Lladrad

Dros y ddau Sul diwethaf gohiriwyd oedfaon mewn sawl capel ar draws y wlad, yn cynnwys rhai o’n hoedfaon yn yr Ofalaeth hon, oherwydd y stormydd.  Hen brofiad diflas bob amser i eglwysi yw methu â chynnal oedfa’r Sul am ba reswm bynnag, ond cwbl resymol a dealledig oedd y penderfyniadau a wnaed dros y pythefnos diwethaf er sicrhau diogelwch yr addolwyr.

Ond rheswm cwbl wahanol a gafwyd dros ohirio’r oedfa mewn un capel lleol fore Sul diwethaf. Nid y storm, ond lladrad fu’n gyfrifol am ohirio’r oedfa yng nghapel Caersalem, Caernarfon. Fore Sul, gwelwyd bod rhywun neu rywrai wedi cymryd mantais o bosibl ar y storm a fu’n rhuo dros nos i dorri i mewn i’r capel er mwyn lladrata gwerth miloedd o bunnoedd o offer, yn cynnwys offer sain a thaflunio a chyfieithu yn ogystal ag offerynnau cerdd a nwyddau cegin.

Fel y gwyddoch o bosibl, mae Capel Caersalem yn cydweithio’n agos â Chynllun Efe i gynnal ein gweithiwr plant, ieuenctid a theuluoedd. Byddai clywed am ladrad mewn unrhyw gapel yn ddigalon, ond mae’n fwy trist fyth pan ydym yn adnabod yr eglwys. Ni allwn lai na chydymdeimlo â’r eglwys a’i gweinidog, y Parchg Rhys Llwyd, heddiw. Ni allwn chwaith ond edmygu ymateb doeth a graslon Rhys i’r lladrad a oedd nid yn unig yn sôn am yr angen i faddau ond yn mynegi cydymdeimlad â phobl sydd, oherwydd anawsterau ac amgylchiadau o bosibl, yn cyflawni’r fath droseddau. Mae’r lladrad, meddai, wedi cadarnhau galwad yr eglwys i wasanaethu a chynorthwyo o fewn ei chymuned yn lleol. Mewn sefyllfa mor drist, mae ymateb Rhys wedi bod yn chwa o awel iach ac yn dystiolaeth lachar i Efengyl gras. Mor wahanol i’r ymateb y gellid yn rhwydd iawn ei ddychmygu oddi wrth eraill a fyddai wedi condemnio’r lladron a bytheirio ynghylch y diffyg parch at gapel ac eglwys a phopeth sanctaidd.

Dymunwn yn dda i bawb yng nghapel Caersalem. Aeth gwaith yr eglwys yn ei flaen yn ystod yr wythnos, a chaiff yr oedfaon arferol eu cynnal heddiw. Yn amlwg, nid peth braf yw dioddef trosedd o’r fath. Fel y dywedodd Rhys, yr oedd i’r holl offer, er mai pethau materol oeddent, eu harwyddocâd fel pethau a oedd yn rhan o genhadaeth yr eglwys. Ond yng nghanol y tristwch, y mae o leiaf un cysur rhyfedd i bobl Caersalem o weld mai eu capel hwy a dargedwyd gan y lladron. Nid digwydd taro ar gapel a oedd yn llawn o offer gwerthfawr a wnaeth y lladron, pwy bynnag oeddent. Gwyddent yn iawn fod yn y capel hwn, yn wahanol i’r rhelyw o gapeli’r ardal, offer drudfawr o’r fath. A gwyddent hynny am fod yr eglwys dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn dystiolaeth effeithiol, a’i gwaith wedi bod yn amlwg o fewn y gymuned leol ac ehangach. Gwaetha’r modd, arwydd o’r fendith a fu ar y gwaith yw bod hyd yn oed ladron wedi dod yn ymwybodol ohono. Ac mewn ffordd od, mae hynny’n destun diolch.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Chwefror, 2020

Ciara

Does wybod ar hyn o bryd pa ddifrod y bydd Storm Dennis wedi ei wneud dros y Sul hwn, ond yn sicr fe adawodd Storm Ciara a’i blaenorodd ei hôl yr wythnos ddiwethaf. Disgynnodd y glaw a rhuodd y gwynt am oriau; a doedd dim rhaid edrych ymhell i gael prawf o rym y storm. O fewn tafliad carreg i’r tŷ hwn roedd yr afon yn   uchel a glannau’r llyn dan ddŵr. Roedd coeden wedi syrthio i’r ffordd osgoi, ffensys wedi eu dymchwel, llechi to ar lawr a ffenestr siop wedi ei malurio. Do, cafwyd prawf unwaith yn rhagor o wirionedd yr hyn a ddywedodd Iesu unwaith, bod y ‘gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd’ (Ioan 3:8). Welwn ni mo’r gwynt, ddim mwy meddai’r Iesu nag y gwelwn ni’r Ysbryd Glân; ond y mae effaith y naill a’r llall i’w gweld yn glir.

Mae’n dda i ni wrth y gwynt: yr awel ysgafn ar ddiwrnod poeth o haf; y gwynt sy’n help i sychu dillad ar lein; y gwynt yn hwyliau’r cwch; ac yn amlwg heddiw’r gwynt sy’n troi adenydd y melinau sy’n cynhyrchu ynni. Ac eto, mae’n rhaid cyfaddef fod y buddiannau hyn yn mynd yn angof pan fo’r gwynt yn codi ac yn difrodi. Yn rhyferthwy’r storm, rhywbeth i’w ofni yw’r gwynt, a rhyddhad mawr yw gweld ei gefn. 

Welwn ni mo’r Ysbryd Glân, ond mi welwn ei effaith yntau, medd Iesu, ym mywydau’r bobl hynny sydd wedi eu bywhau ganddo, neu wedi eu geni o’r newydd ganddo. Roedd y fath siarad yn ddirgelwch i’r dyn yr oedd Iesu’n sgwrsio ag ef y diwrnod hwnnw. Ni allai Nicodemus yn ei fyw â deall yr hyn a olygai Iesu. Mae’r Ysbryd yn aros yn ddirgelwch, a hyd yn oed yn ddychryn i lawer. Nid yn gymaint yr Ysbryd ei hun o bosibl, ond yr hyn y mae’r Ysbryd yn ei wneud. Hawdd deall hynny hefyd, gan fod unrhyw sôn am ail eni ac edifeirwch calon a bywyd newydd bron o reidrwydd yn ddryslyd i’r anghyfarwydd a’r di-gred. Eironi pethau yw mai’r Ysbryd Glân ei hun sy’n abl i ddileu’r fath ofn a dryswch trwy wneud ei waith o oleuo a bywhau.

Ond tybed nad oes adegau pan fo hyd yn oed bobl ffydd yn ofni’r hyn y medr yr Ysbryd ei wneud? O ddeall y peth lleiaf am allu’r Ysbryd i’w darostwng a’u plygu; o wybod am ei ddymuniad i’w troi oddi wrth bechod o bob math; ac o gredu ei fod yn abl i’w meddiannu a’u harwain i wasanaethu Duw â’u holl egni, tybed nad ydynt hwythau’n ofni canlyniadau ei waith? Gallwn fod yn gyfforddus ein byd, ac yn fodlon ar y bywyd Cristnogol sydd gennym ar hyn o bryd. Nid yn gwbl fodlon o bosibl, a ninnau’n gwybod yn iawn am wendid ein ffydd a thlodi ein perthynas â’n Tad nefol. Ond y mae meddwl am geisio’r Ysbryd, ildio iddo, a bodloni iddo wneud a fyn â ni yn bygwth ein ffordd o fyw. Boed i Dduw ein galluogi i beidio â gweld ei Ysbryd yn  fygythiad ond yn ddiddanydd, yn  gymorth ac yn rym i’n dwyn yn nes ato Ef mewn gobaith a chariad a ffydd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 16 Chwefror, 2020

