
Daeth yr enfys yn arwydd o obaith i lawer dros yr wythnosau diwethaf. Mae plant o bob oed wedi gwneud llun enfys a’i osod yn ffenest eu cartref er mwyn i eraill eu gweld wrth fynd am dro.
Defnyddir yr enfys yn arwydd o obaith a dechrau newydd mewn gwahanol ddiwylliannau. Ond i Gristnogion, y mae ynghlwm wrth un o straeon mwyaf cyfarwydd yr Hen Destament; hanes Noa a’r arch yn llawn o anifeiliaid o bob lliw a llun. Mae’n debyg fod mwy o deganau a gemau a llyfrau wedi eu seilio ar hanes y gŵr hwn nag am yr un arall o hanesion y Beibl, heblaw am stori’r Nadolig a Geni’r Iesu. Yn amlwg, mae yna ramant mawr a stôr o bosibiliadau i’r darlun o’r anifeiliaid yn yr arch. Ar derfyn yr hanes am Dduw yn boddi’r byd ond yn arbed Noa a’i deulu a’r holl anifeiliaid a gadwyd yn ddiogel yn yr arch, addawodd Duw na fyddai fyth wedyn yn boddi’r byd. Rhoddodd yr enfys yn arwydd o hynny. A byth ers hynny bu’r enfys, i bobl ffydd, yn arwydd sicr o addewid a ffyddlondeb Duw.
Ymhlith y degau o enfysau a welwyd yn ddiweddar y mae dwy drawiadol iawn ar gefn ffens mewn gardd yn Llanrug ac arnynt adnodau o’r Hen Destament yn Gymraeg a Saesneg. Nid o hanes Noa yn Llyfr Genesis y daw’r adnodau hynny ond yn hytrach o Lyfr Numeri: ‘Bydded i’r Arglwydd dy fendithio a’th gadw; bydded i’r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt; bydded i’r Arglwydd edrych arnat, a rhoi iti heddwch’ (Numeri 6:24-26). Gan na sylwais arnynt cyn hyn, rwy’n tybio (er nad wyf yn gwbl sicr o hynny) mai mewn ymateb i’r awgrym o wneud llun enfys i godi calon cymdogion yng nghanol yr argyfwng iechyd presennol y gwnaed y rhain.
Mae’n deg dweud nad yw Numeri yn un o lyfrau mwyaf cyfarwydd y Beibl; ond mae’r geiriau uchod yn gyfarwydd ddigon, yn fwyaf arbennig am eu bod yn cael eu defnyddio’n gyffredin fel geiriau o fendith mewn oedfaon. Ac yng nghanol yr holl bryder ynghylch yr afiechyd a gadwodd lawer ohonom yn ein cartrefi am fis cyfan hyd yma, mor dda yw i ni gael ein hatgoffa o ofal ein Harglwydd Dduw amdanom. Duw sy’n gwarchod trosom yw Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Gwyddom iddo wneud hynny cyn hyn, a gallwn fod yn sicr y gwnaiff hynny eto. Ni all dim ei rwystro rhag gwneud hynny, yn cynnwys y pandemig gwaethaf. Dros ganrifoedd meithion, yng nghanol pob math o bryderon ac mewn sefyllfaoedd tywyll iawn, bu’n oleuni i’w bobl. A gwelodd y bobl a ymddiriedodd ynddo fod modd profi heddwch yn y meddwl a’r galon hyd yn oed pan oedd popeth yn eu herbyn.
Dymunwn fendith Duw i’n gilydd. Gwyddom ei fod Ef yn awyddus i ni brofi ei fendith. Gweddïwn felly am y gras i’w derbyn heddiw.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Ebrill, 2020