Wedi ei ddifa

Anodd iawn, iawn yw hi i neb ohonom ddychmygu’r difrod a wnaed ers deufis gan y tannau a fu’n ysu oddeutu 10 miliwn hectar o dir coediog Awstralia. Mae o leiaf 28 o bobl wedi eu lladd, dros 2,000 o dai wedi eu dinistrio, a miloedd o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi rhag y fflamau. Fedrwn i ddim dirnad beth oedd 10 miliwn hectar nes gweld y graffig uchod sy’n dangos ei fod yn cyfateb i ran helaeth o ddwyrain Cymru a de a chanolbarth Lloegr. Mae’r tannau’n dal i losgi a’r frwydr i’w diffodd yn debygol o bara am rai wythnosau eto gan fod y ‘tymor tannau gwyllt’ arferol i bara oddeutu mis arall. Mae’r tannau’n sicr wedi cadarnhau, pe byddai angen gwneud hynny, fod yr holl bryderon ynglŷn â newid hinsawdd yn real ac argyfyngus. 

Rhoddwyd sylw cwbl haeddiannol i ymdrechion dewr a diflino gweithwyr tân ac eraill i ddiffodd y fflamau, neu o leiaf i’w cadw dan reolaeth. Trist yw nodi fod pedwar o’r ymladdwyr tân wedi eu lladd wrth eu gwaith. Ymhlith yr amrywiol ffyrdd o fynd i’r afael â’r tannau gwyllt mae’r dacteg o gynnau tannau eraill yn fwriadol. Wrth i’r tân afreolus ledaenu a difa’r llwyni a’r coedydd o’i flaen, mae’r ymladdwyr tân yn llosgi darn o’r goedwig sydd yn ei lwybr er mwyn clirio’r tir cyn i’r prif dân ei gyrraedd, yn y  gobaith o atal hwnnw rhag lledaenu ymhellach.

Holl fwriad y bobl tân yw diffodd y fflamau. Arbed y coedwigoedd yw eu nod. Er mwyn hynny y maent yn mentro ac, fel y clywsom rai ohonynt yn dweud, yn rhedeg at y tannau pan fo pawb arall yn ffoi oddi wrthynt. Ac wrth wneud hynny maent yn deall bod rhaid ar adegau iddynt hwy eu hunain ddifa rhai coedydd. Y gwir yw fod rhaid aberthu rhywfaint o’r coedydd er mwyn arbed rhagor.

Wynebu’r tân a wnaeth yr Arglwydd Iesu. Gallasai fod wedi ffoi oddi wrtho, ond dewisodd beidio â gwneud hynny. Wynebodd bob gelyn, yn cynnwys y diafol a phechod ac angau, a’u trechu i gyd. Ar groes Calfaria, fe gafwyd yr aberth fwyaf un. Bodlonodd Iesu i farw trosom. Wynebodd lid Duw yn ein lle. Wynebodd y tân fel na fyddai raid i neb sy’n credu ynddo ei wynebu.  Yn ei ddioddefaint a’i farwolaeth, Crist yw’r aberth eithaf. Mae’n cymryd ein pechodau a’r cyfrifoldeb amdanynt arno ef ei hun; mae’n cael ei gosbi amdanynt; mae’n cael ei ddifa er mwyn ein harbed ni.  Mae’n marw er mwyn i ni sy’n credu ynddo gael byw.

Ar yr olwg gyntaf, mae’n anodd deall pam y byddai’r ymladdwyr tân yn mynd ati i gynnau rhagor o dannau. Mae’n ymddangos yn beth ffôl; ond y mae’n llawn synnwyr, ac yn effeithiol. I’r rhelyw o bobl, nid oes bwrpas nac ystyr i farwolaeth Iesu: nid yw ond gwastraff a thrasiedi fawr. Ond nid felly y dywed y Beibl, ac nid felly y gwêl y Cristion bethau. Oherwydd nid un ymhlith amryw o ffyrdd o’n hachub yw aberth Calfaria. Hi, yn syml iawn, yw’r unig ffordd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Ionawr, 2020

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: