Kintsugi

Doeddwn i ddim wedi sylwi fod y bwrdd y soniais amdano’r Sul diwethaf wedi ei dolcio a’i drwsio. Y bwrdd hir yn ffreutur Coleg Bala-Bangor oedd hwnnw, os cofiwch. Un arall a fu yno’n fyfyriwr a ddywedodd hynny wrthyf wedi iddo ddarllen Gronyn ar wefan yr Ofalaeth. Ac fe ddylai Alun Tudur wybod ac yntau wedi ei fagu yno; â’i dad yn Brifathro i ni a’i fam yn cadw trefn ar breswylwyr yr hostel.

‘Weithiau,’ meddai, ‘yr hyn yr ydym yn ei gofio yw’r tolciau a’r trwsio!’ Ar brydiau, mae’r ffaith na fu’r trwsio’n gwbl lwyddiannus yn cadw’r cof am y tolc yn fyw. Er i ni wneud ein gorau i wared ag o, mae’r marc ar y dresel  fechan a brynon ni’n fuan wedi i ni briodi’n dal i’m hatgoffa o’r tebot poeth a osododd ffrind i ni arni. Ac nid cwbl lwyddiannus fu pob ymdrech o’m rhan i drwsio ambell blât a chwpan ac ornament. Mae’r glud yn llai amlwg ar un neu ddau ohonynt, ond mae’n amlwg ddigon i’r pethau hynny gael anffawd ar ryw adeg. 

Weithiau, nid oes raid dwyn y tolciau i gof: maent yn aros, er pob trwsio a fu.  Fe’n tolciwyd gan brofedigaethau a threialon; ac er profi diddanwch yr   Efengyl, nid yw’r tolciau’n diflannu’n llwyr. Rydym yn dal i alaru ac yn dal i frifo.  Fe’n tolciwyd gan eiriau brwnt a gweithredoedd cas; ac er profi nerth Duw, gall y tolciau aros. Mae’r brath yn medru aros yn hir. Ac fe’n tolciwyd gan bechod; ac er profi’r maddeuant sydd trwy Grist, daw tolciau newydd i’n hatgoffa o’n gwendid a’n hanallu parhaus i fyw’n ufudd a ffyddlon i’r Un a’n carodd ac a fu farw er mwyn ennill y maddeuant hwnnw i ni.  Mae’r tolciau’n amlwg yn y gorau ohonom.

Ond trwy drugaredd, rhyw Kintsugi o drwsio fu arnom. Dyw’r tolciau ddim wedi diflannu, ond maent yn tystio mewn rhyw ffordd i ras a chynhaliaeth Duw. Hen grefft Japaneaidd  o drwsio crochenwaith ydi Kintsugi. Yn hytrach na cheisio cuddio’r trwsiad, defnyddir lacer arbennig o sap coeden wedi ei gymysgu â phowdwr aur, arian neu blatinwm fel bod y trwsiad yn amlwg ac yn harddu’r plât neu’r bowlen, a’i wneud yn ddarn o grochenwaith, neu’n ddarn o gelfyddyd unigryw hyd yn oed. 

Weithiau, mae’r tolciau’n amlwg ym mywydau’r bobl sydd wedi credu yn yr Arglwydd Iesu. Ond mae hefyd yn amlwg fod Duw wedi trwsio, ac yn dal i drwsio’r tolciau.  A thrwy ryfeddod, mae’r trwsio celfydd a fu trwy ras a nerth a ffydd wedi gwneud ei bobl yn dystiolaeth hardd i’r modd y mae Duw wedi eu cynnal a’u cysuro trwy bob ergyd galed. Yn aml, mae Kintsugi’n gwneud y darn a atgyweiriwyd yn fwy prydferth ac yn fwy gwerthfawr.  Ac yn aml, yr un peth sy’n gwneud argraff ar bobl eraill yw’r ffaith mai pobl sydd wedi eu tolcio ydi Cristnogion, ond bod llaw gelfydd y Brenin Mawr wedi bod wrthi’n eu trwsio a’u gwneud yn hardd mewn ffydd, gobaith a chariad.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Gorffennaf, 2020

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: