Gobaith am fod yn iach

Yr un peth ydyn nhw ar un wedd, ac eto nid yr un peth chwaith. Mae modd cael y brechlyn heb y brechiad, ond nid y brechiad heb y brechlyn. Y brechlyn ydi’r sylwedd y bu gwyddonwyr yn gweithio mor galed i’w gynhyrchu dros fisoedd lawer. A’r brechiad yw’r  weithred o chwistrellu’r brechlyn i’r fraich. Yn amlwg felly, heb frechlyn does dim brechiad; ond gellir cael stoc helaeth o’r brechlyn heb o reidrwydd i neb gael brechiad.

Bu sôn amdano ers blwyddyn, a mwy fyth yr wythnosau diwethaf hyn. Ond ai ‘lyn’ ynteu ‘iad’ y dylem ei ddweud? At y ‘brechlyn’ y bu rhai’n cyfeirio, ac am y ‘brechiad’ y bu eraill yn sôn. Os cofiaf yn iawn, mi fûm i’n sôn am y ddau fel petaen nhw’r un peth.

Ers dechrau’r pandemig, bu’r byd yn dyheu am frechlyn a fydd yn gwarchod pobl rhag Covid-19. Erbyn hyn, mae mwy nag un ar gael, a’r gobaith yw y bydd y rhain o gymorth yn y frwydr yn erbyn y firws. Nid meddyginiaeth yw’r brechlyn. Nid hwnnw’n unig felly a’n gwared rhag y firws; ond y gobaith yw y bydd pob brechlyn awdurdodedig o gymorth.

Fel math o frechlyn y gwêl llawer o bobl Efengyl Iesu Grist: dysgeidiaeth a ffordd o fyw i’n harbed rhag mynd ar gyfeiliorn a chefnu ar Dduw. Ond nid brechlyn yw hi ond meddyginiaeth. Nid ein harbed rhag dal clwyf pechod a wna’r Arglwydd Iesu Grist ond ein hiachau ohono. Oherwydd nid  dod i gyswllt â’r clwyf hwn trwy bethau a phobl a fedr wneud drwg i ni a wnawn. Mae’r clwyf ynom  o’r dechrau, a’r duedd i bechu yn erbyn Duw yn ddwfn ynom. Dwyn iachâd i rai sy’n dioddef o’r clwyf a wna’r Efengyl. 

Ac yn wahanol i’r brechlynnau y clywn gymaint amdanynt heddiw, nid  un feddyginiaeth ymhlith llawer yw’r Efengyl ond yr unig feddyginiaeth i’r clwyf y mae’r ddynoliaeth gyfan yn dioddef ohono. Trwy’r Arglwydd Iesu yn unig y ceir maddeuant a glanhad a ffordd at Dduw. 

Ond os nad yw brechlyn yn ddarlun addas o’r Efengyl, y mae’n briodol sôn am frechiad. Am wahanol resymau, bydd rhai, dros yr wythnosau nesaf, yn gwrthod cymryd y brechiad. Pa mor effeithiol bynnag y brechlyn, bydd yn ddi-fudd i’r bobl hynny.

Ac er gwyched yr Efengyl, bydd ei meddyginiaeth yn aneffeithiol i chi a minnau os na dderbyniwn y newydd da a chredu yn y Gwaredwr a gynnigir. Wrth i ni ymateb mewn ffydd i alwad yr Efengyl, y mae Duw ei Hun trwy ei Ysbryd Glân yn rhoi’r brechiad i ni ac yn chwistrellu ynom ei faddeuant, ei lanhad., ei dangnefedd a’i obaith.

Gymroch chi, neu gymrwch chi’r brechiad? A’r feddyginiaeth a gynnigir yng Nghrist? Heb unrhyw amheuaeth, gallwn ddweud na thâl i neb wrthod honno am unrhyw reswm nac am bris yn y byd.   

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 31 Ionawr, 2021.

Yfed ar y slei

Un peth a ddaeth yn sgil Covid-19 yw corff o ddeddfau. Mae’r mwyafrif yn ymdrechu i’w cadw ac yn cael eu cythruddo wrth weld pobl yn teithio o bellter i ddringo’r Wyddfa neu i fynd am dro ar lan y môr. Mae clywed am griwiau’n cynnal partïon yn medru ein gwylltio a’n digalonni. Mae’r bobl hyn yn aml yn cyfiawnhau’r hyn a wnânt; ond i’r gweddill ohonom, pobl anghyfrifol a hunanol ydynt.

Wedi dweud hynny, rhaid cydnabod nad yw’n hawdd cadw pob rheol, yn arbennig wrth i reolau newid. Clywais fwy nag un yn cyfaddef iddynt fethu â chadw at lythyren y ddeddf bob amser, er pob bwriad da. A chan mor hawdd yw plygu’r mymryn lleiaf ar ambell reol, mae geiriau’r Arglwydd Iesu (mewn cyswllt arall) mor berthnasol: ‘Pwy bynnag ohonoch sy’n ddibechod, gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg ati’ (Ioan 8:7); a ‘Peidiwch â barnu, rhag ichwi gael eich barnu (Mathew 7:1).

Ar ddiwedd wythnos a welodd urddo Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, llifogydd yng Nghymru, a’r pryder     parhaus ynghylch Covid, trist oedd gweld mai un o’r prif straeon oedd honno am Aelodau o’r Senedd yn yfed alcohol yn adeiladau’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd ddechrau Rhagfyr wedi i’r gwaharddiad ar weini alcohol ddod i rym. Mae tri Aelod wedi ymddiheuro, a dau o’r tri wedi rhoi’r gorau i’w swyddi mainc flaen ddoe; ac amser yn unig a ddengys beth a ddigwydd eto. Fis Mai’r llynedd, galwodd un o’r tri ar Ysgrifennydd Iechyd y Llywodraeth, Vaughan Gething, i ymddiswyddo am iddo fwyta sglodion wrth fynd allan am dro efo’i deulu. Mae’n siŵr fod yr Aelod hwnnw erbyn hyn yn difaru dweud, ‘Yr  argraff a gaiff y cyhoedd yw bod yna un rheol i’r Ysgrifennydd Iechyd a rheol arall iddyn nhw.’

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad ar y gweill. Ond y canfyddiad yw bod yr Aelodau hyn wedi manteisio’n ddigywilydd ar eu safle breintiedig er mwyn torri rheol a osodwyd ar bawb arall. Ni ellir cyfiawnhau’r hyn a wnaethant.  Ond mae gen i ronyn o gydymdeimlad â hwy wedi i Lefarydd ar ran Boris Johnson ddweud bod y ‘Prif Weinidog yn disgwyl i bawb – beth bynnag eu statws a beth bynnag eu safle – fynd  yr ail a’r drydedd filltir wrth gadw’r rheolau ynghylch Covid’. Haws fyddai gwrando arno pe byddai wedi canu’r un gân pan aeth ei gyfaill Dominic Cummings am dro gan osod y cynsail i bawb a fyn dorri unrhyw reol. 

Nid anwybyddu na chyfiawnhau beiau y mae’r Iesu trwy’r geiriau uchod; ond dweud wrthym am beidio â rhuthro i feirniadu eraill, a ninnau o bosibl yn euog o’r un pethau neu waeth. Gwyliwn rhag taflu’r garreg gyntaf; ond cofiwn hefyd nad esgusodi’r wraig a ddaliwyd mewn godineb a wnaeth Iesu ond dweud wrthi, ‘Dos, ac o hyn allan paid â phechu mwyach’ (Ioan 8:11). 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Ionawr, 2021.

Cerdyn Trỳmp

Yn ei dŷb ei hun, mae’r enw’n gwbl briodol. Mewn gêm o gardiau fel chwist mae’r cerdyn trỳmp yn rhagori ar y gweddill. Un o feiau mawr yr Arlywydd Trump yw ei argyhoeddiad ei fod yntau’n rhagori ac nad oes modd iddo golli na dadl na chytundeb masnachol na dim arall … nac etholiad.

Roedd y gred na all fod yn anghywir yn waelodol i bopeth a ddywedodd ac a wnaeth dros bedair blynedd ei arlywyddiaeth. Fo oedd yn iawn; fo sydd yn iawn; a fo fydd yn iawn yn ei dŷb ei hun, a hyd yma beth bynnag yn nhŷb miliynau o’i gefnogwyr.

Gwelwyd y peth ar gychwyn ei daith i Texas ddydd Mawrth diwethaf wrth iddo gyfiawnhau’r araith a draddododd yn gynharach. Mynnai ei fod wedi gweld pobl yn dadansoddi ei araith yn y papurau ac ar y teledu “to the T”,  i’r manylyn lleiaf. Roedd pawb, meddai, yn gytûn fod ‘y cwbl a ddywedais yn briodol, yn cynnwys y paragraff olaf a’r frawddeg olaf’.

Tybiais ar unwaith ei fod yn cyfeirio at yr araith a draddododd nos Iau, Ionawr 7, drannoeth yr ymosodiad ar y Capitol (sef yr araith y cyfeiriais ati yn Gronyn y Sul diwethaf). Yn honno, os cofiwch, mi wnaeth gondemnio’r trais gan ddweud nad oedd y rhai a wnaeth gyrch ar y Capitol yn ei gynrychioli ef na’u gwlad. Roedd yn anodd gen i gredu ei fod yn mynnu bod pawb wedi llyncu’r hyn a ddywedodd ac yn derbyn fod y cyfan yn briodol a chywir. 

Ond yna, mi wawriodd arnaf mai at yr araith a draddododd  CYN y cyrch yr oedd yn cyfeirio: yr araith y bu pobl ar draws y byd yn sôn amdani; yr araith y bu beirniadu mawr arni; yr araith a fyddai’n sail dros uchelgyhuddo’r Arlywydd ddydd Mercher. 

Am eiliad, anwybyddwch gynnwys yr araith; a dim ond holi, sut yn y byd y gallai neb honni fod pawb o’r farn fod yr araith honno’n ddi-fai?  Ond dyna grynhoi’r dyn. Pa ots bod miliynau o bobl o’r farn bod yr araith wedi ysgogi terfysg? Pa ots ei fod ar fin cael ei uchelgyhuddo oherwydd yr araith? Roedd o’n mynnu bod pawb yn gwbl fodlon â’r hyn a ddywedodd.  Pa ots am dystiolaeth i’r gwrthwyneb?

Os yw Trump wedi dysgu unrhyw beth i ni, ein dysgu i ystyried y medrwn fod ar fai yw hwnnw; ein dysgu i dderbyn y dystiolaeth sydd yn ein herbyn. Yng ngoleuni’r Beibl, mae pob un ohonom yn euog gerbron Duw; a chwbl ofer yw ceisio gwadu hynny. Yn rhyfeddol iawn, mae Trump yn mynnu bod pawb “to the T” yn cymeradwyo pob gair a ddywedodd, er gwaetha’r dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Amser a ddengys beth fydd oblygiadau hynny iddo yn y pen draw. Gwyliwn rhag y fath ryfyg ffôl. Mae’r Beibl a Duw ei hun a’n cydwybod ein hunain hyd yn oed yn dwyn eu tystiolaeth i’n hangen am faddeuant ac am Waredwr. Dim ond y sawl a’i hystyrio’i hun yn gerdyn trỳmp, sy’n rhagori ar bawb, a fyddai’n gwadu’r dystiolaeth honno.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Ionawr, 2021.

Gwahoddiad i’n hoedfa Zoom

Mae gan eglwysi Gofalaeth Fro’r Llechen Las oedfa trwy gyfrwng Zoom am 5.00 o’r gloch bob nos Sul. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni. Cysylltwch â’r Gweinidog, John Pritchard, i gael y ddolen neu’r cod ar gyfer y cyfarfod Zoom.

