Ochenaid y graig

Cafwyd rhybudd yr wythnos ddiwethaf o ba mor beryglus yw’r hen Chwarel. Nid heb reswm y mae’r arwyddion yn ein rhybuddio rhag mentro’n rhy agos at ymylon y tyllau dwfn wrth grwydro’i llwybrau. O gofio bod Chwarel Vivian ers tro byd yn barc chwarae i ddeifwyr a dringwyr a hyd yn oed gerddwyr weiren uchel, gallwn ddiolch nad oedd y sŵn a’r mwg fore Iau yn arwydd o ddim mwy na thirlithriad. Mor rhwydd y gallasai fod yn drychineb.

Nid yw tirlithriad o’r fath yn digwydd bob dydd, ond y mae’n atgoffa pawb ohonom mor beryglus oedd y Chwarel yn ei hanterth, ac mor beryglus y gall fod o hyd. Beth bynnag am yr union amgylchiadau a achosodd y tirlithriad y dydd o’r blaen, canlyniad yr holl waith a fu ar wyneb y graig dros y blynyddoedd ydyw yn y pen draw. Mae’r mynydd wedi ei hagru, ac yn anorfod y mae’r holl ffrwydro a rhwygo a hollti wedi gwanhau darnau ohono. Bron nad yw’r mynydd ei hun yn dweud nad yw’n fodlon, wedi’r rheibio a’r anharddu a fu arno, cael ei ddofi a’i wneud yn faes chwarae i’r genhedlaeth newydd.

Mae’r holl sylw a roddir heddiw i faterion amgylcheddol yn atgoffa credinwyr o gyfrifoldeb y ddynolryw i barchu’r byd a greodd eu Duw. Y fath lygredd a achoswyd ac sy’n dal i gael ei achosi gan y rheibio ar adnoddau byd natur. Y fath bryder sydd hyd yn oed ynghylch dyfodol y ddynoliaeth oherwydd y ffordd yr ydym yn trin y Cread. Daeth materion fel Newid Hinsawdd yn destun trafod beunyddiol ac yn gonsyrn gwirioneddol i’r byd. Wrth reswm, fe ddylai fod yn gonsyrn difrifol i Gristnogion fel i bawb arall.

Yn ei lythyr at yr eglwys yn Rhufain, dywed Paul: ‘Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o’i dewis ei hun, ond trwy’r hwn a’i darostyngodd … Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw’ (Rhuf. 8:20 a 22). Mae’r Cread cyfan, meddai, wedi ei effeithio gan bechod, ac oherwydd hynny mewn gwewyr mawr. Mae’r ffordd y mae’r ddynoliaeth yn dal i gamddefnyddio adnoddau’r ddaear yn parhau a dyfnhau’r gwewyr hwnnw. Gall pobl well na mi gynnig esboniad am yr hyn a ddigwyddodd yn Chwarel Vivian. Wn i ddim. Ond tybed nad oedd y cwymp mawr hwn yn arwydd bychan o ochenaid y Cread a ddarostyngwyd?

Mae’r Eglwys wedi credu erioed ein bod yn stiwardiaid ar greadigaeth Duw; a chaiff ei herio o’r newydd i gymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Ond gall wneud hynny yn y gobaith y sonia Paul amdano: ‘yn y gobaith y cai’r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth a’i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw’. Rhan o obaith yr Efengyl yw y caiff y Cread ei adnewyddu a’i berffeithio, yn y nef a’r ddaear newydd a fydd yn rhan o’r iachawdwriaeth fawr yng Nghrist.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Tachwedd, 2020

Do, bu raid!

Dwi ddim isio bod yn ‘blismon iaith’, y math o berson sydd dan y lach am ei fod byth a hefyd yn beirniadu safon iaith pawb arall. Dyw hynny ddim yn golygu nad oes ots gen i am safon y Gymraeg sydd ar wefusau darlledwyr a newyddiadurwyr ac awduron. Mi fyddwn yn dadlau y dylai pobl felly fod yn weddol agos ati. Ond does dim cyfiawnhad dros feirniadu pawb am wallau gramadegol a geiriau Saesneg wrth iddynt sgwrsio a thraethu ar radio a theledu, mewn siop, ar gae chwarae, neu yn unman arall o ran hynny. Dwi ddim yn gwirioni ar Gymraeg gwallus, ond mae’n well gen i Gymraeg gwallus na dim Cymraeg o gwbl.

Ac eto, mi fynnaf fod yn ‘blismon iaith’ – nid i neb arall ond – i mi fy hun. Mae’n gas gen i bob camgymeriad gramadegol neu iaith wallus sy’n llithro i mewn i’r hyn y byddaf yn ei sgwennu. Gwaetha’r modd, mae gormod o lawer ohonynt; a chaed un arall y Sul diwethaf.

Fel arfer, ceisio eu hanwybyddu a wnaf.  ’Dwy fi, mwy na neb arall, yn mwynhau tynnu sylw at fy meiau fy hun! Ond mae’n anodd anwybyddu’r camgymeriad oedd yn y frawddeg: ‘Ond er mwyn ein hachub ni fu raid i’n Cadfridog a’n Brenin, Iesu Grist ei hun, fynd i’r drafferth ryfeddaf’.

Trwy dreiglo’r gair ‘bu’ yng nghanol y frawddeg a hepgor y coma o’i flaen newidiwyd ystyr y frawddeg yn llwyr. Doeddwn i ddim yn bwriadu dweud NA fu raid i’r Iesu fynd i drafferth. Yr hyn y bwriadwyd ei ddweud oedd: ‘Ond er mwyn ein hachub, bu raid i’n Cadfridog a’n Brenin, Iesu Grist ei hun, fynd i’r drafferth ryfeddaf’. 

Do, er mwyn ein hachub, bu raid i Iesu Grist fynd i’r drafferth ryfeddaf. Nid ar chwarae bach y gadawodd berffeithrwydd y nefoedd a dod i fyd llawn blinder a hagrwch, gan roi heibio’i orsedd er mwyn dod yn ddyn meidrol. Nid peth bach oedd cymryd arno gyfyngiadau a gwendid dyn, ac yntau ei hun yn Fab Duw. Y fath ymdrech a olygai iddo wedyn i fod yn ddyn perffaith, yn rhoi ufudd-dod llwyr i’w Dad Nefol er gwaethaf pob temtasiwn i bechu fel pob dyn a dynes a’i blaenorodd ac a’i dilynodd ar wyneb daear. Mor galed oedd goddef gwawd a gelyniaeth pobl oedd a’u bryd ar ei ddal a’i ladd. Mor anodd dal ati â chynifer o bobl un ai’n camddeall ei neges neu yn ei gwrthod, a hyd yn oed ei ddisgyblion yn araf i dderbyn popeth a ddywedai wrthynt. Ac yn y diwedd, yr ildio llwyr a’i dygodd i Galfaria, i ddioddef ac i farw. A pham y fath drafferth? Er mwyn ein hachub. Nid er ei fwyn ei hun y bu’r cyfan, ond er mwyn eraill. Waeth faint o ymdrech a roddwn, na’r drafferth yr awn iddi, y mae’n gwbl amhosibl i neb ohonom ein hachub ein hunain rhag y gosb y mae ein pechod yn ei dwyn arnom. Dim ond Iesu Grist, trwy ei ymdrech fawr wrth fyw a marw drosom, a ddaw a ni i’r diogelwch a’r achubiaeth y mae’r Efengyl yn ei chyhoeddi.    

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Tachwedd, 2020

Dim panic!

“Don’t panic!” oedd un o ymadroddion bachog y gyfres Dad’s Army. Aeth Capten Mainwaring a’i blatŵn i bob math o helbulon yn y gyfres gomedi wych hon. Mae gen i frith gof iddynt unwaith fynd ar goll wrth gymryd rhan mewn rhyw ymarfer neu’i gilydd. O bosibl nad yw hynny’n gywir; ond mi gollwyd tair o raglenni cynnar y gyfres gan fod y tapiau ffilm wedi eu glanhau a’u hailddefnyddio gan y BBC.  Ail grëwyd y rhaglenni hynny’r llynedd gan sianel deledu arall gydag actorion gwahanol.

Rhai da oedd Mainwaring, Wilson, Jones, Fraser, Walker, Godfrey a Pike.  Roedd hefyd ambell aelod ymylol arall o’r platŵn, yn cynnwys y Cymro Cheeseman. Ond nid Carlton-Smith. 

Ar Wastadedd Caersallog (Salisbury Plain) mae 150 milltir sgwâr o dir ymarfer y Fyddin, gyda 47 milltir sgwâr ohono wedi ei neilltuo ar gyfer saethu. Yn ddiweddar, gollyngwyd Mark Carlton-Smith yno ar ganol ymarfer milwrol. Roedd i fod i gyfarfod â chatrawd arbennig; ond gadawodd yr hofrennydd o yn y man anghywir, ac roedd ar goll am sbel a neb yn gwybod ble’r oedd. Fe’i cafwyd yn ddiogel; ond y fath embaras o gofio iddo fynd yno i godi calon y milwyr. Mwy o embaras oedd y ffaith mai’r General Sir Mark Carlton-Smith yw Pennaeth y Fyddin Brydeinig! Gallaf ddychmygu Corporal Jones yn gweiddi, “Don’t panic! Sir!”

Doedd ei radd fel Cadfridog na’i deitl ‘Syr’ na’i statws fel Pennaeth y Fyddin (na hyd yn oed ei enw dwbl-baril) yn diogelu Mark druan rhag mynd ar goll. A druan ohonom ninnau: dyw ein statws na’n cefndir na’m magwraeth na’n cymeriad na’n cyraeddiadau na dim arall yn ein diogelu rhag bod ar goll oddi Dduw. Trwy gamgymeriad rhywun arall mae’n debyg yr oedd y Cadfridog ar goll. Y mae a wnelo camgymeriad rhywun arall â’r ffaith ein bod ninnau ar goll. Mae a wnelo Adda â’r peth, gan fod ei bechod ef yng ngardd Eden yn bechod y byd.  Unwaith y pechodd Adda, roedd pechod yn rhan ohonom.  Am iddo fo bechu yr ydym oll yn pechu, nes bod Paul yn dweud bod ‘pawb yn marw yn Adda’ (1 Corinthiaid 15:22). 

Ac eto, ni allwn bwyntio bys at Adda gan ein bod ninnau ar fai. Rydym yn gwbl gyfrifol nid yn unig am ein cyflwr fel pobl sydd ar goll ac ymhell oddi wrth Dduw, ond hefyd am bob gweithred a meddwl amherffaith a drwg. Rydym yn dewis peidio â gwrando ar Dduw ac yn dewis peidio ag ufuddhau i’w orchmynion.  Ac nid yw nac enw da na defod grefyddol na gweithredoedd arwrol o ddim lles i ni.

Daeth y milwyr o hyd i’r Cadfridog Carlton-Smith yn ddidrafferth. Ond er mwyn ein hachub ni, bu raid i’n Cadfridog a’n Brenin, Iesu Grist ei hun, fynd i’r drafferth ryfeddaf. Er mwyn ein dwyn at Dduw, bu raid iddo ysgwyddo’r bai am ein pechod a marw trosom. Ac am iddo wneud hynny, does dim rhaid i ni banicio o gwbl gan fod modd pwyso’n llwyr arno Ef.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 15 Tachwedd, 2020

Llwynog

Dweud rhywbeth am ei hil yn hytrach na’i chymeriad a wnai enw canol Siân. Roedd ei gŵr yr un mor slei â hi. Pe na fyddai Llyfr Mawr Y Plant yn ormod o waith darllen iddo byddai Mr Trump wedi deall ers talwm mor slei yw pob llwynog.

Ac onid yn slei, ‘ganllath o gopa’r mynydd’, yr ymddangosodd llwynog Williams Parry hefyd?

‘Ar ddiarwybod droed a distaw duth,

Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o’n blaen;

Ninnau heb ysgog ac heb ynom chwyth

Barlyswyd ennyd.’

Er anwyled Blewyn Coch a Slei Bach a’u cenawon, nid creadur i ymddiried ynddo mo llwynog. Daw’n llechwraidd i ymosod, ac fe dâl i bobl gofio hynny. Yn rhy hwyr o’i ran ef  y deallodd yr Arlywydd nad oes modd ymddiried yn y llwynog a fu mor bleidiol iddo ers pedair blynedd a mwy. Roedd yn ofni bod cefnogaeth Fox News iddo’n gwegian fymryn cyn yr Etholiad. Ond bellach y mae yntau o bosibl wedi ei barlysu ennyd wrth sylweddoli fod ei hoff orsaf newyddion yn dechrau’r  ymbellhau a oedd yn sicr o ddigwydd pe na fyddai’r Arlywydd yn cael ei ail ethol. Un peth y medrwch fod yn sicr ohono yw na fyn ymerodraeth Rupert Murdoch gefnogi collwr, heb sôn am gollwr sâl a stranclyd. Er mwyn yr ymerodraeth honno, buan y dyfynnir geiriau’r soned ar donfeddi Fox wrth gyfeirio at yr un y bu’n ei foli cyhyd:

‘Digwyddodd, darfu, megis seren wib.’

Buan iawn y gwelodd y Mab Afradlon yn y ddameg ‘nad oedd neb yn cynnig dim iddo’ wedi iddo wario’r cyfan oedd ganddo. Buan y diflannodd rhai a fu’n croesawu Iesu ar Sul y Blodau pan ddaliwyd ef o fewn dyddiau. Buan y cefnodd Hymenaeus ac Alexander  (1 Timotheus 1:20) ar Paul pan aeth pethau yn anodd iddo ef a’i gyd-gredinwyr.

Profiad chwerw yw’r sylweddoliad mai rhywbeth dros dro yw cefnogaeth pobl. O’r olwg oedd arno at ddiwedd yr wythnos, mae’r Arlywydd o bosibl yn dechrau deall hynny. Golwg dyn a ‘barlyswyd ennyd’ oedd arno nos Fercher wrth iddo draddodi ei araith o gyhuddiadau di-sail. Y gwir yw bod yna bobl well o lawer nag ef wedi profi’r chwerwedd o gael ffrindiau a chydweithwyr a chefnogwyr yn cefnu arnynt mewn byd a betws. Ac felly gwyn fyd bawb all ddweud, ‘Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd’ (Diarhebion 18:24). Ond gwell fyth, gwyn fyd y sawl a gano, ‘Pan droir yn adfeilion amcanion pob dyn, / Mi ganaf mor ffyddlon yw’r Cyfaill a lŷn’.

Y Cyfaill hwnnw yw’r Arglwydd Iesu Grist, a addawodd, ‘Ni adawaf chwi’n amddifad’ (Ioan 14:18) ac ‘Yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser’ (Mathew 28:20).

‘Gweld yr Iesu, dyna ddigon

  ar y ffordd i enaid tlawd;
dyma gyfaill bery’n ffyddlon    

  ac a lŷn yn well na brawd.’