Chwarae rhyfel

Rwyf wedi cydnabod cyn hyn na fu gennyf lwchyn o ddiddordeb mewn gemau fideo ers blynyddoedd. Roedd Space Invaders yn denu am ei bod mor newydd a gwahanol i unrhyw beth a welwyd yn flaenorol yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Cyn hynny, roedd hyd yn oed dau ddash a smotyn y gêm fideo gyntaf a welais erioed yn ddigon o ryfeddod. Mor dechnolegol glyfar oedd y ddau ddash a’r smotyn fel ei bod yn ‘ddwy gêm mewn un’: tenis a phêl droed.  Wedi hynny, roedd gemau sortio lliwiau a rasio ceir salŵn yn hwyl am gyfnod ar beiriant Sega’r plant, cyn i mi gael llond bol yn llwyr ar y cwbl wedi i mi fethu’n lân â rheoli car fformiwla 1 ar beiriant arall.  Ers hynny, yr unig gemau y bûm yn cyboli â nhw, ar y cyfrifiadur, fu Patience a Tetris; ond mae’r rheiny wedi eu dileu ers talwm am eu bod, a bod yn onest, mor eithriadol o gaethiwus. 

Ac felly, fydda i ddim yn prynu nac yn chwarae un o’r gemau diweddaraf,  Conflict of Nations: World War 3. Rhydd y gêm hon gyfle i bobl fynd â byddin un neu ragor o wledydd pwerus y byd i’r gad mewn Trydydd Rhyfel Byd. Caiff y chwaraewyr reoli popeth, o hel arfau i drafodaethau diplomyddol i ymladd y Rhyfel ei hun, ‘ar lein’ yn erbyn dwsinau o bobl eraill. A’r cyfan yn hwyl ac yn ddiddanwch mawr! 

Fynnwn i ddim bod yn rhagrithiol. Felly, gwell cydnabod i mi wylio digon o ffilmiau rhyfel. Rwyf hefyd wedi mwynhau ffilmiau cymharol ddiniwed James Bond a Mission Impossible, ac mae mwy na digon o bobl wedi eu saethu i ebargofiant yn y rheiny! Ond ni allaf yn fy myw â gweld yr hwyl o chwarae ymladd y Trydydd Rhyfel Byd, â’r rhyfel hwnnw’n bosibilrwydd mor real a bygythiol y dyddiau hyn.

Doedd gen i mo’r galon i wrando ar araith Boris Johnson ‘noson Brexit’. Ond mi wrandewais arni ers hynny. Ac roedd un rhan ohoni’n ddychryn i mi. Sôn oedd o am ‘asedau anhygoel y wlad hon – ein gwyddonwyr, ein   peirianwyr, ein prifysgolion blaengar, ein lluoedd arfog – pan feddyliwn am botensial y wlad hon – yn aros eu rhyddhau’. Rhag bod unrhyw gamddealltwriaeth, ei eiriau oedd waiting to be unleashed. Cawsai fisoedd i roi trefn ar ei feddyliau ac i sgwennu ei araith; ond doedd o ddim yn credu y byddai cyfeirio at ‘our armed forces waiting to be unleashed’ yn amhriodol ar y fath noson. Druan ohonom.

A’r Deyrnas Unedig wedi cefnu ar yr Undeb a welodd ei aelodau’n cydfyw yn heddychlon ers ei ffurfio wedi’r Ail Ryfel Byd, gweddïwn na fydd yr     ymffrost newydd yn statws a dylanwad a grym Prydain yn ein dwyn i’r fan y gwêl ein harweinwyr reidrwydd a chyfle i brofi’r cyfan trwy wneud yr union beth y soniodd y Prif Weinidog amdano yn ei araith. Gweddïwn yn daer na chaiff holl rym y lluoedd arfog yr ymffrostia ynddynt eu rhyddhau mewn rhyfel dychrynllyd a fyddai’n bopeth ond gêm ddifyr ar lein.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 09 Chwefror, 2020

Coronafeirws

Mae’n ddyddiau dyrys, a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi Argyfwng Iechyd Byd-eang oherwydd lledaeniad y coronafeirws. Erbyn nos Wener, roedd y feirws wedi lladd 258 o bobl yn China (ond mae’r rhif hwn yn codi fesul awr). Cafodd dros 11,000 eu heintio yn y wlad honno ers i’r person cyntaf gael ei daro’n wael. Nos Wener hefyd, datgelwyd fod dau berson yn dioddef ohono yn Lloegr, ac ofnir y gwelir achosion tebyg yng Nghymru hefyd yn y man.

Ychydig dros fis sydd ers i’r feirws newydd hwn ddod i’r amlwg gyntaf yn ninas Wuhan, China. Cafodd y person neu’r bobl gyntaf i ddioddef eu heintio mewn marchnad anifeiliaid yno, a chredir i’r feirws yn ôl pob tebyg gael ei drosglwyddo o ystlumod. Unwaith yr heintiwyd y bobl gyntaf yr oedd yn rhy rwydd o lawer iddynt hwy heintio pobl eraill. Buan iawn y lledaenodd y feirws, nid yn Wuhan a China yn unig ond mewn sawl gwlad arall gan fod Wuhan yn ddinas enfawr gyda miloedd o bobl yn teithio ohoni i bob cwr o’r byd  yn ddyddiol.

Nid ar chwarae bach y mae’r WHO yn sôn am Argyfwng Iechyd Byd-eang: mae’r ‘2019 Novel Coronavirus’ (neu’r 2019-nCoV) yn fygythiad difrifol ac yn achos pryder mawr ar draws y byd. Yn China, a bellach mewn gwledydd eraill, y gobaith yw y gellir atal lledaeniad y feirws ac ar yr un pryd drin y bobl a heintiwyd. Oherwydd natur feirws, trin y symptomau y mae pobl yn dioddef ohonynt a wneir gan nad oes modd gwella’r feirws ei hun, yn y gobaith y bydd pobl yn cryfhau a gwella wrth i’r symptomau glirio. 

Yn wyneb y fath argyfwng gweddïwn na fydd y feirws yn lledaenu’n eang. Mae’n amlwg fod y WHO yn poeni’n arbennig am allu’r gwledydd hynny sy’n brin o’r adnoddau meddygol digonol i ymateb i’r feirws. Gweddïwn na fydd y feirws yn lledaenu ac y bydd modd i’r bobl a heintiwyd, lle bynnag y bont, gael yr ymgeledd a’r gofal angenrheidiol. Gweddïwn na ddaw llawer mwy i alaru o golli anwyliaid.

Yn gam neu gymwys, y mae amrywiol ddigwyddiadau’n esgor ar ddameg  o fath. Fynnwn i ddim ar unrhyw gyfrif ymddangos yn ddideimlad heddiw; ac felly maddeuwch i mi os wyf yn euog o hynny. Ond anodd yw meddwl am y feirws a ledaenodd mor frawychus o sydyn o un farchnad i bellafoedd byd, heb feddwl hefyd am ledaeniad y clwyf cyntaf a’r mwyaf difrifol oll. Dysgeidiaeth y Beibl o’i ddechreuadau yw bod drygioni wedi lledaenu i’r ddynoliaeth gyfan. Ys dywed Paul, ‘Daeth pechod i’r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i’r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu’ (Rhufeiniaid 5:12). Ond trwy un dyn hefyd medd yr Efengyl wrthym y deliodd Iesu â haint ein pechod (yn hytrach na symptomau’r pethau drwg a wnawn). Cymerodd yr haint arno’i hun er mwyn ein hiachau ni.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 02 Chwefror, 2020