Cartref parhaol

Ddoe, am y tro cyntaf ers blynyddoedd mi gafodd yr hen greadures weld golau dydd. A dwi’n siŵr ei bod yn falch o ddod allan a chlywed sŵn plant bach unwaith eto. Petai hi’n medru siarad, byddai’n sicr wedi diolch ein bod wedi cofio amdani a dod â hi allan i’r ardd i fwynhau gwres yr haul ar ei chefn.

Roedd hi’n arfer dod ar wyliau efo ni, ac mae ganddi lu o atgofion melys am y crwydro a fu pan oedd yr hogiau’n iau. Roedd dros ugain mlynedd ers iddyn nhw ei gweld. Ond doedden nhw ddim wedi anghofio amdani. Unwaith yr oedd hi ar ei thraed, roedden nhw hyd yn oed yn cofio ei harogl.  Doedd hynny ddim yn syndod, a hwythau wedi treulio wythnosau yn ei chwmni.

O gofio pa mor hen yw hi, mae’n dal mewn cyflwr da. Mae braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn wrth gwrs, a gallaf ddychmygu pobl yn ddigon dirmygus ohoni pe byddem yn mynd â hi am wyliau eto.  Ond roedd y plant bach wrth eu bodd efo hi ddoe, a hynny’n gwneud yr ymdrech i’w pherswadio i ddod allan efo ni yn werth chweil. Ac er mor hen yw hi, mi gafodd y plant hwyl fawr yn chwarae efo hi yn yr ardd gefn trwy’r dydd.  A ninnau’n ceisio ufuddhau i ofynion y Llywodraeth i gyfarfod yn yr awyr agored, beth sy’n well i blant bach na phabell fawr braf?

Mae’r babell dal gennym nid am ein bod wedi dal i wersylla ond am ein bod yn tueddu i gadw pob dim. Er yr holl hwyl a gawsom, rhywbeth dros dro oedd y babell hon yn ein hanes. Ond rhywbeth dros dro ydi pabell, beth bynnag: fel arfer, rhywbeth ar gyfer gwyliau, i’w chodi a’i thynnu i lawr. 

Am gyfnod, bu’r Apostol Paul yn gwneud pebyll (Actau 18:3). Nid ei enw ef sydd ar ochr ein pabell ni. Dyw  hi ddim mor hen â hynny! Nid pebyll gwyliau a wnâi Paul wrth gwrs, ond roedd yn gwybod yn iawn mai pethau dros dro oedd pob pabell. Gwyddai nad ydynt yn para am byth, ond eu bod yn hwyr neu hwyrach yn cael eu tynnu i lawr. Ac mae’r gwneuthurwr pebyll yn defnyddio hynny’n ddarlun o’n bywydau ni. Mae’n cymharu’r bywyd sydd gennym, a’r corff yr ydym yn byw ynddo, â phabell er mwyn dangos nad ydym yn y byd hwn am byth. Dros dro yr ydym yn y babell ddaearol hon, meddai (2 Corinthiaid 5:1). Ond er mor drist yw hynny, nid yw Paul  yn anobeithio o gwbl am ei fod yn credu fod gan Dduw rywbeth gwell o lawer na’r babell honno ar gyfer ei blant. ‘Gwyddom … fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd’. 

Dyma ydi gobaith bendigedig Efengyl Iesu Grist i bawb sy’n credu ynddo. Roedd tynnu’r babell i lawr a’i rhoi o’r neilltu ar ddiwedd gwyliau’n brofiad trist. Mil gwaith mwy anodd yw gweld y babell ddaearol yn cael ei thynnu i lawr. Ond nid heb obaith y wyneba’r  Cristion hynny gan fod gennym, trwy Iesu Grist, addewid sicr o’r cartref tragwyddol a ddarparwyd ar ein cyfer.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Gorffennaf, 2020

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: