Oedfa Dydd Sul, Medi 6, 2020

Medi 6, 2020

Rhannu poen

Medi 6, 2020

Er tegwch â’r Prif Weinidog yn San Steffan mae’n rhaid cydnabod nad ef yn unig sy’n euog o’r peth. Ond y mae Mr Johnson yn dueddol o’i ddweud yn aml iawn; ac fe’i dywedodd eto ddydd Mercher yn Nhŷ’r Cyffredin. Sôn am deuluoedd rhai o’r bobl a fu farw o’r Covid-19 yr oedd wrth iddo ddatgan unwaith eto, ‘Mae pawb ohonom yn teimlo eu poen a’u galar’. Dywedwyd peth tebyg drosodd a throsodd ers i’r afiechyd ei amlygu ei hun, a chlywyd gwleidyddion ac eraill yn datgan ‘ein bod oll yn rhannu eu colled’ neu’n ‘galaru dros bob un a gollwyd’.

Mae pawb yn wahanol. Mae’n bosibl fod geiriau o’r fath yn gysur i rai. Ac os ydynt, pwy wyf fi i ddweud dim?  Ond i lawer, gall geiriau felly fod yn wag iawn, fel y gwyddom yn dda yn wyneb y profedigaethau y mae cyfeillion a chydnabod yn eu hwynebu. A ninnau’n ceisio deall eu cur a’u poen, mae’n rhaid cydnabod yn aml na fedrwn ddechrau gwneud hynny.  Er ceisio cydymdeimlo, dim ond i raddau y medrwn wneud hynny gyda chyfeillion a châr hyd yn oed.  Ac os felly, mae yna berygl gwirioneddol i ni ryfygu wrth honni y medrwn rannu’n llawn yng ngalar pobl ddieithr, na welsom erioed mohonynt, ac nad ydym yn eu hadnabod o gwbl.

Hyd yma, yn ôl gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bu farw dros 40,000 o bobl yng ngwledydd Prydain oherwydd y Covid-19, er bod yr ONS (Swyddfa’r Ystadegau  Cenedlaethol) yn nodi dros 50,000 o farwolaethau. Gyda phob parch i Mr Johnson a phawb arall y mae’r fath eiriau’n llifo’n rhwydd o’u cegau, oes yna unrhyw un ohonom wedi gwirioneddol alaru dros bob un o’r bobl a fu farw?  Pob un o’r deugain neu’r hanner can mil?

O bosib ein bod wedi gofidio, ond y mae byd o wahaniaeth rhwng hynny a galaru a rhannu poen a cholled pobl eraill. Onid y gwir ydi ei bod yn anodd os nad amhosibl i ni wneud hynny? Mae yna rywbeth mor eithriadol o unig am alar, fel ei bod yn anodd iawn hyd yn oed i bobl sydd wedi profi colled debyg fedru deall a rhannu’r boen y mae unigolyn yn ei theimlo yn anterth y brofedigaeth. Sut all na gwleidydd na’r un dieithryn arall rannu’r golled y mae teuluoedd yn ei theimlo o golli rhywun yr oedden nhw’n ei garu a’i anwylo? Ac ar wahân i Covid-19, onid cri ingol cynifer o bobl yn wyneb galar a cholled yw nad oes neb a fedr ddeall maint eu poen?

Gwnawn ein gorau i gydymdeimlo ac i gysuro, ond gwyddom mor annigonol ar brydiau yw ein hymdrechion. Ac ar adegau felly, ni allwn ond cyfeirio pobl at yr Iesu sy’n llawer mwy abl na ni i ymgeleddu a diddanu’r rhai sydd wedi eu clwyfo’n ddwfn gan bob math o saethau mileinig. Ac mor werthfawr yw medru cyfeirio pobl at y Crist a ddywedodd, ‘Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi’ (Mathew 11:28). 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Medi, 2020