Chwarae rhyfel

Chwefror 9, 2020

Rwyf wedi cydnabod cyn hyn na fu gennyf lwchyn o ddiddordeb mewn gemau fideo ers blynyddoedd. Roedd Space Invaders yn denu am ei bod mor newydd a gwahanol i unrhyw beth a welwyd yn flaenorol yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Cyn hynny, roedd hyd yn oed dau ddash a smotyn y gêm fideo gyntaf a welais erioed yn ddigon o ryfeddod. Mor dechnolegol glyfar oedd y ddau ddash a’r smotyn fel ei bod yn ‘ddwy gêm mewn un’: tenis a phêl droed.  Wedi hynny, roedd gemau sortio lliwiau a rasio ceir salŵn yn hwyl am gyfnod ar beiriant Sega’r plant, cyn i mi gael llond bol yn llwyr ar y cwbl wedi i mi fethu’n lân â rheoli car fformiwla 1 ar beiriant arall.  Ers hynny, yr unig gemau y bûm yn cyboli â nhw, ar y cyfrifiadur, fu Patience a Tetris; ond mae’r rheiny wedi eu dileu ers talwm am eu bod, a bod yn onest, mor eithriadol o gaethiwus. 

Ac felly, fydda i ddim yn prynu nac yn chwarae un o’r gemau diweddaraf,  Conflict of Nations: World War 3. Rhydd y gêm hon gyfle i bobl fynd â byddin un neu ragor o wledydd pwerus y byd i’r gad mewn Trydydd Rhyfel Byd. Caiff y chwaraewyr reoli popeth, o hel arfau i drafodaethau diplomyddol i ymladd y Rhyfel ei hun, ‘ar lein’ yn erbyn dwsinau o bobl eraill. A’r cyfan yn hwyl ac yn ddiddanwch mawr! 

Fynnwn i ddim bod yn rhagrithiol. Felly, gwell cydnabod i mi wylio digon o ffilmiau rhyfel. Rwyf hefyd wedi mwynhau ffilmiau cymharol ddiniwed James Bond a Mission Impossible, ac mae mwy na digon o bobl wedi eu saethu i ebargofiant yn y rheiny! Ond ni allaf yn fy myw â gweld yr hwyl o chwarae ymladd y Trydydd Rhyfel Byd, â’r rhyfel hwnnw’n bosibilrwydd mor real a bygythiol y dyddiau hyn.

Doedd gen i mo’r galon i wrando ar araith Boris Johnson ‘noson Brexit’. Ond mi wrandewais arni ers hynny. Ac roedd un rhan ohoni’n ddychryn i mi. Sôn oedd o am ‘asedau anhygoel y wlad hon – ein gwyddonwyr, ein   peirianwyr, ein prifysgolion blaengar, ein lluoedd arfog – pan feddyliwn am botensial y wlad hon – yn aros eu rhyddhau’. Rhag bod unrhyw gamddealltwriaeth, ei eiriau oedd waiting to be unleashed. Cawsai fisoedd i roi trefn ar ei feddyliau ac i sgwennu ei araith; ond doedd o ddim yn credu y byddai cyfeirio at ‘our armed forces waiting to be unleashed’ yn amhriodol ar y fath noson. Druan ohonom.

A’r Deyrnas Unedig wedi cefnu ar yr Undeb a welodd ei aelodau’n cydfyw yn heddychlon ers ei ffurfio wedi’r Ail Ryfel Byd, gweddïwn na fydd yr     ymffrost newydd yn statws a dylanwad a grym Prydain yn ein dwyn i’r fan y gwêl ein harweinwyr reidrwydd a chyfle i brofi’r cyfan trwy wneud yr union beth y soniodd y Prif Weinidog amdano yn ei araith. Gweddïwn yn daer na chaiff holl rym y lluoedd arfog yr ymffrostia ynddynt eu rhyddhau mewn rhyfel dychrynllyd a fyddai’n bopeth ond gêm ddifyr ar lein.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 09 Chwefror, 2020