A roed erioed

A ninnau’n byw dan gysgod Covid-19 ers dros flwyddyn, oedden ni wir angen cael ein hatgoffa o’r ffaith y gall un peth annisgwyl effeithio ar filiynau o bobl?  Ond dyna ddigwyddodd wedi i’r Ever Given  droi wysg ei hochr yng nghanol Camlas Suez.  Aeth y llong gynwysyddion anferth yn sownd, gan rwystro pob llong arall rhag tramwyo’r Gamlas.

Gwelwyd lluniau o lynges fechan o dynfadau ac un jac-codi-baw bach unig yn ymdrechu’n ofer i symud y llong.  Yn anochel braidd, daeth y rhain yn destun sbort i rai ar y We ac yn y Wasg am eu hymdrechion tila.  I lawer, mae’r hyn a gofiwn ar Sul y Blodau hefyd yn destun sbort. Sut all dyn a deithiai ar gefn asyn ac a fyddai o fewn dyddiau’n marw ar groes fod yn berthnasol i’w bywydau hwy?  

Erbyn bore ddoe, roedd perchnogion y llong yn obeithiol o fedru ei rhyddhau cyn diwedd y dydd.  O bosibl y bydd hynny wedi digwydd cyn i chi ddarllen y geiriau hyn.  Ond rhywbeth arall a’m trawodd y dyddiau diwethaf oedd bod yna gant a mil o bobl yn doethinebu ynglŷn â’r ffordd o ryddhau’r llong: pawb â’i syniad a phawb yn arbenigwr.

Mae’n debyg y daw’r gwir arbenigwyr i ben â’r gwaith o symud y llong, a hynny gobeithio mor fuan â phosibl. O gofio bod, ar gyfartaledd, 51 llong yn tramwyo’r Gamlas bob dydd, mae pob awr yn cymhlethu pethau i’r cwmnïau llongau a phawb sy’n dibynnu arnynt ar draws y byd. Anodd ydi dychmygu’r anghyfleustra a’r gost a achoswyd gan y digwyddiad hwn. 

Wedi ein dal yn sownd ydym ninnau, yn gaeth i bechod a’r condemniad sydd arnom am nad ydym wedi caru Duw a chadw ei orchmynion yn llawn. A heb obaith ydym er gwaetha’r cyfan a ddywed myrdd o arbenigwyr wrthym am y rhyddhad honedig o’r caethiwed hwnnw trwy feithrin gwybodaeth neu ddaioni neu grefydd neu ddylanwadau da.  Mae gan y tynfad gwannaf a’r jac-codi-baw lleiaf fwy o obaith i  symud y llong nag sydd gan y pethau hyn i’n hachub ni.

Y Duw tragwyddol yw’r arbenigwr, a chanddo ef y mae’r gallu i’n rhyddhau o’r baw a’r mwd sy’n ein dal yn gaeth.  A rhyfeddod pethau yw mai trwy’r dyn a wnaed yn wawd a thestun sbort i’r byd y gwnaeth Duw hynny.  Trwy’r un a dlodwyd ac a ddirmygwyd – trwy ddyn yr asyn a’r groes – y rhyddhaodd Duw ei bobl o gaethiwed pechod a’u gosod ar lwybr rhyddid a bywyd.  Yng nghynllun tragwyddol a pherffaith Duw, Crist yw’r Mab a roddwyd i’n rhyddhau ni trwy iddo ef ei hun fynd yn sownd yn ein lle.  Dyna’n union  a wnaeth wrth gymryd ein beiau arno’i hun a dioddef ein cosb.  Yr un a roed yn Waredwr cyn creu’r byd a chyn bod angen am waredigaeth yw Iesu Grist.   Ac ar Sul y Blodau, diolchwn fod yr un a roed erioed – yr Ever Given – wedi dod i’n tynnu o gaethiwed i’r rhyddid a’r bywyd sydd i ni trwyddo.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Sul y Blodau, 28 Mawrth, 2021.

Yn hwyr y dydd

Wel, dyna beth oedd siom.  A dyna beth oedd munud a hanner hir iawn, o’r eiliad y trodd y cloc yn goch i ddynodi bod pedwar ugain munud y gêm ar ben i’r eiliad y sgoriodd Ffrainc y cais a gipiodd y fuddugoliaeth a’r Gamp Lawn o ddwylo’r Cymry. Mae’n rhaid cydymdeimlo â’r chwaraewyr a ddaeth mor agos at gyflawni camp na fyddai neb ond hwy eu hunain o bosibl wedi credu a fyddai’n bosibilrwydd o gwbl ar ddechrau Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad ychydig wythnosau’n ôl.  Mae colli unrhyw gêm yn yr eiliadau olaf yn boenus, a’r golled yn eiliadau olaf y Bencampwriaeth neithiwr ganwaith gwaeth. 

Bydd llawer ohonoch yn dal i deimlo’r siom heddiw.  Erbyn hyn, bydd ambell un ohonoch wedi cael golwg eto ar rai o ddigwyddiadau a phenderfyniadau allweddol y gêm ac yn sylweddoli y gallasai pethau’n rhwydd iawn fod yn wahanol. Wedi gwylio pum gêm Cymru, a mwynhau cyffro ac antur yr ymdrech lew ac annisgwyl i sicrhau Camp Lawn arall, mae’n debyg eich bod er y siom yn eithriadol falch o’r tîm. Bu’n dymor llwyddiannus, ac y mae i bob cefnogwr gysur mawr yn hynny.

Ond dychmygwch y llawenydd pe byddai Cymru wedi ennill.  Mi fyddwn i’n sicr wedi dathlu, ond mi fyddwn wedi teimlo hefyd na fyddai gennyf hawl i wneud hynny.  Fel Cymro, mi wnaf ddathlu llwyddiant pob Cymro a Chymraes ym myd chwaraeon. Fedraf fi ddim hyd yn oed gofio enw’r Cymro a enillodd Bencampwriaeth Ddartiau’r Byd, ond mi wnes i ddathlu efo fo er na welais eiliad o’r twrnamaint cyn y rownd derfynol.  Ac mae’n rhaid i mi gyfaddef mai stori debyg fu hi dros y chwe wythnos ddiwethaf. Munudau yn unig a welais o’r holl gystadleuaeth am wahanol resymau, a dim ond yr ail hanner welais i neithiwr. 

Ond roeddwn yn barod i ddathlu er y byddai gan y rhai ohonoch na chollodd yr un eiliad sail ddigonol dros ddweud na fyddai gennyf hawl i wneud hynny mewn gwirionedd. Siarad felly wnâi’r gweithwyr yn un o ddamhegion Iesu a gwynai bod y gweithwyr a ddaeth i’r winllan ar yr awr olaf yn cael yr un cyflog â hwy a fu’n gweithio ers y bore (Math. 20:1-16).  Neges Iesu yn y ddameg yw bod bendithion teyrnas Dduw i bawb sy’n credu ynddo, pryd bynnag y gwnân nhw hynny.  Mae’r bywyd tragwyddol yn rhodd Duw i rywun sy’n dod i gredu ar yr unfed awr â’r ddeg, lawn cymaint ag i’r sawl a fu’n Gristion am ran helaethaf ei oes.  Nid yw’r Cristion yn gwarafun gras a chariad Duw i neb, ond yn llawenhau o weld pobl yn troi at Grist, pryd bynnag y gwnânt hynny. Yn y nefoedd, fydd yna ddim edliw i neb eu bod wedi oedi cyn credu’r Efengyl a derbyn Iesu Grist yn Waredwr. Ac yn y nefoedd, fydd yna ddim siom na thristwch: dim ond llawenydd a diolch am y gras a roddodd i ni er ein beiau ddrws agored i bresenoldeb Duw.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 21 Mawrth, 2021.

Galwad cynnar

Bore Sadwrn arall, a dau alwad cynnar. Roedd y naill, ar y radio gan Gerallt Pennant, yn ddigon derbyniol ond nid felly’r llall dros y ffôn gan lais dieithr yn honni ei fod yn ffonio ar ran Cyllid Y Wlad i’m rhybuddio fy mod ar fin cael fy arestio am dwyll treth oni bai fy mod yn ‘pwyso botwm 1’ ar y ffôn i drafod y mater.  Mi ddylwn fod wedi awgrymu iddo y byddai gwrando ar Mr Pennant a’i gyfeillion yn well defnydd o’i amser nag aflonyddu ar greaduriaid diniwed ben bore. Ond wnes i ddim ond pwyso’r botwm coch i derfynu’r alwad.

Dim ond un o nifer o alwadau tebyg oedd hwn: galwadau maleisus sy’n ceisio twyllo pobl i ddatgelu manylion cyfrifon banc yw llawer o’r rhain, a thristwch pethau yw bod llawer yn cael eu rhwydo gan y twyllwyr milain hyn. Mor werthfawr yw cofio na ddylem ddatgelu manylion am gyfrifon a chardiau banc i neb sy’n ein ffonio’n annisgwyl. Ac mor bwysig yw gwybod pwy y medrwn ymddiried ynddynt.

I lawer o bobl mae galwad yr Eglwys mor ddieithr â’r alwad ffôn honno. Yn aml iawn, un alwad ymhlith nifer yw hi.  Un llais ymhlith myrdd o leisiau eraill yw ein llais ni fel eglwys leol. Tybed  sawl un ohonoch a gafodd yr wythnos ddiwethaf amlen trwy’r post wedi ei chyfeirio ‘To my neighbour’ ac ynddi bamffledyn oddi wrth y Tystion Jehofa? Beth a phwy ddylai pobl, a  ninnau gyda hwy, ei gredu?

Wrth bwyso a mesur yr hyn a glywn ac a ddarllenwn am grefydd, ystyriwn i ddechrau a oes eraill yn dweud yr un peth.  Mae ambell un yn pedlera syniad neu gred nad oes fawr o neb arall yn eu harddel. Ystyriwn wedyn a yw’r hyn a gyhoeddir yn gyson â’r hyn y mae’r Eglwys Gristnogol wedi ei gredu ar hyd y canrifoedd. Os nad ydyw, mae’n rhaid wrth ofal mawr.

Ond y mae ystyriaeth bwysicach eto. A yw’r neges a rennir yn gyson â’r hyn a ddatguddir yn Y Beibl?  A yw’r hyn a ddywed pobl am Dduw’n cyd-fynd â’r hyn a ddywed y Beibl amdano? Dyna’r maen prawf terfynol. Os nad yw’r hyn a ddysgir am Iesu Grist a’r Ffydd yn gyson â’r hyn a welwn ar dudalennau’r Beibl, gallwn gymryd yn ganiataol na ddylid ymddiried ynddo.

Mae’r un peth yn wir wrth reswm am ein neges ninnau. ‘Nid ein pregethu ein hunain ydym’ meddai Paul wrth yr  eglwys yng Nghorinth, ‘ond Iesu Grist yn Arglwydd’  (2 Cor. 4:5). Nid ein barn na’n syniadau ein hunain yr ydym i’w cyhoeddi, ond y gwirioneddau a ddatguddiwyd yng Ngair Duw. Ac felly mae ar bob pregethwr, ond hefyd ar bob un o dystion Crist, gyfrifoldeb i sicrhau hyd eithaf ei allu fod yr hyn a ddywed wrth eraill yn enw’r Ffydd yn gwbl gyson â’r Gair hwnnw. Dim ond felly y byddwn yn bobl y gall eraill ymddiried ynom i gyflwyno iddynt yn ffyddlon a dibynadwy’r gwir am Dduw ac am y ffordd ato trwy ei annwyl Fab Iesu Grist.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 14 Mawrth, 2021.

Cennad cywir

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Cenn@d y dydd o’r blaen. Gwyddwn ers diwedd y flwyddyn y byddai’r wythnosolyn hwn yn cymryd lle papurau’r Presbyteriaid a’r Bedyddwyr, Y Goleuad a Seren Cymru ddechrau Mawrth. Cyhoeddiad digidol ydyw ac ar y we y bydd y mwyafrif yn ei dderbyn er bod modd ei gael ar bapur hefyd. Wyddwn i ddim y byddai dau ‘bapur’ arall wedi gweld golau ddydd yng Nghymru ddyddiau’n unig cyn i Cenn@d i ddod i fodolaeth ac y byddai un ohonynt, o’i gyfieithu, o’r un enw.  Herald.Wales yw hwnnw, un o ddau wasanaeth newyddion ar-lein  a ddaeth i fodolaeth ers ychydig dros wythnos.  The National  yw’r llall.

Tair menter newydd, ond bod Cenn@d yn olynu dau bapur a gyhoeddwyd gyntaf yn 1869 a 1851.  Gwyddom beth i’w ddisgwyl oddi wrtho: deunydd sy’n hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol ac yn calonogi ei ddarllenwyr. Nid yw’r ddau gyhoeddiad arall yn gwbl newydd gan mai cwmnïau sydd berchen ar bapurau rhanbarthol mewn gwahanol rannau  o Gymru sy’n eu cyhoeddi, ac mae’r wythnos gyntaf yn dangos fod y naill a’r llall yn cynnwys erthyglau o’u papurau rhanbarthol. Mae’r ddau’n camu i’r maes y bu Nation.Cymru yn arloesi ynddo ers 2017, sef darparu newyddion cenedlaethol yng Nghymru yn Saesneg, a hwnnw’n ‘wasanaeth newyddion gan bobl Cymru i bobl Cymru’. Bu’n gwneud hynny’n llwyddiannus, ac amser a ddengys  a fydd y ddau wasanaeth newydd yn llwyddo i fod yn ‘Guriad Calon y Genedl’ yn achos y naill ac ‘Ar gyfer Cymru Gyfan’ yn achos y llall, sef y geiriau a welir dan eu teitlau. Tasg y golygyddion fydd cyflawni’r amcanion hyn a chaiff eu darllenwyr weld maes o law a fyddant yn llwyddo.

Meddai’r Apsotol Paul amdano’i hun ac eraill: ‘Nid pedlera gair Duw yr ydym ni fel y gwna cynifer, ond llefaru fel dynion didwyll, fel cenhadon Duw, a hynny yng ngŵydd Duw, yng Nghrist … Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw’ (2 Corinthiaid 2:17 a 5:20). Nid Paul mohonom ni, ac eto mae pob Cristion mewn rhyw ystyr yn gennad dros Grist, yn negesydd ar ei ran ac yn gynrychiolydd iddo.  Gall y gair ‘cennad’ hefyd olygu’r neges ei hun, ac ar un wedd mae’r Cristion, trwy dystiolaeth ei fywyd, yn neges Duw i’r byd am gariad a thrugaredd a gallu Duw i’n gwneud yn greaduriaid newydd trwy ffydd yn Iesu Grist. 

Mor bwysig yw cofio bod pobl yn ein darllen nid yn unig trwy gymryd sylw o’r hyn a ddywedwn wrth gyhoeddi’r newydd da am Iesu Grist ond hefyd trwy ein hymddygiad o ddydd i ddydd.  Boed i Dduw pob gras ein galluogi i fod yn genhadon sy’n tystio’n ffyddlon i gariad Duw yng Nghrist.  Boed iddo hefyd ein gwneud yn genhadon cywir wrth i’n bywydau o gariad a thosturi ddweud cyfrolau am waith achubol Duw o’n mewn.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 07 Mawrth, 2021.

Oedfa Ffôn yr Ofalaeth

Byddwn yn cychwyn Oedfa Ffôn ar gyfer yr Ofalaeth fore Sul nesaf, Mawrth 7.

Oedfa fer o ryw 20 munud fydd hon. Mae’n ddigon rhwydd i chi fod ynrhan o’r oedfa.

Dyma sut i ymuno.

Ffoniwch 0333 0164 757

Yna pan ofynnir am y ‘Conference Room Number’ deialwch 54265432 a phwyso’r botwm # ar ei ôl

Yna pan ofynnir am y ‘PIN’ deialwch 1210 a phwyso’r botwm # ar ei ôl

Cofiwch bwyso # ar ôl y ddau rif.

Ffoniwch erbyn 10.00 o’r gloch