Covid-19

Mawrth 25, 2020

Erthygl ar gyfer y golofn ‘Un funud fach’ yn ‘Eco’r Wyddfa’ oedd hon i fod, ond gan na fydd yn bosibl cyhoeddi’r ‘Eco’ yn ystod y cyfnod argyfyngus presennol dyma ei chynnwys yma.

Wn i ddim a wêl y geiriau hyn olau dydd. Does neb yn siŵr a ellir cyhoeddi’r rhifyn hwn o’r Eco oherwydd argyfwng dychrynllyd Covid-19. Gohiriwyd cymaint o bethau eisoes. Pwy a ŵyr beth fydd nesaf?  Yn y capel ac nid wrth fy nesg y dylwn fod am hanner awr wedi pump ar nos Sul. Ond fûm i ddim ar gyfyl yr un capel heddiw; a Duw yn unig a ŵyr sawl Sul arall a fydd cyn y caf gwmni cyd-addolwyr mewn unrhyw gapel. Nid bod rhaid wrth gapel chwaith. Un prawf o hynny yw’r hyn sy’n digwydd yn Neiniolen, lle bydd aelodau Ebeneser a Chefnywaun yn cydaddoli bob nos Sul yn Nhŷ Elidir. Mae hynny’n ein hatgoffa nad adeilad yw eglwys ond pobl a ddaw ynghyd yn enw’r Arglwydd Iesu Grist. Ond golyga’r argyfwng hwn nad yw’n bosibl i bobl ddod at ei gilydd i addoli, ddim mwy nag y medrant wneud pob math o bethau eraill. Dyma her amlwg i’r eglwysi i ddiogelu eu cymdeithas ac i wasanaethu ei gilydd ac eraill, mewn ffyrdd gwahanol.

Dros y canrifoedd bu Salmau’r Hen Destament yn ffynhonnell cysur i bobl mewn pob math o sefyllfaoedd. Nid oes reswm dros gredu na fyddant felly hefyd yn wyneb y pryder ynghylch Coronafeirws a Covid-19. Un peth y mae’r Salmau’n ei ddangos yw y gall pobl Dduw ymddiried ynddo Ef, beth bynnag eu hamgylchiadau. Mentraf ddweud eich bod chi a minnau’n adnabod pobl y gellir dweud hynny amdanynt. Trwy broblemau dyrys a phrofiadau chwerw a phrofedigaethau mawr gallant dystio i’r gras sy’n eu galluogi i bwyso ar Dduw a derbyn ei nerth. Ond mae’r feirws hwn yn newydd ac yn wahanol i bopeth a wynebodd yr un ohonom o’r blaen: mae pawb, hyd y gwelaf, yn gytûn ar hynny. Ni ŵyr neb beth a ddaw dros yr wythnosau nesaf. Ofnir y gwaethaf; ac ofnir y bydd y gwaethaf yn waeth nag a ddychmygwn

Ond beth ddywed y Salmydd? A beth a ddywedwn ninnau gydag ef? ‘Y mae’r hwn sy’n byw yn lloches y Goruchaf … yn dweud wrth yr Arglwydd, “Fy noddfa a’m caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo”’ (Salm 91:1). Mae’r Salm yn sôn am ‘bla difäol … pla sy’n tramwyo yn y tywyllwch’ (adnodau 3 a 6). Ac eto, mae’n llawn hyder a gobaith. ‘Ni fyddi’n ofni rhag dychryn y nos … Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir â thi’ (5 a 7). Mae’r Salm yn ein hannog i bwyso ar yr Arglwydd am ei fod yn gysgod a noddfa ac amddiffyniad i’w bobl. Nid yw am un eiliad yn ein galluogi i ryfygu ac anwybyddu pob cyngor doeth gan fynnu y byddwn ni’n iawn. Nid yw’n rhoi gwarant y deuwn yn ddianaf trwy’r argyfwng hwn, ddim mwy nag y rhoddwyd i ni warant fod ffydd yn Nuw yn ein cadw rhag unrhyw salwch arall.

Cysur y crediniwr yw geiriau Duw ei hun tua diwedd y Salm. ‘Pan fydd yn galw arnaf, fe’i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder’ (15). Ac ni all Covid-19 na dim arall newid hynny.