Hen ffyrdd

Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi teithio llai o lawer nag arfer dros y pedwar mis diwethaf. Am wythnosau, doedd ond teithiau angenrheidiol yn bosibl.  Yna daeth caniatâd i fynd cyn belled â phum milltir. Ac er bod modd teithio ymhellach ers dwy neu dair wythnos, dim ond unwaith y bûm ymhellach na phymtheg milltir o gartref ers diwedd Mawrth. Ac o’r herwydd aeth sawl ffordd gyfarwydd yn ddieithr i mi.

Nid drwg o beth wrth gwrs yw fy mod i a chithau wedi teithio llai. Do, bu methu â chrwydro yn dipyn o garchar i lawer ohonom, ond mae wedi bod o les i’r amgylchedd yn sicr, ac yn rhywfaint o les i’r boced, â ninnau’n gwario llai o arian ar betrol ac ati.

Rwy’n edrych ymlaen at deithio’r ffyrdd na fûm ar eu hyd ers misoedd, pan ddaw cyfle; yn arbennig y rhai sy’n arwain at deulu a ffrindiau na welais mohonynt ers cyn y Cloi Mewn. Buan y daw’r ffyrdd hynny’n gyfarwydd eto. Wedi’r cwbl, dyw pedwar mis ddim yn gyfnod rhy hir. Y gwir yw bod ffyrdd na fuom ar eu hyd ers blynyddoedd yn dod yn gyfarwydd mewn dim o dro wrth i ni eu dilyn. Daw rhai ffyrdd, fel rhai llefydd, â’u hatgofion arbennig eu hunain: rhai’n felys, eraill yn hiraethus, ac ambell un yn chwerw a thrist.

Mae crwydro rhai o ffyrdd cyfarwydd y cof yn werthfawr dros ben, a diolchwn i Dduw am y gallu i gofio profiadau a digwyddiadau, ac yn arbennig bobl.  Diolch hefyd am bopeth sy’n procio’r cof, ac yn dwyn yn ôl atgofion melys.  Y dydd o’r blaen, anfonwyd ataf lun o rai o hogia Bala-Bangor o’n dyddiau coleg. Llun papur newydd oedd o. Does gen i ddim cof o dynnu’r llun, ond o weld pump ohonom yn eistedd wrth hen fwrdd hir ffreutur y Coleg, daw atgofion am y cyfarfodydd nos Sul a gynhaliwyd yn y stafell honno, a rhes o bobl yn eistedd ar y bwrdd hwnnw er mwyn gwneud defnydd o bob modfedd o’r stafell am ei bod yn orlawn o bobl ifanc yn gwrando ar siaradwyr gwadd yn rhannu profiad neu yn ein hannerch ar ryw bwnc neu’i gilydd yn ymwneud â’r Ffydd ac â’r bywyd Cristnogol.

Gwn nad yw’n bosibl, ond am fwy nag un rheswm mi garwn pe byddai modd crwydro’r ffyrdd hynny eto. Yr oedd yn gyfnod o fendith arbennig i bawb a gafodd y fraint o’i brofi.  Heb os, fe ddylai rhywun geisio cofnodi’r hanes am ymwneud grasol Duw â chriw o bobl ifanc a brofodd gariad Duw yn Iesu Grist ac a ddaeth wyneb yn wyneb â galwad yr Iesu ar eu bywydau.

Ond er nad oes modd crwydro’r union ffyrdd hynny, gall Duw ein harwain ar hyd ffyrdd newydd, tebyg.  Gweddïwn am y fraint o weld pethau tebyg yn ein heglwysi a’n hardaloedd: pobl yn dod yn ymwybodol o’u hangen am Iesu Grist; yn cael gras i gredu ynddo; yn cofleidio’r Efengyl; yn awchu i ddysgu am y Beibl; yn heidio i gyfarfod gweddi; ac yn mwynhau antur a hwyl y bywyd newydd yng Nghrist.      

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Gorffennaf, 2020

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: