Mis: Awst 2020
Ambell Salm: Salm 139
Ambell Salm
Diolch yn fawr iawn i Susan Williams, Cynllun Efe, am baratoi’r myfyrdodau hyn ar gyfer Suliau mis Awst pan na fydd Gronyn yn cael ei gyhoeddi.
Salm 139: 1–16
Meddyliwch am eich ffrind neu ffrindiau gorau. Pam eu bod nhw’n ffrindiau gorau i chi? Beth sy’n gwneud ffrind da? Beth mae ffrind gorau’n ei wneud? Ceisiwch restru rhai o nodweddion ffrind da.
Un o’r pethau pwysicaf am ffrind da yw eu bod wastad yno i chi. Pan fyddwch chi ar ben eich digon ac eisiau rhannu hynny, mae ffrind da yno i chi. Pan ydych chi’n siomedig, yn drist, yn ofnus, yn bryderus, neu mewn trafferthion, mae yno i chi.
Yn Salm 139, mae’r Salmydd yn rhyfeddu a synnu wrth sôn am y Duw sydd wrth law iddo o hyd. Mae’r un Duw gyda ninnau o hyd. Does yna’r un lle y medrwch fynd iddo nad yw Duw yno. Y mae’n holl bresennol. Mae’n malio amdanoch ac yn eich caru cymaint fel na all dynnu ei lygaid oddi arnoch. Mor rhyfeddol yw sylweddoli eich bod yn golygu cymaint i Greawdwr y byd. Nid damwain a hap yw eich bod yma ar y ddaear. Fe gawsoch eich cynllunio a’ch creu gan Dduw; ac mae ganddo bwrpas a chynllun ar gyfer eich bywyd. Mae’n eich adnabod ac yn eich caru ac yn gwybod popeth amdanoch. Mae’n eich adnabod yn well nag yr ydych yn eich adnabod eich hun, ac yn well nag y mae neb arall yn eich adnabod. Fedrwch chi ddim dianc o’i bresenoldeb; ac yr ydych mor werthfawr yn ei olwg. Mae’n gwylio drosoch; ac mae ganddo feddwl y byd ohonoch. Tybed sut mae hyn oll yn gwneud i chi deimlo?
Darllenwch Salm 139. Gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn siarad â chi trwy ei air. Gweddïwch y bydd yn argraffu ar eich calon yr hyn y mae’n dymuno i chi ei gofio a’i gymhwyso ar gyfer eich bywyd.
Oes yna bethau nad ydych yn eu deall yn y Salm?
Pa bethau yn y Salm sy’n eich syfrdanu?
Oes yna bethau anodd, neu bethau nad ydych yn or-hoff ohonynt yn y Salm?
Pa bethau sy’n eich atgoffa o rannau eraill o’r Beibl?
Oes yna rywbeth yn eich profiad chi eich hun sy’n debyg i brofiad y Salmydd?
Wedi darllen y Salm, oes yna rywbeth yr ydych yn awyddus i’w wneud?
Pa adnodau sy’n sefyll allan i chi? Pa rai wnaeth argraff arnoch, a pham?
Gofynnwch i Dduw, trwy ei Ysbryd Glân, eich helpu i ddeall mor werthfawr, mor bwysig ac mor arbennig ydych yn ei olwg. A diolchwch am hyn i gyd.
Rydych mor werthfawr fel bod Duw wedi trefnu ffordd i chi ddod i berthynas ag ef. Mae wedi anfon Iesu Grist, ei unig fab yr oedd yn ei drysori, i farw drosoch. Mae Iesu wedi cario eich pechodau yn ei gorff ei hun, a chymryd y gosb yn eich lle. Mae cariad Duw tuag atoch mor fawr ac mor angerddol. Mae ei gariad yn anfeidrol, heb ddechrau na diwedd iddo; mae’n dragwyddol, yn parhau am byth.
Ambell Salm: Dicter
Ambell Salm
Diolch yn fawr iawn i Susan Williams, Cynllun Efe, am baratoi’r myfyrdodau hyn ar gyfer Suliau mis Awst pan na fydd Gronyn yn cael ei gyhoeddi.
Dicter yn y Salmau
Sut fyddech chi’n teimlo …
pe byddai rhywun wedi benthyg eich ffôn a’i dorri’n ddamweiniol?
pe byddai’r cyfrifiadur wedi diffodd eiliadau cyn i chi gadw eich gwaith?
pe byddai rhywrai wedi ymosod ac anafu aelod o’r teulu?
Mae yna raddfeydd o ddicter – o fod ychydig yn flin i fod wedi gwylltio’n lân.
Beth sy’n eich gwneud chi’n flin? Beth sy’n eich gwylltio’n lân?
Pryd oedd y tro diwethaf i chi wylltio? A beth oedd yr achos? A beth wnaethoch chi?
Tybed ydych chi’n gwylltio’n hawdd? Neu oes angen rhywbeth mawr i’ch cythruddo?
Does dim modd osgoi bod yn ddig. Mae yna bethau y dylid bod yn ddig yn eu cylch: er enghraifft, sefyllfa anghyfiawn neu greulondeb mawr. Gall dicter ein symbylu i unioni cam, neu i wneud yr hyn sy’n anghywir yn gywir.
Yn y Beibl, gwelwn fod Duw’n ddig am yr hyn sy’n anghyfiawn ac yn ddrwg. Gwelwn Iesu’n ddig hefyd; a’r enghraifft fwyaf amlwg o hynny ydi pan yw’n anfon y cyfnewidwyr arian allan o’r deml, gan ddefnyddio chwip i wneud hynny! Mae rhai o’r Salmau’n mynegi dicter hefyd, heb fygu’r teimladau o fod yn flin a gwylltio’n ofnadwy.
Wrth wylltio’n gandryll gallwn ddweud a gwneud pethau y byddwn yn eu difaru yn nes ymlaen. Wrth wylltio, mae yna beryg o fod yn frwnt yn gorfforol neu ar lafar. Dyma i chi ddwy adnod sy’n rhoi cyngor ar sut i ddelio â dicter.
‘Paid â digio; rho’r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny’ (Salm 37:8).
Anogaeth i beidio â cholli tymer sydd yma. Fedrwch chi feddwl am bum ffordd sy’n help i beidio â gwylltio?
‘Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i’r haul fachlud ar eich digofaint’ (Effesiaid 4:26). Mae’r adnod hon yn sôn am fod yn ddig ond i beidio â cholli rheolaeth ac i beidio â dal dig tuag at berson.
Yn Salm 109, mae’r Salmydd yn ddealladwy flin am iddo gael ei drin mor wael, ac am fod celwyddau’n cael eu dweud amdano. Mae’n mynegi ei ddicter wrth Dduw; ac wrth iddo fwrw’i fol mae’n tawelu ac yn sylweddoli y bydd Duw’n delio â’r rhai sy’n gwneud ei fywyd yn anodd.
Mae Duw’n barod i wrando ar ein cwyn os oes rhywun wedi gwneud cam â ni. Gall rhannu â Duw ein helpu i ddod i dermau â’r hyn a ddigwyddodd.
Yn Salm 44, mae’r Salmydd yn flin gyda Duw ac yn mynegi hynny’n ddi-flewyn ar dafod. Mae’n iawn i ddweud wrth Dduw pan ydym yn flin ag Ef. Mae Duw mor rasol. Cawn arllwys ein calonnau o’i flaen, a bydd Duw’n ein helpu efo’r dicter sy’n corddi y tu mewn i ni. Os nad ydym yn delio â’n dicter; os ceisiwn ei wthio i lawr a smalio nad yw’n bod, gall ein niweidio, ein chwerwi a gwneud i ni ffrwydro gyda dicter rhywbryd eto.
Wedi mynegi’i deimladau o ddicter, mae’n ymddangos fod y Salmydd yn teimlo’n well ac yn cael pethau i bersbectif eto. Mae’n cofio mai Duw sy’n llywodraethu, ac y bydd ei Frenin a’i Dduw’n delio â’r cam a wnaethpwyd yn ei erbyn. Mae’n Dduw cyfiawnder sy’n mynd i unioni pob cam. ‘I mi y perthyn dial’ (Deuteronomium 32:35). Ac yn Rhufeiniaid 12:17–19, mae Paul yn annog y credinwyr: ‘Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb … Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i’r digofaint dwyfol’.
Addasiad o Energize gan Saint y Gymuned
Ambell Salm: Salmau’n Gofyn Am Help
Ambell Salm
Diolch yn fawr iawn i Susan Williams, Cynllun Efe, am baratoi’r myfyrdodau hyn ar gyfer Suliau mis Awst pan na fydd Gronyn yn cael ei gyhoeddi.
Salmau’n Gofyn Am Help
Ydych chi’n hoff o ganeuon y Beatles? Oes gennych chi ffefryn? Ydych chi’n gyfarwydd â’r gân Help? Ynddi, maen nhw’n sôn fel oedden nhw ar un adeg ddim eisiau nac angen help neb; ond wrth fynd yn hŷn, dydyn nhw ddim mor ‘self assured’, ac maen nhw’n ‘felin down’ ac yn gwerthfawrogi unigolyn sy’n gefn iddyn nhw ac yn ‘appreciate your being around’.
Pwy ydy’r bobl yr ydych chi’n gwerthfawrogi eu cael o gwmpas?
Ydych chi wedi diolch i Dduw am yr holl bobl – yn deulu, ffrindiau, cydnabod neu bobl yn rhinwedd eu swydd neu eu galwedigaeth – sydd wedi bod o gymorth i chi?
Fedrwch chi gofio rhai o’r pethau wnaethon nhw i’ch helpu?
Pwy sydd wedi’ch helpu yn ystod yr wythnos ddiwethaf?
A oes rhywun y byddai’n syniad da i chi anfon cerdyn neu anrheg fach iddynt i ddangos eich gwerthfawrogiad am eu help?
Bydd llawer iawn o bobl – pobl sydd ddim efallai yn credu yn Nuw – yn gweddïo pan fyddan nhw angen help; ac efallai mai dim ond bryd hynny, ‘when the chips are down’, y byddan nhw’n galw ar yr Arglwydd. Weithiau, bydd pobl yn defnyddio Duw fel rhyw fersiwn ysbrydol o’r gwasanaethau brys.
Er hynny, mae nifer o Salmau yn ein hannog a’n gwahodd a’n symbylu i ofyn i Dduw am ei gymorth. Gall sawl un dystio i’w taith ysbrydol â’r Arglwydd gychwyn pan oedd pethau’n wirioneddol ddrwg ac anodd. Mewn amryw o’r salmau, mae’r Salmydd yn gofyn i Dduw ei helpu mewn sefyllfaoedd dyrys, peryglus, ingol a llawn bygythiad.
Yn Salm 118, mae’r Brenin Dafydd mewn trwbl, ac mewn sefyllfa beryglus; ac mae’n galw am help Duw i ymladd ei elynion. Wnaeth Dafydd ddim disgwyl i Dduw gael gwared ohonyn nhw na gadael iddo gael osgoi’r frwydr; ond mae wedi profi’r ‘Arglwydd ar fy ochr i’m helpu’, yn rhoi’r nerth a’r gallu iddo i ymladd yn y brwydrau. Ni wnaeth Duw stopio’r frwydr, ond galluogodd Dafydd i frwydro. Mae geiriau Dafydd yn Salm 118 yn llawn hyder, gorfoledd, ymddiriedaeth a llawenydd yn Nuw. Weithiau, wnaiff Dduw ddim stopio’n brwydrau ni; ond mae angen i ni fynd trwyddyn nhw yn ei gwmni. Felly, down i bwyso’n llwyr ‘ar ei fraich’, ys dywed yr emyn. Down i ddibynnu ar yr Arglwydd, ac ymddiried yn llwyr ynddo.
Yn Salm 86:1–7, mae Dafydd yn crefu am help Duw. Mae’n pwysleisio mor analluog ydyw i’w helpu ei hun. Teimla mor ddiymadferth a gwan. Cofia gymeriad y Duw y mae’n galw arno: Duw trugarog, da, maddeugar, nerthol, llawn cariad sy’n ‘gwneud pethau anhygoel’; ac felly mae’n ymddiried y bydd Duw’n rhoi cymorth iddo. Y mae yn natur Duw i helpu ac achub y rhai sy’n galw arno’n daer ac o ddifrif.
Dyma ychydig rhagor o Salmau ble mae’r Salmydd yn gofyn am help: Salm 91; Salm 3 a Salm 121.
Addasiad o Energize gan Saint y Gymuned
Ambell Salm: Gofyn am help

Dyma ragor o Salmau ble mae’r Salmydd yn gofyn am help: Salm 91; Salm 3 a Salm 121.
Addasiad o Energize gan Saint y Gymuned
Ambell Salm: Salm 23
Ambell Salm
Diolch yn fawr iawn i Susan Williams, Cynllun Efe, am baratoi’r myfyrdodau hyn ar gyfer Suliau mis Awst pan na fydd Gronyn yn cael ei gyhoeddi.
Salm 23
Wyddoch chi beth ydy ystyr y gair bendith?
Bendith yw unrhyw beth sy’n cyfrannu at hapusrwydd unigolyn; e.e. diwrnod heulog, rhodd, unrhyw beth sy’n dda. Mae miloedd ar filoedd ohonyn nhw! Yn y Beibl mae bendith yn cael ei ystyried yn rhodd gan Dduw.
Mae Salm 23 yn enghraifft wych o salm sy’n sôn am fendith Duw; mae’n cyfleu tawelwch, tangnefedd a llonyddwch. Mae’n un o’r salmau mwyaf poblogaidd. Cafodd ei hysgrifennu gan y Brenin Dafydd. Cyn iddo fod yn frenin, bugail oedd o, a gwyddai’n dda beth oedd anghenion y gwaith hwnnw.
Salm 23.1–3
Byddai’r bugail yn arwain y defaid, nid cerdded tu ôl iddyn nhw a’u hysio ymlaen; a byddai’r defaid yn ei ddilyn. Byddai’n eu harwain i le diogel; lle i gael bwyd da, lle i gael gorffwys, lli gael adnewyddiad. Felly y mae Duw gyda’i bobl. Mae’n ein harwain; mae’n darparu ar ein cyfer; mae arno eisiau rhoi gorffwys i ni; ac mae’n ein hadnewyddu. Mae’n Dduw sydd eisiau diwallu pob angen.
Salm 23:4
Byddai’r defaid yn gorfod mynd drwy lefydd tywyll, du a pheryglus ar adegau. Mannau fyddai’n codi ofn a braw. Mannau ble byddai anifeiliaid gwyllt fel llewod a bleiddiaid yn llercian. Ond roedd eu bugail gyda nhw ac yn barod i’w hamddiffyn i’r eithaf. Doedd o ddim yn eu gadael ond roedd o’n cerdded gyda nhw, yn gwmni ac yn gysur ac yn ymladdwr drostyn nhw, ac yn eu harwain trwy’r tywyllwch a’r perygl. Dyna’n union a wna Duw. Caiff ei bobl gyfnodau anodd, dryslyd, heriol. Daw anawsterau, ofnau, pryderon a threialon; ond bydd Duw gyda’i bobl; ni fydd byth yn eu gadael, ond bydd yn gwmni, yn gysur ac yn amddiffynnydd iddynt.
Salm 23:5
Mae yma ddarlun o fwrdd anferth sy’n llawn o fwydydd blasus a maethlon ar faes y frwydr. Nid byrbryd, ond bwydydd maethlon i’w mwynhau, i gryfhau ac i roi pleser. Mae Duw’n darparu’n hael bob amser, hyd yn oed pan awn trwy amseroedd caled. Nid yw ei gariad a’i ofal a’i amddiffyn byth yn darfod. Mae’n darparu’n hael. Mae’r sôn am gwpan yn gorlifo yn ein hatgoffa am y gwpan yr yfodd Iesu a’r disgyblion ohoni; y gwpan oedd yn llawn gwin ac yn cynrychioli ei waed a dywalltwyd er ein mwyn. Y fendith fwyaf erioed yw credu yn Iesu fel ein Gwaredwr a’n Harglwydd.
Salm 23:6
Mae’r Salm yn gorffen gyda’r Brenin Dafydd yn myfyrio ar y ffaith na fydd daioni a thrugaredd Duw byth yn darfod, ac am gael bod ym mhresenoldeb Duw am byth, hyd yn oed wedi i’w fywyd ar y ddaear ddod i ben. Mae ganddo hyder yng nghymeriad Duw, ac mae’n ymddiried yn llwyr ynddo.
Mae yna gymaint i’w ddysgu am Dduw yn Salm 23. Mae Duw’n bresennol a da a dibynadwy; mae’n gofalu, diogelu, darparu, adnewyddu, amddiffyn; mae’n hael ac yn rasol. Nid ydym yn haeddu dim o’r bendithion hyn; ond am fod Duw’n gariad, mae wrth ei fodd yn eu rhoi i ni.
Beth am ddarllen Salm 23 a meddwl am un o’r bendithion hyn yr ydych wir angen cael eich atgoffa ohono ar hyn o bryd.

Ambell Salm: Addoliad a Diolchgarwch
Ambell Salm
Diolch yn fawr iawn i Susan Williams, Cynllun Efe, am baratoi’r myfyrdodau hyn ar gyfer Suliau mis Awst pan na fydd Gronyn yn cael ei gyhoeddi.
Addoliad a Diolchgarwch
Welsoch chi’r ffilm A Beautiful Mind? Hanes John Nash, athrylith o fathemategydd sydd ynddi. Ond er ei allu eithriadol, roedd yn ddioddef yn ofnadwy o broblemau iechyd meddwl. Fe’i gwrthwynebwyd gan bobl oedd ddim eisiau iddo lwyddo; pobl oedd yn ei alw’n wallgof. Yn sgil hynny, bu bron i’w briodas â chwalu.
Ond cafodd ei anrhydeddu â Gwobr Nobel, un o’r gwobrwyon mwyaf y gall neb ei derbyn. Wrth ei derbyn gerbron cynulleidfa a’i cymeradwyai, roedd ei lygaid ar ei wraig, ac roedd yn cydnabod mai hi oedd yn gyfrifol am ei lwyddiant am iddi fod yn gefn ac yn graig iddo, a’i helpu i ennill llwyddiant ac anrhydedd. Trodd ati, a chydnabod ei bod yn haeddu ei ddiolchgarwch a’i ganmoliaeth.
Dyna sy’n digwydd yn amryw o’r Salmau. Mae’r rhai wnaeth eu cyfansoddi eisiau tynnu sylw at y Duw sy’n haeddu’r ganmoliaeth a’r diolch. Mae’r Salmau’n hoelio’r sylw ar Dduw sy’n haeddu’r clod, ac yn rhoi’r anrhydedd dyledus iddo.
Ydych chi’n dda am ganmol pobl a diolch iddynt?
Sut fyddwch chi’n teimlo pan gewch eich canmol?
Pa wahaniaeth mae’n ei wneud i’ch perthynas a pherson sy’n eich canmol?
Ydy Duw eisiau i ni ei ganmol? Pam?
Sut mae Duw’n teimlo pan fyddwn ni’n ei ganmol?
Pa effaith mae addoli Duw yn ei gael arnom ni?
Pam ddylem ni ganmol Duw? Dyma sut mae rhai o’r Salmau’n ateb y cwestiwn hwn.
Salm 48:1 – Oherwydd pwy ydy o.
Salm 52:9 – Oherwydd beth mae wedi’i wneud.
Salm 92:1 – Oherwydd ei fod o’n dda ganmol Duw.
Salm 136 – Oherwydd ei ofal a’i gariad tuag atom.
Salm 81:4 – Mae’n orchymyn i addoli Duw.
Salm 40:3 – Wrth i ni addoli Duw, mae’n gwneud i eraill fod eisiau ei addoli.
Pa bryd y dylem ganmol Duw?
Salm 34:1 – Bob amser.
Salm 145:2 – Pob dydd, am byth.
Salm 146:2 – Ar hyd ein hoes.
Salm 57:8–9 – Yn y bore.
Salm 119:62 – Yn y nos.
Salm 42:11 – Pan fyddwn ni’n teimlo’n drist a ddim yn teimlo fel ei addoli.
Ble dylem ganmol Duw?
Salm 113:3 – Ym mhob man, unrhyw le, drwy’r byd i gyd.
Salm 35:18 – Cynulliad mawr o bobl (cynulliad bach hefyd).
Salm 18:49 – Gerbron eraill; gerbron y byd i gyd.
Salm 135:2 – Mewn addoldy.
Sut dylem ganmol Duw?
Salm 150 – Gydag offerynnau.
Salm 63:4 – Codi’n dwylo.
Salm 47:1 – Clapio.
Salm 135:2 – Sefyll.
Salm 95:6 – Plygu; penlinio.
Salm 47:6 – Canu.
Salm 149:3 – Dawnsio.
Salm 104:34 – Mewn tawelwch, yn fyfyrgar.
Dylem addoli Duw oherwydd pwy ydy Ef, ac oherwydd yr hyn a wnaeth trosom. Y weithred fwyaf a gyflawnodd Duw erioed oedd anfon Iesu, ei annwyl Fab i farw trosom ar groes Calfaria. Gallwn ei addoli unrhyw bryd, yn unrhyw le, mewn amrywiol ffyrdd sy’n gyfforddus i ni.
Addasiad o Energize gan Saint y Gymuned