Bore Sul nesaf yn Capel Coch

Hydref 23, 2019

Mi fydd yr Oedfa Deulu (Gwasanaeth Diolchgarwch) yn Capel Coch, Llanberis fore Sul nesaf, Hydref 27 am 11.15 o’r gloch (yn hytrach na 10.30) er mwyn rhoi cyfle i chi weld y gêm rygbi fawr rhwng Cymru a De Affrica cyn dod i’r oedfa.