Deiseb

Y mae i ambell raglen gerddoriaeth ar y radio ei hen ffefrynnau. Hawdd iawn fyddai i minnau heddiw droi at y naill neu’r llall o’m hen ffefrynnau gan i’r ddau benfelyn ddweud mwy na digon yr wythnos ddiwethaf i unrhyw un  ysgrifennu’n helaeth amdanynt. Ond gan wybod mai dyma’r Pentecost, roeddwn wedi penderfynu ymatal rhag cyfeirio at y naill na’r llall. Yng nghwrs yr wythnos, deuthum i gredu fod hwn yn benderfyniad doeth.  Coeliwch fi, mi fyddwn wedi cael trafferth dod at y Pentecost wedi cychwyn efo Dominic Cummings neu Twitter!

Dyma droi yn hytrach at neges e-bost a dderbyniais fwy nag unwaith yn ystod yr wythnos i’m gwahodd i arwyddo deiseb ar lein. Mae’r rhain yn bethau cyfarwydd iawn erbyn hyn.  Mae’n debyg fod y rhan fwyaf ohonom wedi torri’n henw rywbryd ar ddeiseb oedd yn cwyno am hyn neu’n pwyso am y llall. Erbyn hyn, mae llu o ddeisebau ar y we, a llawer ohonynt yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud hyn ac arall.  Deiseb yn galw ar y Llywodraeth honno i ganiatáu ail agor yr eglwysi ar unwaith oedd yr un a  dderbyniais yr wythnos ddiwethaf. Wnes i ddim ei llofnodi. 

Ydw, rwy’n gweld colli oedfaon a chyfarfodydd yr eglwysi. Ydw, rwy’n edrych ymlaen at gael mynd i’r capel eto. Ydw, rwy’n edrych ymlaen at weld pobl yn dod ynghyd i addoli unwaith eto yn ein capeli. Ond rwy’n derbyn na ddaeth yr amser i wneud hynny eto. Nid wyf o’r farn fod Llywodraeth San Steffan na Llywodraeth Cymru’n  wrthwynebus i’n heglwysi ac yn ceisio eu hatal rhag cyfarfod. Cawn ail agor y capeli a’r eglwysi pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Yn y cyfamser, er mor chwithig yw hynny i bobl ffydd, mi ddathlwn y Pentecost fel y bu i ni ddathlu’r Pasg eleni ar ein haelwydydd trwy’r gwahanol gyfryngau sydd ar gael i ni, boed radio neu deledu neu’r we neu daflen. Yn niffyg y cyfryngau hynny, ac yn bwysicach na hwy, mae gennym Feibl a gweddi i’n galluogi i foli Duw am iddo roi ei Ysbryd Glân i arwain a nerthu ei Eglwys. Wedi’r cyfan, er mor werthfawr yw oedfa a chwmni, ‘Nid oes i ni gyfryngwr ond Iesu Grist ei hun’.

Fyddaf fi ddim yn arwyddo’r ddeiseb gan na fynnaf weld y capeli’n ail agor nes y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Ac i mi, mae’r hyn a welwyd yn yr Unol Daleithiau ddiwedd yr wythnos yn cadarnhau mai dyna sydd ddoeth. Mae llu o eglwysi’n bwriadu agor ar gyfer y Pentecost, doed a ddelo. Ac er dweud na fyddwn yn ei grybwyll, trist gweld Mr Trump yn ceisio perswadio llywodraethwyr y taleithiau i agor pob capel ac eglwys, hyd yn oed os ydyn nhw o’r farn nad yw hynny’n ddiogel. Iddo ef, gorau po gyntaf yr agorir yr eglwysi mawrion gan mai’r cam nesaf fyddai cynnull ynghyd ffyddloniaid y ralïau gwleidyddol. Ac ai’r sinig ynof sy’n dweud fod gan yr Arlywydd fwy o  ddiddordeb yn y rheiny na’r eglwysi?