Anfonwch neges at john.cilfynydd@btinternet.com

Brad

Byw o’r llaw i’r genau wna Gronyn, heb fawr o syniad o ble daw’r neges nesaf.  Un dydd ar y tro yw hi fel arfer. Ond y bwriad ar gyfer y Sul nesaf oedd ffarwelio â Mr Trump dridiau cyn iddo adael y Tŷ Gwyn, a diolch iddo nid am yr hyn a fu fel Arlywydd ond am iddo fod i mi’n chwarel o ddamhegion. Ond yn wahanol i Chwarel Dinorwig, nid oes peryg i’r chwarel hon gau dros nos. Bydd digwyddiadau dydd Mercher, a chyfraniad ac ymateb yr Arlywydd i’r cyrch ar y Capitol yn Washington yn fargen broffidiol am sbel eto.

Ond lle mae dechrau? Mi fodlonaf ar ddechrau yn y diwedd a chydymdeimlo â phawb fu yng nghanol yr helynt: gwleidyddion, gweinyddwyr; staff yr adeilad; gohebwyr; heddlu; y bobl a anafwyd; a theuluoedd y rhai a fu farw. A dylid ychwanegu at y rhestr lawer a fu’n rhan o’r rhuthrad. Pwy bynnag arall a gynlluniodd y cyrch, mae’n gwbl amlwg fod a wnelo’r Arlywydd a’i rethreg â’r peth. Ers wythnosau, bu’n galw ar ei gefnogwyr i wneud y diwrnod y byddid yn cadarnhau ethol Arlywydd newydd yn ddydd i fynnu mai fo ei hun oedd ‘gwir enillydd’ yr Etholiad. Daeth ei gefnogwyr yn eu miloedd i Washington ddydd Mercher i rali fawr i glywed Rudy Guiliani, ei gyfreithiwr personol, yn galw am ‘trial by combat’, a Mr Trump yn edliw eto bod y ‘fuddugoliaeth wedi ei lladrata’ oddi arno. Ac yna, ‘Da ni am gerdded – ac mi fydda i yno efo chi – i’r Capitol, a da ni am gymeradwyo ein seneddwyr a’n cynrychiolwyr dewr … Oherwydd wnewch chi byth ennill ein gwlad yn ôl trwy wendid; mae’n rhaid i chi ddangos cryfder; mae’n rhaid i chi fod yn gryf ’.

O fewn awr neu ddwy, roedd miloedd o’i gefnogwyr wedi rhwystro, dros dro, waith y Senedd a Thŷ’r Cynrychiolwyr yn enw’r ‘gwirionedd’ honedig am yr Etholiad, ac yn ei enw ef. Gyda’r nos, diolchodd yr Arlywydd iddynt: ‘Da ni’n eich caru … Da chi’n arbennig iawn’.

Ymhen pedair awr ar hugain, yn wyneb y perygl o gael ei wthio o’i swydd, roedd Trump trwy groen ei ddannedd (ac mewn geiriau benthyg mae’n debyg) yn condemnio’r ‘trais a’r anghyfraith a’r anhrefn’. Ac wrth fyddin y capiau MAGA a’r baneri ‘Trump 2020’ yr oedd o’i hun wedi eu hysbrydoli a’u tanio, meddai, ‘Da chi ddim yn cynrychioli ein gwlad … Mi fyddwch chi’n talu [am dorri’r gyfraith]’. Er mwyn achub ei groen, roedd yn barod i fradychu’r union bobl a’i dilynodd ac a’i dyrchafodd cyhyd.

Heb os, mae brad ymhlith y creulonaf o ergydion. Gochelwn rhagddo o fewn teulu; ymhlith cyfeillion; yn wleidyddol; yn y gweithle; yn yr Eglwys; ac ym mhobman. Ac mewn byd creulon o frad ac anffyddlondeb, diolchwn am yr addewid werthfawr: ‘Bydd yr Arglwydd dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat’ (Deuteronomium 31:6).

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Ionawr, 2021.