Cyfamod cadarn

“Cytundeb gwych ar gyfer yr holl wlad.” Felly y disgrifiwyd Y Cytundeb Ymadael a arwyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr eleni. Mae manylion a chymhlethdodau’r Cytundeb hwnnw o bosibl y tu hwn i’r mwyafrif ohonom.  Ond un oedd yn amlwg yn berffaith fodlon arno (gan mai ei eiriau ef a ddyfynnwyd yn y frawddeg agoriadol uchod) oedd Mr Boris Johnson.

Wyth mis yn ddiweddarach, mae Mr Johnson am rwygo’r Cytundeb hwnnw.  Mae cyn-brif weinidogion o’i blaid ei hun yn ogystal á’r Blaid Lafur ymhlith y miloedd sy’n rhybuddio y byddai gwneud hynny’n golygu torri cyfraith ryngwladol a gwneud niwed parhaol i enw da’r Deyrnas Unedig. Ond nid yw Prif Weinidog presennol yn malio dim. 

Anghofiwch gynnwys y Cytundeb am y tro, ac ystyriwch mewn difri resymeg Mr Johnson a’i gyfiawnhad dros wneud hyn. Yr oedd y Cytundeb (ar y wyneb beth bynnag) yn dderbyniol i’r ddwy ochr. Fel arall, fydden nhw ddim wedi ei arwyddo. Dadl Mr Johnson bellach yw bod yna berygl y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cam ddefnyddio a throi’r Cytundeb i’w fantais ei hun. Nid oes awgrym o fwriad i wneud hynny. A pha un bynnag, ddylai hynny ddim bod yn bosibl á’r ddwy ochr wedi cytuno ar ei gynnwys.  Ond am ei fod yn amau (yn gwbl ddi-sail) y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn dehongli’r Cytundeb i’w fantais ei hun, mae Mr Johnson wedi penderfynu ei dorri prun bynnag!  Y fath ynfydrwydd! Yn y bôn, mae’n dweud, “Dwi’n ofni na fedrwn ni eu trystio nhw i gadw’r cytundeb; ac felly’r unig beth y medrwn ei wneud ydi’r torri’r cytundeb ein hunain.  Rhag ofn iddyn nhw ei dorri, mi wnawn ni ei chwalu.” A hyn oll yng nghyd-destun sicrhau cytundebau  masnachol ar draws y byd.  A fydd modd i unrhyw wlad ddibynnu ar y cytundebau hynny?

Mor wahanol y ‘cyfamod cadarn Duw’ y soniodd Edward Jones amdano yn ei emyn mawr.  Am y ‘cyfamod rhad, o drefniad Un yn Dri’, meddai: ‘Ni syfl o’i le, nid ie a nage yw’. Neges y Beibl a’r emyn hwn yw bod cytundeb wedi ei sicrhau ynglŷn á’r ffordd at Dduw.  Cyn bod byd, cyn bod dynoliaeth, yr oedd y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glán yn deall ei gilydd i’r dim. Cytunwyd rhyngddynt y byddai’r Tad yn anfon y Mab, ac y deuai yntau i farw dros bobl a fyddai wedi cefnu ar Dduw, ac y byddai’r Ysbryd Glân yn galluogi pobl i gredu yn y Mab a derbyn y bywyd tragwyddol.   Ac ni fu gwyro oddi wrth y cytundeb hwn sy’n aros yn sail i’n gobaith ninnau. Glynodd yr ‘Un yn Dri’ wrtho. Nid amheuodd Duw’r Tad barodrwydd y Mab i wneud ei ran. Nid amheuai’r Mab werth ei roi ei hun yn aberth ar y Groes. Ac nid yw’r Ysbryd yn amau parodrwydd y Tad a’r Mab i dderbyn y rhai y bydd Ef yn eu cymell i gredu. Ac yn sylfaenol i hwn a phob cyfamod arall gwerth ei halen y mae ymddiriedaeth.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Medi, 2020

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s