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Pentecost: Dydd Sul, 31 Mai, 2020

Mynd a dod, mynd a dod

Mynd a dod, mynd a dod.  Dyna fu; dyna sydd; a dyna fydd.  Yn yr ail o’r ddau ‘fynd’ yr ydym ni, yn nhiriogaeth y ‘sydd’.  Pobl y ‘mynd’ ydym, neu o leiaf dyna ddylem ni fod os ydym yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Dau angel a ofynnodd i’r gwragedd fore Sul y Pasg: ‘Pam yr ydych yn  ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw?’ (Luc 24:5). Dau angel hefyd a ofynnodd i ddisgyblion Iesu adeg y Dyrchafael, ‘Pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef?’ (Actau 1:11). Does dim modd gwybod ai’r un rhai oeddent, ond gan fod y Beibl yn sôn am  ‘fyrddiynau o angylion’ (Hebreaid 12:22), ni fyddai Duw’n brin o rai i’w hanfon y naill dro na’r llall.

‘Mi anghofiais ei bod yn Ddydd Iau Dyrchafael ddoe,’ meddai rhywun wrthyf ddydd Gwener. Yn llif y sgwrs wnes i ddim cydnabod fy mod innau wedi anghofio hynny! Roeddwn yn cofio’n iawn ddiwedd yr wythnos flaenorol; ond aeth y peth yn llwyr o’m cof erbyn dydd Iau. 

Y Dyrchafael oedd y mynd cyntaf y cyfeirir ato uchod. Ar y diwrnod hwnnw y cofir i’r Iesu, ddeugain niwrnod wedi’r Pasg, fynd oddi wrth ei ddisgyblion. Fe’i codwyd oddi ar y ddaear yn eu gŵydd, a’i gipio oddi wrthynt gan gwmwl.

Y Pentecost wedyn oedd y dod cyntaf uchod. Y Sul nesaf, bydd Cristnogion ym mhob cwr o’r byd yn dathlu’r ffaith fod yr Ysbryd Glân wedi dod mewn nerth ar y disgyblion. Perthyn i’r hyn a fu y mae’r mynd a dod cyntaf hyn.

At yr ail ddod y cyfeiriai’r ddau angel wrth ddweud y byddai’r Iesu, a ddyrchafwyd, ‘yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef’ (Actau 1:11). Gan mai yn niwedd amser y digwydd hynny, perthyn i’r hyn a fydd y mae’r dod hwn.

Ond rhwng y ddau ddod y mae’r ail fynd uchod. Rhwng y Pentecost a fu a’r Ailddyfodiad a fydd y mae’r hyn sydd, sef cenhadaeth Eglwys Crist. Wedi i’r Iesu gael ei ddyrchafu, caiff y disgyblion wybod na ddylent ddal i syllu tua’r nef. Ddeuai Iesu ddim yn ôl ar unwaith, ond fe ddeuai ryw bryd, ‘yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef’ (Actau 1:11). Ŵyr neb pryd y bydd hynny. Dylai Cristnogion pob oes gofio fod eu Gwaredwr wedi ei ddyrchafu, a’i fod heddiw’n eiriol trostynt ac yn teyrnasu. Dylent gofio hefyd y bydd ryw ddydd yn dychwelyd yn Arglwydd a Gwaredwr a Barnwr y byw a’r meirw. Ond dylai cofio’r ddeubeth hynny beri iddynt fynd i’w gwaith yn nerth yr Ysbryd Glân a ddaeth ar Ddydd y Pentecost.

A chofiwn fod a wnelo’r gwaith hwnnw â dod a mynd arall. Gwaith yr Eglwys ym mhob oes yw cyhoeddi fod Iesu wedi dod i’r byd er mwyn mynd i Galfaria. A braint pob un sy’n credu ynddo yw tystio i’r Crist hwn a ddaeth un waith, cyn iddo ddod yr eilwaith.  

 Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Mai, 2020

cildroad, cemeg, bochau

Os cofiaf, yr unig beth a ysgrifennwyd ar yr amlen a bostiwyd yn y De oedd fy enw a’m swydd a ‘Pen Llŷn’. Wyddai’r sawl a’i hanfonodd mo enw’r pentref na’r tŷ yr oeddem yn byw ynddo.  Roedd y llythyr yn ddiogel yn fy llaw drannoeth; ond wnes i erioed fentro cyfeirio llythyr mewn ffordd debyg.  Doethach o lawer yw ceisio gofalu bod y cyfeiriad a’r côd post cywir ar bob llythyr a pharsel.