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 08 Tachwedd, 2020

Cabledd Las Vegas

Yng ngeiriau Amos, un o broffwydi’r wythfed ganrif Cyn Crist, ‘Nid oeddwn [ac nid ydw] i’n broffwyd, nac yn fab i broffwyd’. Yn sicr, ni roddwyd i mi’r ddawn o ragweld y dyfodol. Ac nid y dyfodol pell yn unig: mae’r dyfodol agos yn ddirgelwch i mi. O’r herwydd ni allaf gyhoeddi heddiw pwy a etholir yn Arlywydd yr Unol Daleithiau’r wythnos hon.

Aeth yr Arlywydd Trump i’r capel y Sul diwethaf. Gwelais fideo ohono yno. Yn amlwg, cafodd ei blesio yn yr oedfa a dangosodd ei werthfawrogiad trwy roi llond dwrn o bapurau 20 doler yn y Casgliad. Ond roedd yn werth pob sentan oherwydd y ‘gair proffwydol’ y daethai yno i’w glywed. Honnai un o weinidogion yr eglwys iddi gael ‘gair proffwydol’ y bore hwnnw yn addo buddugoliaeth ac ail dymor yn y Tŷ Gwyn i’r Arlywydd. Roedd hi a’i gŵr, ei chyd-weinidog, yn gweiddi’n wyllt eu cymeradwyaeth iddo, ac yn annog y gynulleidfa gyfan i ddiolch i Dduw am yr Arlywydd a’r fuddugoliaeth sicr a addawyd iddo. Roedd yntau’n naturiol wrth ei fodd, a’r cyfan yn debycach i un o’i ralïau arlywyddol nag i oedfa. Mr Trump oedd canolbwynt y cyfan. Ac nid rhyfedd bod y gynulleidfa’n udo ei glod gan fod y ‘gair proffwydol’ yn eu sicrhau mai fo ydi ‘cannwyll llygaid Duw’.

Nid yw’r gefnogaeth a gafodd Mr Trump ymhlith Cristnogion ceidwadol ei wlad yn syndod os mai dyma’r math o ddatganiadau a wnaed o bulpudau a llwyfannau eu heglwysi’r blynyddoedd diwethaf. Mor aflednais a gwrthun y cyfan. Beth bynnag fydd canlyniad yr Etholiad, ni allaf ond meddwl bod yr hyn a gyhoeddwyd yn yr oedfa hon yn nes at gabledd na gair oddi wrth Dduw. Y geiriau ‘cannwyll ei lygaid’ (‘apple of his eye’) oedd yn awgrymu hynny ac yn peri’r anesmwythyd mwyaf i mi. Doedd hi ddim yn syndod clywed cefnogwraig frwd yn honni iddi gael gweledigaeth am ei fuddugoliaeth. Ond ‘cannwyll ei lygaid’?

Mae hwn yn ymadrodd Beiblaidd. Mae Dafydd er enghraifft yn gweddïo,  ‘Cadw fi fel cannwyll dy lygaid’ (Salm 17:8); a dywedir am bobl Dduw yn y Gaethglud, ‘bod pob un sy’n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei  lygaid’ (Sechareia 2:8). Mae’n derm sy’n dangos mor werthfawr yw ei bobl i’r Arglwydd. Ond roedd cymhwyso’r term i’r Arlywydd gan ei floeddio’n barhaus o lwyfan yr eglwys yn ymylu ar gabledd. Bron na fwriadwyd i’r gweiddi atgoffa’r gynulleidfa o eiriau Duw am Iesu wedi ei fedydd, ‘Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd’. Ac roedd Mr Trump yn wên o glust i glust!

A ddryllir y ddelw arbennig hon ddydd Mawrth? Neu a saif am bedair blynedd arall?  Wn i ddim. Ond yr hyn a wn ydi bod oedfa yn Las Vegas y Sul diwethaf wedi dod yn rhybudd amserol i bawb ohonom rhag gwneud delwau daearol, a rhag cablu trwy wneud unrhyw un a chanddo draed o glai yn dduw.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 01 Tachwedd, 2020