Mis: Mehefin 2020
Gair i chi

Wn i ddim a fyddai modd tynnu’r un llun heddiw. Rhyw feddwl ydw i na fyddai modd tynnu’r un llun yn union am fod coed wedi cael hanner canrif i dyfu ers i’r llun sydd yn fy llaw gael ei dynnu. Mae’r llun ar bamffled bychan y dois o hyd iddo’n ddiweddar yng nghanol pentwr o bapurau. Gwn i mi gadw’r pamffledyn flynyddoedd yn ôl am fod y llun hwn ar ei glawr.
Y tro nesaf yr af am dro o amgylch Llyn Padarn bydd rhaid i mi geisio gweld o ble yn union yn Fachwen y tynnwyd y llun sydd ar y pamffledyn a gyhoeddodd Cymdeithas Y Beiblau yn 1969. O bosib y bydd rhai ohonoch yn gwybod hynny o gael golwg arno, a gwneud y dasg yn haws i mi. Ond, ar wahân o bosibl i’r coed, mae’n debyg nad oes fawr wedi newid. Mae’r ddau fwthyn yn debygol o fod yno o hyd, ynghyd â phentref Llanberis a Chastell Dolbadarn yn y cefndir. Ac wrth gwrs, mae’r Llyn a’r Wyddfa a gweddill y dirwedd yn aros yn ddigyfnewid. Yr un yw’r olygfa ei hun, hyd yn oed os yw’r coed wedi tyfu ac amharu rhywfaint arni o’r union fan y tynnwyd y llun.
‘GAIR I CHI’ yw teitl y daflen fechan. Ac fel degau o bamffledi tebyg iddi a gyhoeddodd Cymdeithas Y Beiblau dros y blynyddoedd, adnodau o’r Beibl sydd ar y pamffledyn hwn: adnodau cyfarwydd Y Gwynfydau o bumed bennod Efengyl Mathew. Ond nid yn gwbl gyfarwydd chwaith, mae’n rhaid cyfaddef, gan mai o gyfieithiad ‘Y Ffordd Newydd’, a gyhoeddwyd tua’r un pryd â’r pamffled y daw’r geiriau. ‘Mor ddedwydd yw’r rhai sy’n cydnabod eu bod yn dlawd yn ysbrydol; nhw biau teyrnas Dduw’ (Math 5:3).
Hyd y gwn i beth bynnag, ychydig o ddefnydd a wnaed o’r cyfieithiad hwnnw o’r Pedair Efengyl. Ond beth bynnag a ddaeth o hwnnw, mae Gair Duw, fel y llyn a’r mynyddoedd yn ddigyfnewid, ac yn fwy felly mewn gwirionedd wrth reswm. Ni lwyddodd treigl amser na dysg y canrifoedd na chwiw’r oesoedd i ddirymu ei werth nac i dawelu ei lais. Mae’r geiriau a lefarodd yr Arglwydd trwy lyfrau’r Hen Destament a’r Newydd mor wir heddiw ag erioed. Iddynt, y mae’r un awdurdod; ynddynt, yr un neges; a thrwyddynt, yr un goleuni’n llewyrchu. Beth bynnag arall sy’n newid yn y byd cyfnewidiol sydd ohono, mae Gair Duw’n aros yr un. Bu’n ffynhonnell gwybodaeth am Dduw o genhedlaeth i genhedlaeth. Bu’n ddatguddiad llawn o’r ffordd i’r bywyd sydd trwy Iesu Grist. Bu’n gyfarwyddyd diogel ar gyfer y bywyd Cristnogol ar hyd y canrifoedd.
Mae Gair Duw mor wir ag erioed. Ond os oes coed yn ein rhwystro rhag gweld hynny – coed anghrediniaeth, neu goed amheuaeth, neu goed ein hamharodrwydd i’w ddarllen – rhaid eu torri i’r llawr er mwyn rhoi cyfle i ni ein hunain weld ei werth a’i dderbyn yn llawen. Oherwydd, fel dywed y pamffled, gair i chi a minnau yw hwn.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Mehefin, 2020
Y doeth sy’n troi

I’m clust i, mae’r ymadrodd Cymraeg yn swnio’n fwy naturiol na’r un sy’n cyfateb iddo yn yr iaith fain. Mi garwn feddwl hefyd i’r un Cymraeg gael ei fathu rai blynyddoedd yn gynharach na’r un Saesneg. Dywed Geiriadur y Brifysgol mai yn yr ugeinfed ganrif y bathwyd yr ymadrodd Cymraeg. Yn ôl geiriadur arall, yn 1930 y bathwyd y Saesneg cyfatebol, ond hanner canrif yn ddiweddarach y cafwyd y defnydd mwyaf cofiadwy ohono. Ac ar y wraig a’i defnyddiodd bryd hynny y mae’r bai am y ffaith mai cyfleu gwendid a wna’r ymadrodd i’r rhelyw o bobl bellach.
Yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher, roedd Keir Starmer yn sôn am dri thro pedol a wnaeth Boris Johnson erbyn hyn. Mae hwnnw’n gwadu iddo wneud y fath beth. Oes, mae deugain mlynedd ers i Margaret Thatcher, un o’i ragflaenwyr, yngan y geiriau enwog: ‘To those waiting with bated breath for that favourite media catchphrase, the “U” turn, I have only one thing to say. “You turn if you want to. The lady’s not for turning.”’ Ers hynny, bu’n amhosibl i wleidyddion wneud tro pedol heb gael eu cyhuddo o wendid a methiant.
Hyd y gwelaf, i fyd moduro y perthyn yr ymadroddion ‘tro pedol’ ac ‘U-turn’ yn wreiddiol: troi cerbyd yng nghanol y ffordd er mwyn newid cyfeiriad yn llwyr. Doedd dim o’i le ar dro pedol yn 1930; a chyn belled â’i fod yn ddiogel a chyfreithlon, does dim o’i le arno heddiw. Mae’n beth call i’w wneud, a does dim cywilydd iddo. Gwell hynny na dal i fynd i’r cyfeiriad anghywir.
O’i wneud yn iawn, mae tro pedol yn beth cadarnhaol. I bob pwrpas, dyna’n union yw ‘edifeirwch’ yn y Beibl. Yn lle mynd oddi wrth Dduw, mae’r sawl sydd wedi edifarhau yn mynd ato. Yn lle dilyn ei lwybr ei hun, mae wedi troi oddi amgylch ac yn mynd i gyfeiriad cwbl wahanol wrth ddilyn llwybr Duw. A does arno ddim cywilydd o’r peth. I’r gwrthwyneb yn llwyr.
Nid yn y tro pedol y mae’r cywilydd, ond yn y llwybr a ddilynwn wrth i ni anwybyddu Duw a mynnu nad oes iddo awdurdod dros ein bywydau. Oherwydd hynny, peidiwn â bod ofn cydnabod yr angen am dro phedol. A pheidiwn â bod ofn ei wneud gan mai rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano ydyw i’r Cristion; rhywbeth i ganmol Duw amdano, gan mai gras Duw yn unig sy’n galluogi pobl i droi ato.
‘The lady’s not for turning.’ Mae ysbryd Mrs Thatcher yn y tir o hyd. Ac nid yn y byd gwleidyddol yn unig. Onid oes miloedd o bobl yn gwrthod â throi at Dduw, er clywed ei lais droeon yn galw arnynt i gydnabod eu beiau a throi ato am faddeuant? Yn nheyrnas Dduw, peth cadarnhaol yw’r tro pedol neu’r edifeirwch calon y mae Efengyl Iesu Grist yn ei hawlio oddi wrthym. Gweithred y doeth yw edifeirwch, ac nid rhywbeth i’w guddio a’i wadu.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 21 Mehefin, 2020
Trysor Fenn (2)

Dair blynedd yn ôl, yn rhifyn Mehefin 25, 2017 Gronyn soniais am drysor yr oedd Americanwr o’r enw Forrest Fenn yn honni iddo ei guddio rywle ym mynyddoedd y Rockies. Mewn llyfr a gyhoeddodd yn 2010 roedd cerdd ac ynddi naw cliw a fyddai i arwain pobl at gist efydd lawn o drysorau aur ac arian. Yn yr erthygl honno, soniwyd am Paris Wallace, yr ail ddyn a fu farw wrth chwilio am y trysor cudd.
Ddechrau’r wythnos, cyhoeddodd Mr Fenn fod y chwilio ar ben gan fod rhywun wedi dod o hyd i’r gist, ac felly’n berchen ar drysor gwerth dros filiwn o ddoleri. Tybed oedd y person hwnnw’n siomedig o gofio fod yr un ffynhonnell newyddion yn dweud dair blynedd yn ôl ei fod gwerth dwywaith hynny?
Roedd rhai’n amau’r stori o’r cychwyn ac yn mynnu mai twyll oedd y cyfan. A chan i Mr Fenn ddweud y dydd o’r blaen fod y dyn a ddarganfu’r trysor yn dymuno bod yn anhysbys, mae rhai’n dal i amau a oedd yna drysor o gwbl. Ond a derbyn fod trysor, mae’r ffaith fod o leiaf bedwar o bobl wedi marw wrth chwilio amdano’n bwrw cysgod dros ramant y stori.
Wrth sôn am y gist hon dair blynedd yn ôl soniais am drysor yr Efengyl. Mae’r erthygl ar wefan Gronyn. (Chwiliwch am fis Mehefin 2017 yn yr Archif.) Am y trysor hwnnw meddwn, ‘Nid trysor sy’n darfod mo’r Efengyl, ond trysor sydd i bara am byth.’
Roedd ymateb Forrest Fenn wrth iddo gyhoeddi fod y trysor wedi dod i’r fei yn ddiddorol. ‘Rwy’n hanner teimlo’n falch, a hanner teimlo’n ddigalon,’ meddai, ‘gan fod yr helfa drosodd.’
Gan fy mod wedi defnyddio’r stori’n ddarlun o drysor yr Efengyl, ni allaf heddiw beidio â chymharu ymateb Mr Fenn ag ymateb Duw pan ddaw pobl o hyd i’r trysor hwnnw. Mae tair dameg a gofnodwyd yn Luc 15 yn dangos ymateb Duw yn glir iawn: damhegion y ddafad golledig, y darn arian colledig a’r mab afradlon. Mae’r tair yn cyfleu llawenydd y nefoedd, llawenydd yr angylion a llawenydd Duw ei hun o weld un pechadur yn edifarhau.
Yn yr Efengyl, mae Duw’n cynnig i ni’r trysor pennaf, y bywyd tragwyddol sydd yn ei Fab Iesu. A’r hyn a ddywed y damhegion hyn yw bod ein Duw ni’n llawenhau bob tro y bydd unrhyw un yn canfod y trysor trwy ddod i gredu yng Nghrist, a’i dderbyn yn Arglwydd a Gwaredwr. Nid oes yn y nefoedd deimladau cymysg pan ddigwydd hyn: dim ond llawenydd mawr. A’r fath gysur i Gristnogion yw cofio hynny, a chofio hefyd, os yw Duw’n llawenhau o weld pobl yn dod i gredu yn ei Fab, ei fod yn llawenhau hefyd o weld y bobl hynny’n glynu wrth eu proffes ac yn parhau i’w addoli a’i garu am iddo roi’r trysor hwn i ni. Roedd y Salmydd yn amlwg wedi ei gweld hi: ‘Pleser yr Arglwydd yw’r rhai sy’n ei ofni, y rhai sy’n gobeithio yn ei gariad’ (Salm 147:11).
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 14 Mehefin, 2020
George Floyd

Bu farw George Floyd bythefnos yn ôl, ddydd Llun, Mai 25 ym Minneapolis, Minnesota, yn 46 mlwydd oed. Gŵyr y byd erbyn hyn fod marwolaeth y dyn du hwn yn gwbl ddiangen, a bod un o blismyn y ddinas wedi ei gyhuddo o’i lofruddio a thri phlismon arall wedi eu cyhuddo o gynorthwyo ac annog llofruddio.
Nid yn annisgwyl, mae amgylchiadau cwbl annynol y farwolaeth hon wedi esgor ar brotestiadau ar draws yr Unol Daleithiau a’r byd. Nid oedd George Floyd ond y diweddaraf o bobl ddu’r Unol Daleithiau i ddioddef dan law plismyn gwyn; y diweddaraf i wynebu camdriniaeth oherwydd lliw ei groen a’r diweddaraf i farw o ganlyniad i hynny. Yr hyn a ysgogodd yr ymateb a welwyd dros y pythefnos diwethaf wrth gwrs oedd y ffaith fod marwolaeth George Floyd liw dydd ar gornel stryd ym Minneapolis wedi ei weld a’i ddal ar ffilm gan bobl a ddigwyddai fod wrth law. Clywyd cri olaf George Floyd gan filiynau o bobl ar draws y byd. Ac mae byd sydd wedi arfer ag erchyllterau, bydd sydd wedi arfer â gweld lluniau o erchyllterau o bob math, wedi arswydo wrth weld plismyn yn gweithredu mewn modd mor ddychrynllyd. Doedd cri ingol George Floyd na phrotestiadau pobl eraill na hyd yn oed y ffaith eu bod yn cael eu ffilmio ar ffonau symudol gan fwy nag un person yn ddigon i atal y pedwar plismon rhag parhau’r gamdriniaeth a achosodd ei farwolaeth.
Gweddïwn dros deulu George Floyd a phob teulu y bu i’w farwolaeth eu hatgoffa o’r anghyfiawnder a brofwyd ganddynt hwythau neu eu hanwyliaid, ac yn arbennig deuluoedd a gollodd anwyliaid mewn amgylchiadau tebyg.
Gweddïwn dros bawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r hiliaeth sy’n llygru byd a chymdeithas. Boed i’r holl drafod a’r holl brotestio a gafwyd ers marwolaeth George Floyd esgor ar wir ddyhead yn yr Unol Daleithiau, ac yng ngwledydd Prydain a phob gwlad arall, i weld pob gwedd ar hiliaeth yn cael ei dileu. O ran yr Unol Daleithiau, gweddïwn yn benodol y bydd pawb sy’n arddel ffydd yn Iesu Grist yn cydnabod mor wrthun yw hiliaeth, ac yn gwneud popeth a allant er sicrhau tegwch a chyfiawnder i bawb, beth bynnag eu lliw.
Gweddïwn dros bawb sy’n ddall i’r gamdriniaeth a’r anghyfiawnder a’r gwahaniaethu annynol yn eu gwlad eu hunain ac ym mhob gwlad arall.
Gweddïwn y bydd arweinyddion gwlad ac eglwys yn rhoi’r arweiniad cywir a doeth trwy eu penderfyniadau a’u dysgeidiaeth, fel y bydd tegwch a chyfiawnder yn amlwg yn y cyfan a wnânt ac a ddywedant. Gweddïwn yn arbennig y bydd pob Cristion sydd mewn swydd ddylanwadol yn cael nerth a gras i wneud eu rhan.
Gweddïwn y bydd yr holl brotestio ac ymgyrchu o blaid cyfiawnder yn cael ei ddiogelu a’i lwyddo.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 07 Mehefin, 2020