Fel arfer, mae sawl tŷ o fewn stryd neu gylch yn rhannu’r un côd post. Tybed a glywsoch chi am yr ap what3words a grëwyd ar gyfer ffonau symudol a chyfrifiaduron gan gwmni o Lundain?  Ar yr ap hwn, mae’r byd cyfan wedi ei rannu i 57 triliwn o sgwariau 3-medr; ac ar gyfer pob sgwâr nodir cyfuniad unigryw o dri gair. Er mwyn sicrhau mai ar un sgwâr yn unig y ceir yr un cyfuniad o dri gair, roedd angen bron i 36,000 o eiriau.  Mae’r ap i’w gael yn Gymraeg.  Trwy ddefnyddio’r cyfuniad o dri gair gellir lleoli pob sgwâr 3-medr ar wyneb daear. Rwyf wrth fy nesg ar hyn o bryd, ac os gosodwch chi’r tri gair, ‘cildroad, cemeg, bochau’, yn yr ap, mi gewch eich cyfeirio nid yn unig at ein tŷ ni ond at yr union ran o’r tŷ y mae’r ddesg ynddo.  Mae mor fanwl â hynny!

Nid gêm mo’r ap chwaith.  Mae’r ‘cyfeiriadau 3 gair’ eisoes yn cael eu defnyddio gan gwmnïau sy’n danfon parseli a chan rai gwasanaethau brys er mwyn adnabod union leoliad damwain neu argyfwng. I mi, y mae’n rhyfeddod llwyr: ni allaf amgyffred beth yw 57 triliwn; ac y mae gallu a dyfeisgarwch y bobl a greodd yr ap yn syndod.

Ac eto, llawer mwy rhyfeddol yw gallu Duw, sydd nid yn unig yn gweld pob twll a chornel o’r byd a’r bydysawd ond sydd hefyd wedi creu’r cyfan. Trwy ei Air Ef y daeth popeth i fod, o gopa’r mynydd uchaf i ddyfnder eithaf y moroedd. Gwaith ei ddwylo Ef yw holl gywreinrwydd y ddaear a’r cyfan sydd ynddi. Â’i lygaid dwyfol mae’n gweld holl bobloedd y byd, ac â’i glust mae’n clywed pob cri ac yn gwrando ar bob gweddi. Mae’r Hollalluog yn sylwi ar bopeth ac yn cynnal y cyfan. Arno y dibynna’r cyfan, a’i roddion Ef yw holl ddoniau a chlyfrwch y bobl a osododd yn stiwardiaid ar ei fyd.

Un o roddion pennaf Duw i ni yw’r gallu i siarad ac i’n mynegi ein hunain trwy eiriau. Mae geiriau’n cyfoethogi ein bywydau a’n perthynas ag eraill. Trwyddynt y mynegwn ein teimladau a’n profiadau dyfnaf, ac y diolchwn i Dduw a’i ganmol. Oddi wrth Dduw y cawsom eiriau ac iaith; ac ni allwn ond rhyfeddu at yr amrywiaeth o eiriau (a phob un â’i ystyr ei hun) sydd gennym i gyfathrebu a chanu a chlodfori Duw. Ac o feddwl am y cyfuniad unigryw o dri gair a osododd yr ap hwn ar gyfer pob un sgwâr, gallwn feddwl am drioedd o eiriau sy’n golygu cymaint i bobl Dduw. ‘Tad, Mab, Ysbryd’ ydi un enghraifft, ac un arall ydi ‘Ffydd,   gobaith, cariad’.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Mai, 2020

Rhywbeth mawr

Wel, fe ddigwyddodd.

Ers blynyddoedd, ers i mi gychwyn fy ngweinidogaeth, a chyn hynny, clywais bobl yn dweud fod rhaid i rywbeth mawr ddigwydd er mwyn dod â ni at ein coed.  Yn y cyd-destun crefyddol y dywedwyd y geiriau, gyda’r awgrym fod angen rhywbeth felly i ysgwyd pobl a dod â nhw’n ôl i’r capel ac i werthfawrogi’r Ffydd.

Erbyn hyn, fe gawsom rywbeth mawr: rhywbeth nad oeddem yn ei ddisgwyl;  rhywbeth nad oedd gwledydd Prydain yn barod amdano ac y methodd y Llywodraeth â’i gymryd o ddifrif yn ddigon buan na pharatoi ar ei gyfer. 

Yr eironi, o ran yr hyn y clywais ei ddweud mor aml dros y blynyddoedd yw nad oes yna gapel i neb ohonom fynd iddo yn yr argyfwng sydd ohoni. Amser a ddengys a fydd hwn yn gwneud i bobl geisio Duw o’r newydd. Ar hyn o bryd, rheitiach yw holi beth yw ein hymateb ni ein hunain iddo.  A ydym ni’n troi at Dduw gan gredu ei fod Ef yn ben dros y cyfan ac y medrwn geisio ei gymorth?

Yn ôl arolwg a wnaed gan Tearfund, mae un o bob ugain o bobl a holwyd yn dweud eu bod wedi dechrau gweddïo ers y Cloi Mewn, er nad oeddent yn gweddïo cyn hynny; a’r un nifer o bobl (hyd y gwn i, does dim modd dweud ai’r un bobl oeddent) yn dweud iddynt wrando ar wasanaeth crefyddol ar y we ers y Cloi Mewn, a hwythau heb erioed fod mewn oedfa cyn hynny. Pwy a ŵyr sut y bydd pobl yn ymateb? 

Beth bynnag a ddigwydd dros y misoedd nesaf, tybed nad oedd y rhai a ddywedai ‘fod angen i rywbeth mawr ddigwydd cyn y bydd pobl yn troi at Dduw’ yn gywir wedi’r cyfan?   Yn gywir, ac eto’n anghywir. Oes, mae angen rhywbeth mawr; ond er y gall Duw ddefnyddio pob math o bethau a digwyddiadau i dynnu pobl ato’i hun, nid digwyddiad – boed ryfel, newyn, daeargryn na choronafeirws – yw’r ‘peth mawr’ hwnnw ond gwaith grasol Duw yng nghalonnau pobl. Oherwydd peth aruthrol fawr yw gwaith Duw yn bywhau pobl sy’n farw yn ysbrydol, yn farw yn eu camweddau a’u pechodau. Nid pethau allanol, nid amgylchiadau dyrys, nid hyd yn oed fygythiadau dychrynllyd yw’r angen, ond Ysbryd Glân Duw.  Gall Duw ddefnyddio pob amgylchiad; gall ddefnyddio’r holl bryderon presennol i roi i bobl hiraeth amdano’i hun a’r gobaith sydd ynddo. Ond y peth mawr sydd ei angen yw gwaith nerthol yr Ysbryd sy’n goleuo, argyhoeddi, bywhau, cynhesu a thynnu pobl at Iesu Grist.

Gall Duw ddefnyddio argyfwng allanol fel hwn. Ond y peth mawr y dylem weddïo amdano yw bod Duw yn ei ras yn creu argyfwng personol ym mywyd pobl trwy ddangos iddynt eu tlodi a’u trueni, ac yn eu hargyhoeddi wedyn fod pob cyfoeth a gobaith ar eu cyfer yn yr Arglwydd Iesu Grist. Oes, mae angen i rywbeth mawr ddigwydd.  

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Mai, 2020

Wythnos Cymorth Cristnogol Mai 10–16

1.

I gyfrannu ar lein, ewch i wefan ‘Cymorth Cristnogol’, a chliciwch ar y tap ‘Christian Aid Week’.  Neu copiwch y linc hwn:  

https://www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christian-aid-week

2.

I gyfrannu dros y ffôn, ffoniwch 08080 006 006 .  Mae’r alwad hon am ddim a byddwch yn siarad â rhywun yn swyddfa Cymorth Cristnogol yn Llundain). 

