Mis: Medi 2020
Hen lamp

Ddechrau’r haf, mi honnais mewn erthygl mai’r unig beth oedd gennyf yn y Coleg , ar wahân i ddillad a llyfrau a brwsh dannedd oedd radio. Ond doeddwn i ddim yn dweud y gwir. Rwyf newydd gofio am un peth arall a brynais yn weddol gynnar wedi i mi fynd i Fangor, sef lamp ddesg. Wn i ddim a oeddwn yn sylweddoli ar y pryd fod yr Anglepoise yn glasur o lamp ac yn dipyn o eicon yn ei maes.
Wedi’r holl flynyddoedd, mae’r lamp yma o hyd. Cafwyd cyfnodau pan na fu ar waith, ond erbyn hyn mae hi nôl ar y ddesg yn goleuo’r llyfrau a’r papurau a’r cyfrifiadur (a’r llwch, beryg). Nid bod hynny’n syndod mawr chwaith os gwir y sôn am Anglepoise a ganfuwyd mewn awyren o gyfnod yr Ail Ryfel Byd a godwyd o Loch Ness yn 1986. Er i’r awyren blymio i’r llyn ac aros dan y dŵr am dros ddeugain mlynedd, roedd y lamp yn gyfan ac yn dal i weithio.
Does dim dwywaith amdani: mae’r Anglepoise ynfwy effeithiol na’r lamp hirgoes y bûm yn ei defnyddio cyn i mi osod bwlb newydd yn yr hen lamp. Mae’n sicr yn haws gweld, ac felly’n haws darllen Y Beibl ar fy nesg yng ngolau’r Anglepoise. Ond mae angen mwy nag eicon o lamp i weld hwnnw’n glir. Un peth ydi gweld y geiriau; peth arall yw eu deall. Mae angen mwy na lamp, a mwy hefyd na gallu ymenyddol a dawn naturiol i wirioneddol ddeall yr hyn a welwn yn y Llyfr hwn. Mae angen goleuni’r Ysbryd Glân. Gair Duw yw’r Beibl, ac er mwyn i ni ei ddeall yn iawn mae’n rhaid wrth gymorth Duw ei hun. Ac fe ddaw’r cymorth hwnnw trwy’r Ysbryd Glân, sy’n ein taflu ei oleuni ar y Gair i ni. Hebddo, aneglur fydd y Gair, a thywyll fydd ei neges.
Ond mor dueddol y medrwn fod o roi’r lamp ddwyfol heibio. Bu’r Anglepoise yn segur am flynyddoedd maith am nad oeddwn yn ei defnyddio. Mewn cywilydd y mae’n rhaid cyfaddef fy nhuedd yn rhy aml o lawer i ddibynnu ar fy nghrebwyll fy hunan i ddeall geiriau’r Beibl, heb bwyso ar Dduw a heb geisio ei oleuni Ef ar yr hyn a ddarllenwn. Mae’r Ysbryd Glân yr un mor alluog ag erioed i wneud ei waith. Nid yw treigl y canrifoedd wedi pylu ei awydd na lleihau ei allu i oleuo Gair Duw i ni.
Dim ond pwyso botwm oedd angen er mwyn i’r lamp oleuo. Nid felly y mae gyda’r Ysbryd Glân. Nid yw hwnnw’n gorwedd ar silff yn disgwyl i ni gydio ynddo a’i ddefnyddio. Ond y mae wrth law, i ni ei geisio; y mae yno i ni alw arno gan ymbil ar iddo ein helpu trwy daflu ei oleuni ar y Gair.
Os oes unrhyw beth, unrhyw bryd, yn aneglur neu’n annealladwy yn y golofn hon, y peth callaf i’w wneud fyddai gofyn i mi ei egluro gan mai fi a’i sgwennodd. Ac onid gofyn hefyd i Dduw, a roddodd i ni’r Beibl, i oleuo’r Gair hwnnw i ni yw’r peth doethaf y medr neb ohonom ei wneud?
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Medi, 2020
Cyfamod cadarn

“Cytundeb gwych ar gyfer yr holl wlad.” Felly y disgrifiwyd Y Cytundeb Ymadael a arwyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr eleni. Mae manylion a chymhlethdodau’r Cytundeb hwnnw o bosibl y tu hwn i’r mwyafrif ohonom. Ond un oedd yn amlwg yn berffaith fodlon arno (gan mai ei eiriau ef a ddyfynnwyd yn y frawddeg agoriadol uchod) oedd Mr Boris Johnson.
Wyth mis yn ddiweddarach, mae Mr Johnson am rwygo’r Cytundeb hwnnw. Mae cyn-brif weinidogion o’i blaid ei hun yn ogystal á’r Blaid Lafur ymhlith y miloedd sy’n rhybuddio y byddai gwneud hynny’n golygu torri cyfraith ryngwladol a gwneud niwed parhaol i enw da’r Deyrnas Unedig. Ond nid yw Prif Weinidog presennol yn malio dim.
Anghofiwch gynnwys y Cytundeb am y tro, ac ystyriwch mewn difri resymeg Mr Johnson a’i gyfiawnhad dros wneud hyn. Yr oedd y Cytundeb (ar y wyneb beth bynnag) yn dderbyniol i’r ddwy ochr. Fel arall, fydden nhw ddim wedi ei arwyddo. Dadl Mr Johnson bellach yw bod yna berygl y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cam ddefnyddio a throi’r Cytundeb i’w fantais ei hun. Nid oes awgrym o fwriad i wneud hynny. A pha un bynnag, ddylai hynny ddim bod yn bosibl á’r ddwy ochr wedi cytuno ar ei gynnwys. Ond am ei fod yn amau (yn gwbl ddi-sail) y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn dehongli’r Cytundeb i’w fantais ei hun, mae Mr Johnson wedi penderfynu ei dorri prun bynnag! Y fath ynfydrwydd! Yn y bôn, mae’n dweud, “Dwi’n ofni na fedrwn ni eu trystio nhw i gadw’r cytundeb; ac felly’r unig beth y medrwn ei wneud ydi’r torri’r cytundeb ein hunain. Rhag ofn iddyn nhw ei dorri, mi wnawn ni ei chwalu.” A hyn oll yng nghyd-destun sicrhau cytundebau masnachol ar draws y byd. A fydd modd i unrhyw wlad ddibynnu ar y cytundebau hynny?
Mor wahanol y ‘cyfamod cadarn Duw’ y soniodd Edward Jones amdano yn ei emyn mawr. Am y ‘cyfamod rhad, o drefniad Un yn Dri’, meddai: ‘Ni syfl o’i le, nid ie a nage yw’. Neges y Beibl a’r emyn hwn yw bod cytundeb wedi ei sicrhau ynglŷn á’r ffordd at Dduw. Cyn bod byd, cyn bod dynoliaeth, yr oedd y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glán yn deall ei gilydd i’r dim. Cytunwyd rhyngddynt y byddai’r Tad yn anfon y Mab, ac y deuai yntau i farw dros bobl a fyddai wedi cefnu ar Dduw, ac y byddai’r Ysbryd Glân yn galluogi pobl i gredu yn y Mab a derbyn y bywyd tragwyddol. Ac ni fu gwyro oddi wrth y cytundeb hwn sy’n aros yn sail i’n gobaith ninnau. Glynodd yr ‘Un yn Dri’ wrtho. Nid amheuodd Duw’r Tad barodrwydd y Mab i wneud ei ran. Nid amheuai’r Mab werth ei roi ei hun yn aberth ar y Groes. Ac nid yw’r Ysbryd yn amau parodrwydd y Tad a’r Mab i dderbyn y rhai y bydd Ef yn eu cymell i gredu. Ac yn sylfaenol i hwn a phob cyfamod arall gwerth ei halen y mae ymddiriedaeth.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Medi, 2020
Tro ar fyd

Oes, mae llai ohonyn nhw o gwmpas y lle erbyn hyn, ac eto y mae o hyd fwy na digon. Ac mi fyddan nhw yma am rai wythnosau eto. Mae’n bosib na fyddan nhw’n llwyr ddiflannu hyd yn oed dros fisoedd y gaeaf o gofio iddyn nhw fod yn fwy poblogaidd nag erioed eleni. Hyd yn ddiweddar, ac o bosibl hyd at yr haf rhyfedd hwn a gawsom oherwydd yr holl gyfyngiadau a fu ar bawb ohonom trwy Covid-19, yr oedd i’r pethau hyn gryn dipyn o statws. Roedd hynny’n arbennig o wir am y rhai drutaf a mwyaf moethus yn eu plith. Dros y blynyddoedd, pethau a phobl i genfigennu wrthyn nhw fu’r rhain a’r sawl oedd pia nhw neu’n eu defnyddio.
Ond pa fodd y cwymp y cedyrn? Daeth tro ar fyd. Llwyddodd lleiafrif i wneud dihirod anghymdeithasol o bobl y faniau gwersylla neu’r camper-vans a fu’n ymweld â’n hardal dros fisoedd yr haf. Roedd y mwyafrif yn talu i aros yn gyfreithlon yn y meysydd carafanau pwrpasol, ond roedd eraill yn treulio’r nos mewn meysydd parcio a chilfannau a glannau ein llynnoedd. Ac wrth aros yn anghyfreithlon mewn llefydd cwbl anaddas, roedden nhw nid yn unig yn achosi anghyfleustra a llygredd ond yn dod ag anfri ar bawb arall a grwydrai’r ffyrdd yn gyfrifol a chyfreithlon yn y faniau. Ac yn gwbl annheg, oherwydd ymddygiad y lleiafrif, trodd cymuned barchus y fan wersylla’n niwsans o bobl nad oedd fawr o groeso iddynt. I raddau helaeth, collwyd eu henw da.
Ac mor rhwydd y digwydd peth felly. Mor rhwydd y gall un weithred neu un gair anghywir ladd cymeriad pobl a difa’n llwyr y parch y bu gan eraill tuag atynt ar hyd y blynyddoedd. Mae’r byd yn llawn o’r fath ddelwau drylliedig, a thristwch pethau ydi bod y byd yn mwynhau gweld y delwau’n chwalu.
Tristwch o’r mwyaf bob amser yw gweld y fath chwalfa o fewn yr Eglwys ac ym mywydau Cristnogion. Ac mi wyddom nid yn unig fod y peth yn bosibl ond ei fod yn digwydd yn rhy aml. Oherwydd gall un weithred greulon neu un gair brwnt wneud difrod anfesuradwy i dystiolaeth y Cristion o fewn ei deulu a’i gymuned a’i eglwys leol. Gall Cristnogion a fu am oes yn llachar eu tystiolaeth i’w Gwaredwr wneud drwg mawr i enw Crist trwy ymddwyn mewn ffordd sy’n gwbl anghydnaws â’r Efengyl ac â dysgeidiaeth y Ffydd. Nid dros nos yr ennill neb barch ac enw da ond dros flynyddoedd o fyw a thystio. Ond y mae modd colli’r cyfan dros nos. Ac nid oes raid wrth weithred amlwg bechadurus i wneud hynny. Gall y gair neu’r weithred leiaf fod yn ddigon os ydyw, yn fwriadol ai peidio, yn achosi loes i eraill. Mor ofalus sydd raid bod. Ac mor eiddgar y dylem fod i geisio bob dydd oddi wrth Dduw y gras a’r nerth a fydd yn ein cadw rhag gwneud a dweud pethau a all wneud difrod mawr nid i’n henw da ni yn gymaint ag i enw sanctaidd yr Arglwydd Dduw ei hun.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 13 Medi, 2020
Rhannu poen
Er tegwch â’r Prif Weinidog yn San Steffan mae’n rhaid cydnabod nad ef yn unig sy’n euog o’r peth. Ond y mae Mr Johnson yn dueddol o’i ddweud yn aml iawn; ac fe’i dywedodd eto ddydd Mercher yn Nhŷ’r Cyffredin. Sôn am deuluoedd rhai o’r bobl a fu farw o’r Covid-19 yr oedd wrth iddo ddatgan unwaith eto, ‘Mae pawb ohonom yn teimlo eu poen a’u galar’. Dywedwyd peth tebyg drosodd a throsodd ers i’r afiechyd ei amlygu ei hun, a chlywyd gwleidyddion ac eraill yn datgan ‘ein bod oll yn rhannu eu colled’ neu’n ‘galaru dros bob un a gollwyd’.
Mae pawb yn wahanol. Mae’n bosibl fod geiriau o’r fath yn gysur i rai. Ac os ydynt, pwy wyf fi i ddweud dim? Ond i lawer, gall geiriau felly fod yn wag iawn, fel y gwyddom yn dda yn wyneb y profedigaethau y mae cyfeillion a chydnabod yn eu hwynebu. A ninnau’n ceisio deall eu cur a’u poen, mae’n rhaid cydnabod yn aml na fedrwn ddechrau gwneud hynny. Er ceisio cydymdeimlo, dim ond i raddau y medrwn wneud hynny gyda chyfeillion a châr hyd yn oed. Ac os felly, mae yna berygl gwirioneddol i ni ryfygu wrth honni y medrwn rannu’n llawn yng ngalar pobl ddieithr, na welsom erioed mohonynt, ac nad ydym yn eu hadnabod o gwbl.
Hyd yma, yn ôl gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bu farw dros 40,000 o bobl yng ngwledydd Prydain oherwydd y Covid-19, er bod yr ONS (Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol) yn nodi dros 50,000 o farwolaethau. Gyda phob parch i Mr Johnson a phawb arall y mae’r fath eiriau’n llifo’n rhwydd o’u cegau, oes yna unrhyw un ohonom wedi gwirioneddol alaru dros bob un o’r bobl a fu farw? Pob un o’r deugain neu’r hanner can mil?
O bosib ein bod wedi gofidio, ond y mae byd o wahaniaeth rhwng hynny a galaru a rhannu poen a cholled pobl eraill. Onid y gwir ydi ei bod yn anodd os nad amhosibl i ni wneud hynny? Mae yna rywbeth mor eithriadol o unig am alar, fel ei bod yn anodd iawn hyd yn oed i bobl sydd wedi profi colled debyg fedru deall a rhannu’r boen y mae unigolyn yn ei theimlo yn anterth y brofedigaeth. Sut all na gwleidydd na’r un dieithryn arall rannu’r golled y mae teuluoedd yn ei theimlo o golli rhywun yr oedden nhw’n ei garu a’i anwylo? Ac ar wahân i Covid-19, onid cri ingol cynifer o bobl yn wyneb galar a cholled yw nad oes neb a fedr ddeall maint eu poen?
Gwnawn ein gorau i gydymdeimlo ac i gysuro, ond gwyddom mor annigonol ar brydiau yw ein hymdrechion. Ac ar adegau felly, ni allwn ond cyfeirio pobl at yr Iesu sy’n llawer mwy abl na ni i ymgeleddu a diddanu’r rhai sydd wedi eu clwyfo’n ddwfn gan bob math o saethau mileinig. Ac mor werthfawr yw medru cyfeirio pobl at y Crist a ddywedodd, ‘Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi’ (Mathew 11:28).
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Medi, 2020