
Bu’n aeaf hir, ac eto mae’n anodd credu fod tri mis ers y Nadolig. Rhwng un peth a’r llall mae chwarter cynta’r flwyddyn wedi gwibio heibio. Debyg y bydd y chwarter nesa’n dra gwahanol ac y gwelwn ni ragor o gyfyngiadau ar yr hyn y cawn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae’r argyfwng a wynebwn yn dir newydd llawn pryder i ni oll, a does ryfedd fod llawer yn ofni’r gwaethaf.
Gwibio heibio, meddwn, a wnaeth y tri mis diwethaf. Felly yr ymddengys heddiw o fwrw trem yn ôl. Ond hir iawn fu’r dyddiau a’r wythnosau i’r bobl a brofodd y tannau yn Awstralia droad y flwyddyn, a’r llifogydd yng Nghymru a rhannau eraill o’r byd wedi hynny. A’r sylw bellach ar Cofid-19, mor rhwydd yw anghofio’r bobl sy’n dal i ddioddef oherwydd y tannau a’r dyfroedd.
Un peth sy’n gyffredin i’r tri argyfwng yw tueddiad gohebwyr a sylwebyddion i sôn am ddifrod ar raddfa Feiblaidd. Cafwyd cyfeiriadau mynych eleni at dannau a llifogydd a haint ‘Beiblaidd’ eu natur a’u maint. Dywedwyd yr un peth cyn hyn am ddaeargrynfeydd a rhyfeloedd a newyn. Gallwn yn rhwydd iawn ddeall y gyfeiriadaeth. Wedi’r cwbl, y mae yna ddigonedd o sôn yn y Beibl am stormydd, gwyntoedd, llifogydd, daeargrynfeydd, heintiau a phlâu o bob math. Er enghraifft, does ond angen i ni feddwl am Noa, a’r dilyw a foddodd y ddaear gyfan, i ddeall yr holl siarad am ‘lifogydd Beiblaidd’.
O glywed y Beibl yn cael ei grybwyll fel hyn, hawdd y gellid tybio fod yr ansoddair ‘Beiblaidd’ yn gyfystyr â ‘dychrynllyd’ ac ‘eithafol’. Nid dyna’r gwir wrth gwrs. Mae’r Beibl yn sôn am hindda yn ogystal â storm, am gynaeafau yn ogystal â newyn, am iechyd yn ogystal â haint. Mae nant fechan, mynyddoedd cadarn a chyfnod heddwch yr un mor ‘Feiblaidd’ â dilyw a daeargryn a rhyfel. Oherwydd gwaith yr Arglwydd Dduw yw’r byd cyfan, er mor annhebyg yw hwnnw fel y mae, gyda’i amherffeithrwydd a’i drybini a’i ddioddefiadau, i’r hyn a luniodd Ef yn y dechrau.
Ydi, mae’r byd yn wahanol iawn i’r hyn a fwriadwyd gan Dduw am fod y greadigaeth gyfan wedi ei heffeithio gan y drygioni a chwalodd y berthynas berffaith â Duw a fwriadwyd ar ein cyfer fel dynoliaeth. Ond er gwaethaf hyn, mae’r byd yn llawn prydferthwch a threfn a daioni sy’n adlewyrchu’r Duw sy’n dal yn ben dros y cyfan. Y mae awel fwyn a chawod ysgafn, tywyniad haul a harddwch enfys lawn cymaint rhan o’r Beibl â’r trychinebau sy’n bygwth ein lles a’n bodolaeth. Mae cyfyngu’r gair ‘Beiblaidd’ i’r pethau dychrynllyd yn ystumio ein golwg ar Dduw ei hun. Ie, mewn byd amherffaith, llawn o bethau erchyll yr ydym yn byw; ond yn y byd hwnnw y mae’r Duw ‘Beiblaidd’ y pwyswn arno yn llawn o dosturi a chariad a daioni tuag at ei bobl. Mae hindda’r wythnos ddiwethaf a’n hiechyd a’n nerth mor Feiblaidd ag unrhyw storm neu bla.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Mawrth, 2020