Yr un peth ydyn nhw ar un wedd, ac eto nid yr un peth chwaith. Mae modd cael y brechlyn heb y brechiad, ond nid y brechiad heb y brechlyn. Y brechlyn ydi’r sylwedd y bu gwyddonwyr yn gweithio mor galed i’w gynhyrchu dros fisoedd lawer. A’r brechiad yw’r weithred o chwistrellu’r brechlyn i’r fraich. Yn amlwg felly, heb frechlyn does dim brechiad; ond gellir cael stoc helaeth o’r brechlyn heb o reidrwydd i neb gael brechiad.
Bu sôn amdano ers blwyddyn, a mwy fyth yr wythnosau diwethaf hyn. Ond ai ‘lyn’ ynteu ‘iad’ y dylem ei ddweud? At y ‘brechlyn’ y bu rhai’n cyfeirio, ac am y ‘brechiad’ y bu eraill yn sôn. Os cofiaf yn iawn, mi fûm i’n sôn am y ddau fel petaen nhw’r un peth.
Ers dechrau’r pandemig, bu’r byd yn dyheu am frechlyn a fydd yn gwarchod pobl rhag Covid-19. Erbyn hyn, mae mwy nag un ar gael, a’r gobaith yw y bydd y rhain o gymorth yn y frwydr yn erbyn y firws. Nid meddyginiaeth yw’r brechlyn. Nid hwnnw’n unig felly a’n gwared rhag y firws; ond y gobaith yw y bydd pob brechlyn awdurdodedig o gymorth.
Fel math o frechlyn y gwêl llawer o bobl Efengyl Iesu Grist: dysgeidiaeth a ffordd o fyw i’n harbed rhag mynd ar gyfeiliorn a chefnu ar Dduw. Ond nid brechlyn yw hi ond meddyginiaeth. Nid ein harbed rhag dal clwyf pechod a wna’r Arglwydd Iesu Grist ond ein hiachau ohono. Oherwydd nid dod i gyswllt â’r clwyf hwn trwy bethau a phobl a fedr wneud drwg i ni a wnawn. Mae’r clwyf ynom o’r dechrau, a’r duedd i bechu yn erbyn Duw yn ddwfn ynom. Dwyn iachâd i rai sy’n dioddef o’r clwyf a wna’r Efengyl.
Ac yn wahanol i’r brechlynnau y clywn gymaint amdanynt heddiw, nid un feddyginiaeth ymhlith llawer yw’r Efengyl ond yr unig feddyginiaeth i’r clwyf y mae’r ddynoliaeth gyfan yn dioddef ohono. Trwy’r Arglwydd Iesu yn unig y ceir maddeuant a glanhad a ffordd at Dduw.
Ond os nad yw brechlyn yn ddarlun addas o’r Efengyl, y mae’n briodol sôn am frechiad. Am wahanol resymau, bydd rhai, dros yr wythnosau nesaf, yn gwrthod cymryd y brechiad. Pa mor effeithiol bynnag y brechlyn, bydd yn ddi-fudd i’r bobl hynny.
Ac er gwyched yr Efengyl, bydd ei meddyginiaeth yn aneffeithiol i chi a minnau os na dderbyniwn y newydd da a chredu yn y Gwaredwr a gynnigir. Wrth i ni ymateb mewn ffydd i alwad yr Efengyl, y mae Duw ei Hun trwy ei Ysbryd Glân yn rhoi’r brechiad i ni ac yn chwistrellu ynom ei faddeuant, ei lanhad., ei dangnefedd a’i obaith.
Gymroch chi, neu gymrwch chi’r brechiad? A’r feddyginiaeth a gynnigir yng Nghrist? Heb unrhyw amheuaeth, gallwn ddweud na thâl i neb wrthod honno am unrhyw reswm nac am bris yn y byd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 31 Ionawr, 2021.