
Mae dros dair mil o filltiroedd a thua deg awr o daith awyren rhyngom a Nigeria yng ngorllewin Affrica. Tair miliwn yw poblogaeth Cymru, ond mae dros 200 miliwn yn byw yn Nigeria. Wn i ddim faint o ieithoedd a siaredir yng Nghymru ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg, ond mae dros 500 o ieithoedd yn Nigeria, gyda’r Saesneg yn brif iaith swyddogol. O ran crefydd, mae’r ystadegau’n dangos bod bron yr un nifer o Gristnogion a Moslemiaid yn Nigeria, gyda rhyw ychydig yn fwy o Foslemiaid mae’n debyg.
Ar yr olwg gyntaf, hawdd tybio nad oes fawr o debygrwydd rhwng y ddwy wlad, yn arbennig felly o feddwl am yr amgylchiadau y mae Cristnogion yn byw a thystio ynddynt. Amlygwyd hynny mewn ffordd ddychrynllyd o drist ddydd Llun diwethaf pan laddwyd Lawan Andimi gan derfysgwyr Boko Haram, a oedd wedi ei herwgipio yn gynharach yn y mis. Dyma’r mudiad a herwgipiodd 276 o enethod ysgol ym mis Ebrill 2014; mae dros 100 ohonynt ar goll o hyd.
Gweinidog ac un o arweinyddion yr eglwysi Cristnogol yn Nigeria oedd Lawan Andimi. Y trasiedi yw mai un enghraifft ydyw o lawer. Yn ôl Open Doors, un o’r elusennau Cristnogol sy’n tynnu sylw at yr erledigaeth ar Gristnogion ar draws y byd, lladdwyd bron i 1500 o Gristnogion yn Nigeria y llynedd. Yn amlwg, mewn rhannau o’r wlad honno, y gogledd yn benodol, mae llawer o Gristnogion yn wynebu erledigaeth na allwn ni yng Nghymru ddechrau ei dychmygu. Wrth weddïo am ddiogelwch a rhyddid i’n brodyr a’n chwiorydd, ac wrth wneud unrhyw beth a allwn drostynt trwy gefnogi’r elusennau sy’n ceisio gweini arnynt a’u hamddiffyn y mae’n gwbl briodol i ni hefyd ddiolch i Dduw na wyddom ni yng Nghymru am y fath ormes.
Mae clywed amdano yn fy sobreiddio heddiw. Pa wahaniaethau bynnag sydd rhyngom, mae mwy yn ein huno, a ninnau’n arddel yr un Ffydd ac yn credu yn yr un Gwaredwr. O ddeall i’r gŵr hwn fod yn weinidog ers oddeutu deugain mlynedd rwy’n sylweddoli iddo ef a minnau ddwyn ein tystiolaeth i Grist fwy neu lai dros yr un cyfnod, er mewn amgylchiadau cwbl wahanol.
Nid fy sobreiddio ond yn hytrach fy nghywilyddio a wna’r neges olaf o bosibl a anfonodd Lawan Andimi o’i gaethiwed. Ac yntau yn nwylo pobl giaidd, a’i daliodd o’r diwedd wedi mwy nag un ymgais aflwyddiannus i wneud hynny dros rai blynyddoedd, meddai’r Cristion cywir a ffyddlon hwn: ‘Ni fûm erioed yn wangalon gan fod yr holl amgylchiadau a wynebwn yn nwylo Duw.’ Gan wybod y gallai gael ei ladd unrhyw funud, galwodd ar ei deulu a’i gyd-gristnogion i beidio â digalonni, ond diolch i Dduw am bob dim. Gwrthododd wadu ei Waredwr; safodd yn ddewr ac yn llawn gobaith a ffydd; ac erys i ni yn brawf diamheuol o’r gras a’r bywyd tragwyddol a ddaw i bobl ym mhob man trwy Iesu Grist.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Ionawr, 2020