Mis: Hydref 2020
Tymhorau
Gyda throi’r cloc yn ôl, nosweithiau hir sydd o’n blaen yr wythnosau nesaf. Mae rhai wrth eu bodd efo hynny ac eraill yn ddigon digalon wrth feddwl y bydd yn dywyll cyn amser te. Doedd tywydd oer a gwlyb ddoe yn gwneud dim i godi calon neb, yn arbennig a ninnau’n cychwyn pythefnos o Gloi a fydd yn golygu y byddwn yn gaeth i’n cartrefi am ran helaeth o’r amser oni fydd gennym reswm digonol dros orfod mynd allan.
Ond beth bynnag ein pryderon heddiw, does ond gobeithio na fyddant yn ein rhwystro rhag gwerthfawrogi’r hydref a’i brydferthwch. Gyda chwymp y dail ceir cefnlen a charped o felyn ac oren a choch a phorffor a brown; a’r cyfan yn dystiolaeth i ryfeddod creadigaeth ein Duw. Gwyn fyd y bobl sy’n gweld y cyfan gyda rhyfeddod a diolchgarwch ac yn tynnu sylw eraill at harddwch byd amrywiol a chyfnewidiol Duw. Mor hawdd yw cwyno am lanast y dail dan draed yn hytrach na rhyfeddu a chlodfori Duw am harddwch y tymor arbennig hwn.
Y mae i bob un o dymhorau Duw ei brydferthwch; a rhodd arbennig gan Dduw yw’r ddawn i werthfawrogi pob tymor yn ei dro. Daw’r gwerthfawrogi hwnnw’n rhwydd i rai, ond mae’n rhaid i eraill wrth anogaeth a chymorth i agor eu llygaid i weld prydferthwch byd Duw. Mae arnom ninnau o bosibl angen cymorth i werthfawrogi’r tymor rhyfedd sydd wedi dod arnom ers misoedd erbyn hyn: tymor Covid-19 a’r cyfyngiadau a’r Cloi; tymor llawn pryder i’r mwyafrif; ac i lawer, tymor o dristwch a cholled. Ond yng nghanol y cyfan, mae yna bethau annisgwyl y medrwn ddiolch amdanynt; ac yn eu mysg yr ymdeimlad o gymdogaeth dda a’r cyfle i ailystyried y pethau sydd o wir bwys.
Ac mae arnom angen cymorth i weld gwerth y tymor ysbrydol yr ydym wedi ymgynefino ag. Wn i ddim ai hydref ynteu aeaf ysbrydol a brofwyd gennym ers blynyddoedd yng Nghymru. Mae’n sicr wedi teimlo fel gaeaf: gaeaf oer o’n cwmpas, heb fawr o lwyddiant i waith yr Efengyl; a gaeaf rhewllyd yn ein calonnau ninnau, heb fawr o sêl yn aml dros achos Crist. Ac eto, Duw yn ei ras a’n galluogo i wneud yn fawr o’r tymor hwn gan fod iddo yntau ei liw a’i werth. Y mae’r Arglwydd yn para i gynnal ei bobl; mae’n dal i alw, yn dal i achub, ac yn dal i godi gweision i’r gwaith o gyhoeddi’r Efengyl. Nid yw’r mawl wedi peidio, ac nid yw’r dyhead a’r gobaith am wanwyn newydd wedi llwyr ddiflannu. Ac nid i’r un ohonom ni y mae’r diolch am hynny.
Fedrwn ni ddim newid tymor ysbrydol ein hoes, ddim mwy nag y medrwn newid y tymhorau naturiol. Ond mi fedrwn weddïo ar i Dduw’r tymhorau roi i ni eto ddeffroadau’r gwanwyn fel y gwelwn nid ambell un, ond tyrfaoedd yn dod at Grist i blygu o’i flaen mewn edifeirwch a ffydd. Hyd nes y daw’r gwanwyn hwnnw, gwasanaethu Duw yn y tymor sydd ohoni yw ein rhan.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Hydref, 2020
Cloi
Ni fydd oedfa yn Capel Coch, Llanberis y Sul hwn, Hydref 25 oherwydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r Cyfnod Cloi Byr a ddaeth i rym nos Wener.
Bydd yr oedfa arferol i’w gweld ar sianel Youtube Capel Tanycoed fore Sul, a cheir dolen ati yma ar y wefan.
Bydd Oedfa’r Ofalaeth trwy gyfrwng Zoom am 5.00 o’r gloch nos Sul. Anfonwch neges ebost at
john.cilfynydd@btinternet.com
er mwyn cael y ddolen neu’r cod i gysylltu â Zoom ar gyfer yr oedfa.
Cadw cyfrinach

Does dim wedi ei gyhoeddi eto, ond o’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener, mae’n ymddangos y ceir cyhoeddiad yfory (dydd Llun) am glo cenedlaethol byr er mwyn arafu lledaeniad ail don beryglus Covid-19. Rhaid aros tan yfory am y cyhoeddiad hwnnw.
Ceisio cael trefn ar y Gronyn hwn oeddwn i nos Sadwrn pan ddaeth neges trwy’r llif newyddion ar y ffôn i ddweud bod un sianel newyddion yn honni iddi gael gafael ar gopi o lythyr swyddogol a ddatgelwyd gan un o’r undebau llafur ynghylch y cyhoeddiad a ddisgwyliwn yfory. Nid fy lle i ydi ailadrodd yr honiad hwnnw na cheisio dyfalu pa mor gywir a dibynadwy yw’r wybodaeth a gyhoeddwyd. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun; a chawn wybod yfory mae’n debyg.
Mae’n debyg ei fod yn siomedig ac yn rhwystredig i’r bobl sydd ynglŷn â’r materion hyn pan fo gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r wasg cyn pryd. Yr un modd, mae bob amser yn siom pan fo rhywbeth na fwriadwyd ei ddweud yn gyhoeddus yn cael ei ailadrodd gan gyfaill neu gydweithiwr. Y fath siom pan fo rhywun wedi rhannu cyfrinach neu wybodaeth ag un neu ddau arall, gan eu siarsio i beidio â dweud gair wrth neb, a’r person neu’r bobl hynny ar y cyfle cyntaf wedi datgelu’r cyfan wrth rywun neu rywrai eraill. Mor werthfawr yw pobl y medrir ymddiried yn llwyr ynddynt; ac mor bwysig yw medru cadw i ni’n hunain rywbeth a ddywedwyd wrthym yn gyfrinachol. Gwyn eich byd os oes gennych gyfaill y gwyddoch y medrwch ymddiried yn llwyr ynddo fo neu hi.
A gwyn eich byd os gwyddoch mai dyna’r berthynas sy’n bosibl â’r Tad Nefol. Oherwydd gallwn ddweud y cyfan wrtho. Cawn ddatgelu ein holl ofnau, a chyffesu ein holl bechodau, a rhannu ein holl ofidiau, a rhestru ein holl ddeisyfiadau gan wybod ei fod yn gwrando arno, a gwybod hefyd fod y cyfan yn ddiogel gydag ef. Ar brydiau, gallwn wneud yr holl bethau hynny yng ngŵydd ffrindiau a theulu ac oddi mewn i gymdeithas yr eglwys leol. A da hynny. Ond ar adegau eraill, dyna’r peth olaf y dymunwn ei wneud; ac mor werthfawr yw medru cyflwyno’r cyfan bryd hynny i’r Arglwydd.
Diolchwn i Dduw am y ffrindiau da y medrwn rannu â hwy ein pryderon a’n gobeithion. Diolch am eu parodrwydd i wrando ac i gadw’r cyfan yn ddiogel yn eu calon. Ond pan na allwn rannu gwybodaeth neu broblem â’r un o’r bobl hynny, diolch y medrwn fentro ar hyd llwybrau gweddi a dwyn y cyfan i sylw’r Tad sydd gennym yn y nefoedd. Balm i’r enaid ydi gwybod nid yn unig ei fod wedi clywed ein geiriau ond bod ganddo’r gallu i’n helpu yn a thrwy’r cyfan. Awn yn hyderus at yr Arglwydd gan ddiolch nad oes raid i neb ohonom ddwyn ein beichiau yn ein nerth ein hunain. Datgelwn, gofynnwn a chyffeswn yn y sicrwydd na ddaw neb ond ein Tad Nefol i wybod, os dyna’n dymuniad.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 18 Hydref, 2020
Siarcod
Dydd Mercher, Chwefror 7.
Yr agosaf fûm i erioed at gêm rygbi’r gynghrair oedd giât Edgeley Park yn Stockport, stadiwm Clwb Pêl-droed Stockport County. Pyst rygbi welwn trwy’r giât gan fod tîm rygbi Sale Sharks yn defnyddio’r stadiwm ar y pryd. Mae’r Siarcod wedi cael stadiwm arall erbyn hyn; ond am y diwrnod hwnnw yn Stockport y meddyliaf wrth glywed amdanynt. Ac mi glywais lawer yr wythnos hon. Bu raid gohirio’r gêm yn erbyn Wariars Caerwrangon heno am fod 27 o chwaraewyr a gweithwyr Sale wedi cael prawf Covid positif. Gwadu mae’r clwb fod y chwaraewyr wedi dal y feirws trwy dorri’r rheolau ac ymweld â thafarn neu glwb.
Gwadu unrhyw gyfrifoldeb y maen nhw tua’r Tŷ Gwyn hefyd. Adroddwyd heddiw bod 27 o bobl wedi cael prawf Covid positif yno hefyd, yn cynnwys rhai o aelodau amlycaf staff Mr Trump. Gwadu bod unrhyw reol wedi ei thorri a wna’r Arlywydd wrth reswm. Gwell ganddo feio China am y pandemig na chydnabod unrhyw bosibilrwydd y gallasai o neu un o’i weithwyr fod wedi gwasgaru’r feirws.
Mae’r Siarcod bellach yn cydymffurfio â’r rheidrwydd i hunan ynysu rhag gwaethygu sefyllfa ddrwg. Mae sawl aelod o staff y Tŷ Gwyn yn gwneud yr un peth; ond nid felly Mr Trump. Wedi dod nôl o’r ysbyty, mae o’n mynd a dod ymhlith pwy bynnag sy’n dal yn iach, heb boeni’n ormodol a fydd yn eu heintio nhw ai peidio. Ond gwaeth na’i ddihidrwydd o eraill yw ei ryfyg ffôl. Rwy’n credu bod Arglwydd Dduw Rhagluniaeth yn cyflawni ei fwriadau dirgel. Ond roeddwn yn anghysurus o glywed Mr Trump yn datgan ei gred ‘mai bendith oddi wrth Dduw oedd fy mod wedi dal y feirws … Mi ddaliais o; mi glywais am y cyffur; mi ddywedais “Gadewch i mi ei gymryd”; fy syniad i oedd o.’ O fewn ychydig oriau i ddod o’r ysbyty, ac yn amlwg yn wan, mae’n mynnu ei fod wedi gwella’n llwyr a’i fod yn ‘teimlo’n wych, yn teimlo’n berffaith’, a hyn oll am ei fod yn ‘perfect human specimen’.
Y fath ryfyg; y fath gabledd. Ni ellir darostwng Duw Rhagluniaeth; ni ellir ei ddefnyddio i’n dibenion ni. Eled Mr Trump ati i chwarae ei gêm a honni fod iachâd i Covid, a bod i’r Arlywydd gorau gaed ran uniongyrchol yn y wyrth o’i ddarganfod (yn hwylus iawn ar drothwy’r Etholiad). Ond peidied â llusgo’r Brenin Mawr i’w gynllwyn. Nid gwas bach i neb mo’r Arglwydd; ac yn sicr, nid i neb sy’n ei gyfrif ei hun yn berffaith.
Nid yw ‘gwyleidd-dra’ yng ngeirfa Mr Trump, ond y mae arnom angen hwnnw gerbron Duw Rhagluniaeth. Pwy ydym ni i honni deall ei ffyrdd? Pwy ydym ni i ymffrostio yn ein nerth a’n hiechyd a’n perffeithrwydd? Pwy ydym ni i hawlio mai ynom ni y mae’r ateb i broblemau dyrys? Ynghyd â’r olwg ar ragluniaeth ddirgel Duw y daw golwg ar ein bychander ein hunain.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Hydref, 2020
Gweddio dros yr Arlywydd

Fel y gŵyr fy nghyfeillion, y nhw ydi fy hoff wleidyddion: Arlywydd gorau’r Unol Daleithiau a Phrif Weinidog mwyaf effeithiol y Deyrnas Unedig. (Os na welsoch draw coeglyd y geiriau hynny na chlywed tinc sarcastig fy llais, arnoch chi mae’r bai!)
Mae’r naill yn yr ysbyty. Mae’n amlwg ei fod yn cael y gofal gorau posibl: roedd angen deg o feddygon ond i ddweud wrth y gohebwyr ei fod yn o lew. A gobeithio ei fod yn o lew, ac y bydd yn gwella. O ddeall unrhyw beth am Covid-19, fyddai neb ohonom yn dymuno i unrhyw un ddioddef ohono. Er bytheirio yn ei erbyn lawer gwaith, rwyf wirioneddol yn gobeithio y bydd Mr Trump yn gadael yr ysbyty’n fuan, ac yn wirioneddol obeithio hefyd y bydd wedyn yn gadael y Tŷ Gwyn mor fuan â phosibl.
A derbyn bod yr Arlywydd yn sâl ac nad ffugio’r cyfan y mae fel rhan o’i ymgyrch etholiadol, un nad oes ganddo amheuaeth o gwbl y bydd yn gwella ydi Mr Boris Johnson. ‘We’re hoping that they recover speedily. And I’ve no doubt he will. He’ll make a very strong recovery … I’m sure he’ll come through it very well.’ Mae’r ffaith iddo ef ei hun ddioddef o’r haint a gwella’n rhoi i’r Prif Weinidog sail dros obeithio y bydd yr Arlywydd yn gwella. Ac wrth gwrs, bod yn obeithiol y mae pawb mewn amgylchiadau o’r fath. Mae’n debyg fod pawb ohonom wedi dweud rhywbeth tebyg yn wyneb afiechyd lawer tro.
Ond dyw pethau ddim mor rhwydd â hynny bob amser. Dyw pawb ddim yn ‘gwella yn gyflym’. Dyw pawb ddim yn ‘dod trwyddi’n dda iawn’. Fedrwn i ddim peidio â meddwl am bobl felly wrth wrando ar y Prif Weinidog. Wir i chi, nid ceisio bod yn feirniadol ohono ydw i heddiw; ond rywsut, roedd ei hyder bod Mr Trump yn ‘very resilient character’ yn merwino’r glust. Roedd fel petai’n awgrymu y byddai hynny’n ddigon i drechu’r afiechyd. Ymhlith y filiwn o bobl a fu farw o’r haint, mae’n siŵr fod yna filoedd lawer o ’resilient characters’.
Ac nid Covid-19 yn unig. Meddyliwn am yr holl bobl sy’n brwydro yn erbyn afiechyd creulon: afiechydon sy’n eu gwanio ac yn difetha eu bywydau. Yng nghanol yr holl boeni am yr haint, mae llawer yn ein plith sy’n mynd trwy’r drin. Gobeithio eu bod yn cael y gofal a’r sylw gorau posibl er gwaethaf yr holl newid a fu i drefniadau’r ysbytai ers bron i saith mis. Gweddïwn dros bawb sy’n wael yn ein plith ar hyn o bryd. Gweddïwn dros bawb sy’n aros am driniaeth a ohiriwyd oherwydd yr argyfwng. Gweddïwn dros deuluoedd sy’n methu ag ymweld â’u hanwyliaid mewn ysbyty a chartref preswyl. Gweddïwn dros bawb sy’n gweini ar anwyliaid. Gweddïwn dros bawb a gollodd deulu a ffrindiau y misoedd diwethaf hyn. A thros bawb sy’n ofni neu’n wynebu’r gwaethaf, gweddïwn y bydd gobaith Efengyl Iesu Grist am y fuddugoliaeth dros y gelyn angau yn gysur ac yn obaith sicr iddynt.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 04 Hydref, 2020