Nadolig go iawn

Aeth pawb felly … i’w dref ei hun’ (Luc 2:3).’  Felly yr oedd hi ym Mhalestina adeg geni Iesu Grist. Nid felly’n hollol y bydd hi yng Nghymru’r Nadolig hwn. Bydd llai o deithio (llai fyth yn dilyn y cyhoeddiad am y Cloi a ddaeth i rym neithiwr), a llawer mwy nag arfer o bobl yn aros gartref yn hytrach na theithio i dreulio’r Ŵyl yng nghwmni teulu estynedig a ffrindiau.

Bob blwyddyn wedi’r Nadolig, clywir pobl yn ail adrodd yr ystrydeb mai ‘Nadolig distaw’ a gawsant. Mentraf ddweud y bydd mwy o sôn am ‘Nadolig gwahanol’ eleni: gwahanol i’r arfer; gwahanol i’r hyn y byddem yn ei ddymuno; a gwahanol hyd yn oed i’r hyn a gynlluniwyd gennym. Gwahanol hefyd o ran dathliadau’r eglwysi. Mae wedi bod yn chwith i ni heb yr oedfaon a’r gweithgarwch a fu’n ganolog i ddathliad yr eglwysi ers blynyddoedd. Os Duw a’i myn, ac os byw ac iach, bydd dathliadau’r Nadolig nesaf yn fwy tebyg i’r arfer.

Daw ‘Nadolig gwahanol’ eleni â sawl her i bobl a fydd yn ymgodymu â’r siom o fethu â gwneud pethau a fu’n arfer oes iddynt. Bydd yn her arbennig hefyd i bobl sydd ers blynyddoedd wedi gofidio bod ‘gwir ystyr yr Ŵyl’ wedi ei golli yng nghanol yr holl fasnach a rhialtwch. Eleni, mae’r partïon wedi peidio, y cyngherddau wedi’u canslo, a’r ffeiriau wedi’u fforffedu. Nid wyf yn cenfigennu wrth y llywodraethau sy’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn ceisio ein diogelu ni ac ‘achub y Nadolig’ i filiynau o bobl.

Mae’r eglwysi wedi gorfod hepgor llawer o’u dathliadau traddodiadol sydd ynghlwm wrth Ddrama Nadolig y plant, canu carolau, oedfaon Naw Llith a Charol, plygeiniau a phartïon eglwys ac Ysgol Sul. Ond er bod a wnelo’r pethau hyn â neges fawr yr Ŵyl, nid yw ‘gwir ystyr y Nadolig’ wedi ei gyfyngu i weithgareddau o’r fath. Nid y pethau hyn sy’n rhoi ystyr i’r Nadolig, ond y Nadolig sy’n rhoi ystyr iddynt hwy.

Eleni felly, fel y buom yn dueddol cyn hyn o herio eraill i edrych heibio i’r addurniadau a’r anrhegion a’r twrci a’r mins peis, boed i ninnau fedru edrych heibio i elfennau traddodiadol ein Nadolig eglwysig na fydd ar gael y tro hwn.  Heb yr elfennau hynny sy’n dod â chymaint o bleser a bendith i ni, a lwyddwn i ddathlu dyfodiad Ceidwad byd? A fyddwn ni’n llawenhau wrth gofio fod Duw trwy ei Fab Iesu gyda ni ac o’n plaid? A gydiwn o’r newydd yn y gobaith sydd am fod Crist wedi marw trosom? Neu, yn absenoldeb elfennau cyfarwydd ein dathliadau Cristnogol, oes yna beryg na wnawn yr un o’r pethau hyn? Heb os, gwelwn eu heisiau, ond o gael ein gorfodi i wneud hebddynt mae cyfle i ni ein holi ein hunain. A yw’r llawenydd a’r dedwyddwch a gysylltwn â’r Nadolig yn dibynnu ar y traddodiadau allanol ynteu’n deillio o’r ffydd real a phersonol a roed i ni yn y plentyn bach a aned i Mair?

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Rhagfyr, 2020

Gwnaed yn Ffrainc

‘Fabriqué en France.’

Dyna fydd hanes y Grenadier, cerbyd trydan  arfaethedig  Ineos. Breuddwyd Jim Ratcliffe yw cynhyrchu car tebyg i’r Landrover Defender, un o gerbydau Prydeinig eiconig y trigain mlynedd diwethaf. Croesawyd y newyddion mai ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriedid gwneud hynny.  Ond ddydd Mawrth, cadarnhawyd mai yn Ffrainc y caiff y cerbyd ei gynhyrchu gan gwmni’r  gŵr busnes a fu mor frwd ei gefnogaeth i Brexit. Mae James Dyson, un  arall o gefnogwyr Brexit, wedi rhoi heibio’i fwriad o gynhyrchu ceir trydan, am   resymau economaidd. Ond yr oedd yntau eisoes wedi penderfynu nad yng ngwledydd Prydain ond yn Singapore y byddai’r ceir yn cael eu gwneud.

Mae Ineos a Dyson yn gwmnïau hynod o lwyddiannus, a’u perchnogion ymhlith pobl gyfoethocaf gwledydd Prydain. Mae ganddynt bob hawl i leoli eu ffatrïoedd ble bynnag a ddewisant. Ond wedi bod mor huawdl o blaid Brexit a’r dyfodol llewyrchus honedig a fyddai i Brydain o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae’n ymddangos nad ydynt mor hyderus ag yr oeddent. Yn ôl Ratcliffe, mae’r ffatri a brynodd Ineos yn Ffrainc yn ‘gyfle unigryw’ i’r cwmni. Mwyaf piti, ddeunaw mis yn ôl, dyna a addawyd i bobl Pen-y-bont.

Mae’n ymddangos, wedi’r cwbl, nad yw Ratcliffe na Dyson mor hyderus yng ngallu’r Brydain ôl-Frexit i gynnig i’w cwmnïau’r rhyddid a’r cyfleoedd i wireddu’r freuddwyd o fasnachu ym mhob cwr o’r byd. Onid teg casglu nad oedd yr un o’r ddau’n credu’r hyn yr oeddent yn ei ddweud wrth delynegu ynghylch manteision Brexit? 

Daeth tymor y Nadolig, ac er y bydd ein dathliadau o reidrwydd yn wahanol eleni, yr un Gwaredwr a gyhoeddwn wrth ddwyn i gof eni baban Mair. Trwy’r hyn a ddarllenwn ac a ganwn neu y gwrandawn arno, cyhoeddwn drachefn ddyfodiad Ceidwad i’r byd. Dathlwn a llawenhawn wrth gofio’r plentyn bach a welwyd gan fugeiliaid a doethion.  Diolchwn am y Goleuni a ddaeth i’n byd, a chyhoeddwn y newydd mawr fod hwn wedi ei eni er mwyn marw trosom ar Galfaria.  Wedi’r cyfan, dechrau’r daith oedd y preseb.

Sut bynnag y dathlwn y Nadolig hwn, boed i ni trwy ras Duw gredu’r hyn y soniwn amdano a’r hyn a gyhoeddwn. Oherwydd trueni o’r mwyaf fyddai i neb ohonom ddweud y pethau cywir ond heb eu credu mewn gwirionedd. Fel y mae gweithredoedd y gwŷr busnes hyn ac eraill yn dangos nad ydynt wir yn credu eu geiriau eu hunain, gall gweithredoedd rhai pobl ddangos nad ydynt yn credu’r hyn y soniant ac y canant amdano. Pa werth sôn am Frenin heb blygu iddo? Pa werth cyhoeddi Gwaredwr heb ymddiried ynddo?  Pa werth cyhoeddi brawd a aned i ni heb ei garu?  Yn ei drugaredd, boed i Dduw ein galluogi i lawenhau yng Nghrist a byw iddo.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 13 Rhagfyr, 2020

Yn well na phawb?

Dim ond un peth sy’n waeth na dyn annoeth yn agor ei geg; a dyn annoeth nad yw’n gwybod pryd i gau ei geg yw hwnnw. Ac ar orsaf radio LBC ddydd Iau y clywyd un o’r enghreifftiau gwaethaf o hynny. Aelod Seneddol ydi Gavin Williamson. Ond nid unrhyw Aelod chwaith ond yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn Llywodraeth San Steffan. Ond roedd Mr Williamson yn swnio’n debycach i blentyn bach ar fuarth ysgol nag i’r gŵr sy’n gyfrifol am bolisi ei Lywodraeth dros ysgolion ac addysg yn Lloegr. Mi glywsoch chi blant yn gweiddi: “Mae fy mrawd i’n fwy na dy frawd di! Mae fy nhad i’n gryfach na dy dad di! Mae gan fy mam i gar mwy na dy fam di!”

Trafod brechlyn Pfizer/BioNTech a gafodd ei gymeradwyo’r wythnos  ddiwethaf gan MHRA (Asiantaeth Rheolaethu cynnyrch Meddygol a  Gofal Iechyd) oedd Mr Williamson. MHRA yw’r corff sy’n gyfrifol am  awdurdodi’r defnydd o gyffuriau ac ati o fewn y byd meddygol yn y Deyrnas  Unedig. Croesawyd y newydd fod MHRA wedi cymeradwyo’r brechlyn gan filoedd o bobl wrth gwrs; ond roedd y croeso a roddwyd gan fwy nag un o weinidogion Llywodraeth San Steffan nid yn unig yn ddi-urddas ond yn gywilyddus. Roedd Matt Hancock ac Alok Sharma yn mynnu ymffrostio mai’r Deyrnas Unedig oedd y cyntaf i gymeradwyo’r brechlyn a thrwy hynny ei bod wedi profi unwaith eto ei bod yn arwain gweddill y byd. Roedden nhw wrth gwrs yn anwybyddu’r ffaith mai cwmnïau Americanaidd ac Almaenig  yw Pfizer a BioNTech, ac mai o Wlad Belg y daw’r brechlyn a fewnforiwyd i Brydain trwy Dwnnel y Sianel nos Iau. Ond aeth Gavin Williamson gam neu ddau ymhellach na’r lleill fod Prydain wedi ennill mantais gystadleuol real dros bawb arall am y rheswm syml mai ‘Prydain’ yw’r wlad orau; a bod MHRA yn well nag unrhyw asiantaeth sy’n cyfateb iddi yn Ffrainc na Gwlad Belg na’r Unol Daleithiau.

Gobeithio na fydd balchder a’r hunan dwyll hwn yn gwneud i bobl fod yn llai parod i ymddiried yn y brechlyn. Sut na wêl y gwleidyddion hyn y gall hawlio buddugoliaeth i Brydain beri i rai holi a gymeradwywyd y brechlyn yn rhy fuan? Byddai owns neu ddwy o ostyngeiddrwydd o fudd iddynt. Nid heb achos y mae’r Beibl yn anghymeradwyo pob tuedd i bobl feddwl eu bod yn well na phawb arall. Yr enghraifft amlycaf yw condemniad yr Iesu o’r Pharisead  ddiolchai yn ei weddi nad oedd fel pawb arall, ond ei fod mewn gwirionedd yn well na hwy (Luc 18:9-14). Gochelwn y fath agwedd gan nad gwleidyddion yn unig sy’n dueddol o feddwl felly. Mae’r edifeirwch calon sy’n greiddiol i’r iachawdwriaeth yng Nghrist yn gwbl ganolog hefyd i fyw pob dydd y Cristion. Ni fûm erioed yn well na phawb arall; nid wyf yn well na neb arall; ac ni fyddaf tra bwyf fyw yn well na phobl eraill; ond llawenydd yr Efengyl yw bod Duw wedi’n caru er gwaethaf hynny.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Rhagfyr, 2020