Tode am Kreuze

Er war gehorsam bis zum Tode, ja bis zum Tode am Kreuze. Yn amgueddfa’r People’s Palace yn Glasgow y gwelais y geiriau hyn ddechrau’r haf, yn rhan o stori James Riley, un o filwyr y Rhyfel Mawr. Fe’i saethwyd, ond arbedwyd ei fywyd  gan i’r bwled fynd trwy lyfr bychan a tholcio cefn drych siafio ym mhoced frest ei siaced. Roedd twll y bwled yn amlwg yn y llyfr hwnnw oedd yn rhan o’r arddangosfa, ac ar y dudalen agored yr oedd llun â’r geiriau uchod dano. 

Nid dyna’r unig stori o’i bath. Un o Sir Aberteifi oedd Lemuel Thomas Rees, a glwyfwyd yng Ngwlad Belg yn 1917.  Arbedwyd yntau wrth i’r Testament Newydd a oedd yn ei boced fygu ergyd y shrapnel a’i trawodd. Cofnodwyd y waredigaeth ar gân yn fuan wedyn gan gymydog iddo gartref yng Nghenarth:

Ti, Thomas wyt Gristion sancteiddlan,         

’N y Rhyfel ymddygaist yn gall:      

Defnyddiais y peth cysegredig

Yn nodded rhag picell y fall.

Dyrchafwn ein mawl i’r Goruchaf

Am i ti ddychwelyd yn fyw;

Y clod, y gogoniant a’r mawredd

I’r Arglwydd, yr Arglwydd dy Dduw.

Wn i ddim a oedd y bardd yn gywir ai peidio wrth iddo awgrymu fod Thomas wedi defnyddio’r ‘peth cysegredig yn  nodded rhag picell y fall’. Go brin iddo roi’r llyfr yn ei boced yn fwriadol fel math o darian amddiffynnol. Ac eto, gallwn ddeall syniad y bardd fod Gair Duw rywsut wedi gwarchod y milwr ifanc. Ddwy flynedd yn ôl, roedd llun o Destament (neu Feibl o bosib) Thomas ar un o stampiau Swyddfa’r Post i goffau’r Rhyfel Mawr.

Mae’n bosibl bod rhai ohonoch wedi clywed straeon am eraill a arbedwyd mewn amgylchiadau tebyg. Ac fel Mr Rosser o Yet Farm, a gyfansoddodd y pennill uchod, fe welodd pobl yn y straeon hynny ddarlun o Dduw’n gwarchod ei bobl trwy ei Air.   

Ac yn stori James Riley, fedrwn i ddim peidio â gweld darlun neu ddameg o’r Efengyl.  Oherwydd llun o’r Arglwydd Iesu ar ei groes oedd ar dudalen agored y llyfr a welwn yn yr amgueddfa. Roedd y twll a wnaeth y bwled wedi rhwygo hanner pen y gŵr yn y llun.  A’r geiriau Almaeneg dan y llun? Rhan o wythfed adnod ail bennod  y Llythyr at y Philipiaid oedden nhw: ‘…gan fod yn ufudd hyd angau; ie, angau ar groes’. 

Gwnaeth y bwled a glwyfodd James ond a fethodd â’i ladd dwll ym mhen Iesu yn y llun cyn taro’r drych ym mhoced y milwr o Glasgow. Nid mewn llun y clwyfwyd ein Gwaredwr er hynny, ond ar Galfaria. Cafodd ef ei glwyfo a’i ladd er mwyn ein harbed ni rhag colledigaeth ac uffern. Fel dywed yr adnod yn llawn: ‘O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie angau ar groes.’ Oherwydd ei gariad wynebodd Iesu, er ein mwyn ac yn ein lle, y tode am kreuze, yr angau ar groes.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Hydref, 2019

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: