felly y bu.
Creulondeb a pharodrwydd i fanteisio ar bobl eraill gan eu trin yn ffiaidd heb unrhyw ystyriaeth i’w lles, na hyd yn oed i’w bywyd, yw un o’r profion sicraf o wirionedd y Beibl ynghylch pechod a llygredigaeth dyn. O wrthod plygu i’r gorchymyn i garu Duw a chymydog, nid oes diwedd i’r drwg y gallwn ei wneud. Ac nid oes raid wrth ymchwiliad i wybod mai pechod sydd wrth wraidd y chwant am arian a’r difrawder a’r dirmyg at werth bywyd a anfonodd y 39 hyn i’w tranc. Mae pawb yn ffieiddio’r drygioni hwn. Ond gweddïwn y daw pawb hefyd i ystyried a oes a wnelo’r awydd i atal dieithriaid rhag dod i’r gwledydd hyn rywbeth â’r cyfle a wêl pobl ddrwg yn sgil hynny i fanteisio ar drueni pobl eraill.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Hydref, 2019