Ond mae modd hefyd ffonio swyddfa Cymorth Cristnogol ym Mangor er mwyn siarad yn Gymraeg. Y rhif ffôn yw 01248 353574.

Gwyddoniaeth a gweddi

Ar un wedd, synnu na ddigwyddodd yn gynharach oeddwn i. Mae’n bosibl iddo wneud wrth gwrs. Synnwn i ddim na fyddai. Ond welais i, a chlywais i ddim. A sylwais i chwaith ar neb arall yn cyfeirio at y fath beth. A gallwn ddiolch am hynny o gofio bod pedwar mis ers i’r Coronafeirws ddod i’n sylw a chwe wythnos ers y Cloi Mewn.

Wn i ddim beth a ysgogodd y llythyrwr i roi pin ar bapur. Ai’r ffaith fod yna dipyn mwy o grefydd ar y cyfryngau Cymraeg yr wythnosau diwethaf?  Ai’r oedfa ar S4C ar fore Sul? Ai’r emynau a’r myfyrdodau a glywir ar Radio Cymru? Ai’r oedfaon a ddarlledir ar y we gan eglwysi o bob cwr o’r wlad?  Pwy a ŵyr?  Welais i mo bob un o’r oedfaon teledu, a chlywais i mo’r holl fyfyrdodau ar y radio. Ond mentraf ddweud na chlywyd gan neb unrhyw beth  a fyddai’n ysgogi’r llythyrwr i ddweud: ‘gobeithio y gallwn gytuno mai gwyddoniaeth ac nid gweddi fydd yn ein harwain o’r argyfwng peryglus hwn’. 

Mae’n bosibl wrth gwrs nad dim a glywodd y llythyrwr, ond gwrthodiad sylfaenol o grefydd a ffydd a gweddi, a’i hysgogodd i ddweud ei farn. Ac y mae ganddo, yn amlwg, bob hawl i’r farn honno.

Ond os mai ymateb i’r hyn a glywodd gan gredinwyr dros y misoedd diwethaf a wna’r llythyrwr, ni allaf beidio â meddwl ei fod yn annheg ac anonest (oni bai iddo glywed pethau gwahanol iawn i’r hyn a glywais i). Clywais bobl yn sôn am weddi. Clywais rai yn ein hannog i weddïo. A chlywais lawer yn gweddïo. Ond chlywais i, beth bynnag, neb yn awgrymu mai’r unig beth y  dylem ei wneud yw gweddïo. Yr hyn a glywais yw pobl yn diolch am ysbytai a meddygon a nyrys ac yn gofyn i Dduw nerthu’r bobl hynny yn y gwaith o ofalu am gleifion a’u trin a’u gwella; pobl yn gweddïo am ddoethineb i’n gwleidyddion; a phobl yn diolch am wyddonwyr ac yn gweddïo drostynt yn eu hymchwil am y facsin a fydd yn ein hamddiffyn ni a’r byd rhag y feirws peryglus hwn.

Yr hyn na chlywais yw unrhyw un yn diystyru gwyddoniaeth a meddygaeth gan honni y daw gweddi, ar ei phen ei hun, â diwedd i’r feirws hwn. Cwbl annheg yw awgrymu mai dyna y mae credinwyr sy’n gweddïo, ac yn annog eraill i weddïo, yn ei wneud. Gweddïau o ddiolch am wyddonwyr a meddygon a glywais i yn yr argyfwng hwn. Ac ymhlith y gwyddonwyr a’r gweithwyr meddygol y gweddïwn drostynt y mae miloedd lawer sy’n gwerthfawrogi’r gweddïau hynny am nad ydynt, mwy na ninnau, yn gweld unrhyw odrwydd rhwng ffydd a gweddi ar y naill law a gwyddoniaeth a meddygaeth ar y llall.

Daliwn i weddïo y bydd yr Hollalluog Dduw, sy’n rhoi i’r gwyddonwyr eu doniau, yn eu galluogi i ganfod mor fuan ag y bo modd y facsin y maent yn gweithio mor ddyfal amdano.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Mai, 2020