Wel, dyna beth oedd siom. A dyna beth oedd munud a hanner hir iawn, o’r eiliad y trodd y cloc yn goch i ddynodi bod pedwar ugain munud y gêm ar ben i’r eiliad y sgoriodd Ffrainc y cais a gipiodd y fuddugoliaeth a’r Gamp Lawn o ddwylo’r Cymry. Mae’n rhaid cydymdeimlo â’r chwaraewyr a ddaeth mor agos at gyflawni camp na fyddai neb ond hwy eu hunain o bosibl wedi credu a fyddai’n bosibilrwydd o gwbl ar ddechrau Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad ychydig wythnosau’n ôl. Mae colli unrhyw gêm yn yr eiliadau olaf yn boenus, a’r golled yn eiliadau olaf y Bencampwriaeth neithiwr ganwaith gwaeth.
Bydd llawer ohonoch yn dal i deimlo’r siom heddiw. Erbyn hyn, bydd ambell un ohonoch wedi cael golwg eto ar rai o ddigwyddiadau a phenderfyniadau allweddol y gêm ac yn sylweddoli y gallasai pethau’n rhwydd iawn fod yn wahanol. Wedi gwylio pum gêm Cymru, a mwynhau cyffro ac antur yr ymdrech lew ac annisgwyl i sicrhau Camp Lawn arall, mae’n debyg eich bod er y siom yn eithriadol falch o’r tîm. Bu’n dymor llwyddiannus, ac y mae i bob cefnogwr gysur mawr yn hynny.
Ond dychmygwch y llawenydd pe byddai Cymru wedi ennill. Mi fyddwn i’n sicr wedi dathlu, ond mi fyddwn wedi teimlo hefyd na fyddai gennyf hawl i wneud hynny. Fel Cymro, mi wnaf ddathlu llwyddiant pob Cymro a Chymraes ym myd chwaraeon. Fedraf fi ddim hyd yn oed gofio enw’r Cymro a enillodd Bencampwriaeth Ddartiau’r Byd, ond mi wnes i ddathlu efo fo er na welais eiliad o’r twrnamaint cyn y rownd derfynol. Ac mae’n rhaid i mi gyfaddef mai stori debyg fu hi dros y chwe wythnos ddiwethaf. Munudau yn unig a welais o’r holl gystadleuaeth am wahanol resymau, a dim ond yr ail hanner welais i neithiwr.
Ond roeddwn yn barod i ddathlu er y byddai gan y rhai ohonoch na chollodd yr un eiliad sail ddigonol dros ddweud na fyddai gennyf hawl i wneud hynny mewn gwirionedd. Siarad felly wnâi’r gweithwyr yn un o ddamhegion Iesu a gwynai bod y gweithwyr a ddaeth i’r winllan ar yr awr olaf yn cael yr un cyflog â hwy a fu’n gweithio ers y bore (Math. 20:1-16). Neges Iesu yn y ddameg yw bod bendithion teyrnas Dduw i bawb sy’n credu ynddo, pryd bynnag y gwnân nhw hynny. Mae’r bywyd tragwyddol yn rhodd Duw i rywun sy’n dod i gredu ar yr unfed awr â’r ddeg, lawn cymaint ag i’r sawl a fu’n Gristion am ran helaethaf ei oes. Nid yw’r Cristion yn gwarafun gras a chariad Duw i neb, ond yn llawenhau o weld pobl yn troi at Grist, pryd bynnag y gwnânt hynny. Yn y nefoedd, fydd yna ddim edliw i neb eu bod wedi oedi cyn credu’r Efengyl a derbyn Iesu Grist yn Waredwr. Ac yn y nefoedd, fydd yna ddim siom na thristwch: dim ond llawenydd a diolch am y gras a roddodd i ni er ein beiau ddrws agored i bresenoldeb Duw.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 21 Mawrth, 2021.