
Gellir priodoli enw da rhai busnesau i’r enw a roddwyd iddo. Mae taro ar yr enw cywir wedi sicrhau llwyddiant i ambell fusnes. Gall enw bachog, addas a chofiadwy wneud byd o wahaniaeth. Clywais fwy nag un person yn dweud eu bod wedi meddwl am enw ymhell cyn iddynt sefydlu’r busnes a wnaeth yr enw hwnnw wedyn yn gyfarwydd.
Nid pawb sy’n llwyddo. Mae’n siŵr gen i fod busnesau da wedi methu, neu o leiaf heb wneud cystal ag y byddai modd oherwydd enw diddychymyg neu anaddas. Mae gen i awydd sefydlu cwmni o’r enw ‘Celfi Cilfynydd’ ond does gen i mo’r syniad lleiaf beth fydd natur y busnes hwnnw eto.
‘Public First’: dyna enw da ar gwmni er nad yw’n amlwg beth yw natur y busnes chwaith. Ond yr argraff sicr a roddir yw bod y cwmni hwn – beth bynnag y mae’n ei wneud – o blaid y cyhoedd. Y cyhoedd – chi a fi – sy’n bwysig i’r cwmni hwn. O leiaf, mae’n ymddangos mai dyna fyddai’r cwmni am i ni ei gredu.
Gwybodaeth ydi busnes y cwmni hwn. Cwmni bychan, newydd a sefydlwyd yn 2017 ydyw sy’n ymchwilio i farn y cyhoedd am wahanol bynciau ac yn ceisio dylanwadu ar y farn honno. Dyma gwmni a gafodd gytundebau gwerth £840,000 gan Lywodraeth San Steffan heb orfod cystadlu amdano ar ddechrau argyfwng Covid-19 flwyddyn yn ôl. Mae’r Llywodraeth am i ni gredu nad oedd a wnelo hyn â’r ffaith bod perchnogion y cwmni’n ffrindiau a chyd-weithwyr i Dominic Cummings a Michael Gove. Pa mor anaddas all enw fod? ‘Public First’?
Un sydd ag enw addas ydi Dewi. Nid cyfenw nac enw teuluol ydi ‘Sant’, er y dywedir mai Sant (neu Sandde) oedd enw ei dad. Gelwir Dewi wrth yr enw hwnnw am ei fod ef, ynghyd â phobl fel Illtud a Deiniol a Cybi yn un o’r saint a gyhoeddai’r newydd da am Iesu Grist. Ystyr wreiddiol y gair ‘saint’ yw ‘wedi ei neilltuo’. Defnyddir y gair yn y Testament Newydd am y bobl sydd wedi eu gosod ar wahân i bawb arall trwy gredu yn Iesu Grist, ond daethpwyd i arfer y gair unigol ‘sant’ am y bobl a bregethai’r Efengyl yn nyddiau cynnar y Ffydd yng Nghymru a gwledydd eraill o tua dechrau’r bumed ganrif hyd ddiwedd y seithfed.
Dychmygwch Dewi’n crwydro’r wlad mewn fan fawr ac ar ei hochr, mewn llythrennau breision, yr enw DEWI SANT. Byddai pobl ei oes yn gwybod nad gwerthu pysgod na gosod carpedi fyddai’r gyrrwr ond cyhoeddi Efengyl gras Duw yn Iesu Grist. Byddai’r enw’n dangos hynny. Rywsut aeth hynny’n angof, a gwnaed dyn y Ffydd yn fath o lysgennad dros unrhyw beth a phopeth cysylltiedig â’n hiaith a’n gwlad. Yfory, ar Ddydd Gŵyl Ddewi, beth am geisio cyfle i atgoffa rhywun mai dyn yr Efengyl oedd Dewi Sant: dyn y Ffydd a llysgennad dros yr Arglwydd Iesu Grist. Yn yr enw y mae’r gyfrinach.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Chwefror, 2021.