“Dwi’n iawn!”

Un o’r atgofion mwy annifyr am ddyddiau’r ysgol uwchradd yw’r gri a glywid bob hyn a hyn – ie, mewn ysgol mor waraidd â Brynrefail – ‘Ffeit!’ O fewn dim byddai cylch wedi ymffurfio o amgylch yr ymladdwyr, a mwyafrif y gynulleidfa’n fwy brwd dros weld y ffeit na’i rhwystro.

Fel arall yr oedd hi’r dydd o’r blaen gobeithio. Welais i mo’r peth fy hunan. Ond mi glywais o le da. Dychmygwch yr olygfa: archfarchnad leol, pobl yn siopa, a ffeit yng ngŵydd pawb. Dau (neu ddwy) wedi mynd i ddadlau dros nwyddau sy’n prysur ddiflannu o’r siopau ers wythnos neu ddwy. Y naill mae’n debyg yn gweld troli’r llall yn llawn o basta neu bapur toiled neu olchwr dwylo ac yn ceisio tynnu peth ohono o’r troli. A’r dadlau’n troi’n gwffio. Diolch am hynny, mae ffeit o’r fath mor brin â phasta, ond y mae er hynny’n cadarnhau’r ofnau fod yr holl ofid ynghylch Covid-19 yn dod â’r gwaethaf i’r golwg ar brydiau.

Mantra Llywodraeth Mr Johnson yw y ‘down trwy hyn efo’n gilydd’. Ac nid yn annisgwyl mae’r Prif Weinidog yn mynnu y bydd yr ‘ysbryd Prydeinig’ a ddaeth â ni trwy bob math o argyfwng cyn hyn yn sicrhau y down trwy hyn hefyd. Beth bynnag am yr ‘ysbryd Prydeinig’ dychmygol, mae’n sicr y bydd y mwyafrif o bobl, hyd y gallant, yn helpu ei gilydd dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Ond rhaid cyfaddef hefyd fod eisoes brawf o’r ffaith nad ysbryd cymunedol o ofal am eraill a ddangoswyd gan lawer hyd yma ond agwedd hunanol yr ‘I’m all right Jack’. Pa wahaniaeth na chaiff plant bach basta i swper cyn belled â bod fy nghwpwrdd i’n llawn? Pa ots fod pobl sydd wir angen glanhawr dwylo yn methu â’i brynu cyn belled â bod gen i stoc a fydd para blwyddyn neu ddwy?

Nid oes wadu fod darparu’n gall yn beth cyfrifol a da, ond mae yna fyd o wahaniaeth rhwng hynny â’r hyn a welsom dros y dyddiau diwethaf. Gallwn sôn am degwch; gallwn drafod rhannu adnoddau’n gyfartal; gallwn ddyheu am i bawb trwy’r byd gael bwyd a gofal iechyd ac ati. Ond ar y cyfle cyntaf, mae ysbryd hunanol ein natur ddynol yn ei amlygu ei hun, a’r duedd i sicrhau ein bod ni ein hunain yn iawn, hyd yn oed ar draul eraill, yn dod i’r golwg.

Y mae’r argyfwng hwn, na welsom hyd yma ond ei ddechrau, yn her amlwg i bawb ohonom nid yn unig i’n gwarchod ein hunain a’n hanwyliaid ond i warchod yn arbennig hefyd y bobl fwyaf bregus yn ein plith. Gall hynny gychwyn gyda pharodrwydd i ofalu bod pethau mor sylfaenol â phasta a pharatecemol a phapur toiled ar gael i bawb. Ac os mai dwysau a wna’r argyfwng, pwy a ŵyr pa gyfle a ddaw i weini ar eraill yng nghariad Crist er sicrhau ein bod wir yn dod trwy’r cyfan efo’n gilydd mewn ffordd a fydd yn amlygu’r gorau sydd ynom fel dynoliaeth, ac fel Cristnogion sy’n dilyn y Crist a ddaeth i’n plith yn was.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 15 Mawrth, 2020

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: