Llyn

Echnos, wrth gloi’r car y tu allan i’r tŷ mi glywais hogyn ifanc yn dweud wrth ei ffrind fod ei gi wedi ‘neidio i’r môr’.  Doeddwn i ddim yn gwrando’n fusneslyd ar y ddau.  Fedrwn i ddim peidio â chlywed a hwythau o fewn tair llath i mi’r ochr arall i’r ffens. 

Brynhawn ddoe, mi glywais hogyn iau o lawer yn dweud ei fod wedi gwlychu ei ddillad wrth chwarae ‘yn y pwll chwiaid’

Byddai’n dda i’r naill a’r llall wrth wers ddaearyddiaeth go lew.  Sôn am Lyn Padarn oeddent ill dau. Nid yw hwnnw mor eang nac mor ddwfn â’r môr wrth reswm,  ond y mae’n sicr yn fwy o lawer na’r un pwll chwiaid. Yr un peth a welsai’r ddau.  At yr un dŵr y cyfeiriai’r ddau.  Ond roeddent yn dweud rhywbeth gwahanol iawn i’w gilydd amdano. 

Mor rhwydd y daw pobl at yr Efengyl, a gweld pethau gwahanol i’w gilydd.  I rai, mae’r Efengyl fel pwll chwiaid bas, nad oes unrhyw beth arbennig y gellir ei ddweud amdani.  Mae’r sôn am ddyn da yn gwneud a dysgu pethau da’n werthfawr, ond nid Iesu ydi’r unig un a fedr ein dysgu i fod yn garedig a gonest a maddeugar ac ati.  I rai, nid oes ynddi fwy na moesoldeb a ffordd o fyw y mae pobl o grefyddau eraill a phobl nad ydynt yn arddel yr un grefydd yn ymgyrraedd atynt.

I eraill, mae’r Efengyl fel y môr. Mae hi mor eang ac yn cynnwys cymaint o egwyddorion  fel nad oes modd dweud beth yn union yw hi. Cyfiawnder, heddwch, cymod, cariad, gwarchod y Cread, hawliau dynol, goddefgarwch, maddeuant, bwydo’r newynog, lloches i’r digartref a’r alltud, brwydro yn erbyn hiliaeth, gwarchod hawliau: mae’r cyfan mor bwysig, a phwy a feiddia awgrymu beth sy’n haeddu’r sylw mwyaf ar unrhyw adeg?

Ond o feddwl am y ‘pwll chwiaid’ a’r ‘môr’, gallwn ninnau ddweud mai ‘llyn’ ydi’r Efengyl. Nid neges dila a diddim yw hi, ond nid yw chwaith mor eang fel na ellir dweud yn union beth ydyw. Y mae modd ei diffinio, ac mae modd ei chrynhoi.  ’Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid’  (1 Timotheus 1:15).  ‘Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei Unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol’ (Ioan 3:16).  Yn syml, dyna’r Efengyl: dyma neges gwbl syfrdanol am Dduw yn mynd i’r eithaf er mwyn ennill pobl i Deyrnas Dduw.

Gellir dadlau fod llawer o’r delfrydau a’r egwyddorion a grybwyllwyd uchod yn tarddu o’r Efengyl ac yn bethau y mae pobl sy’n ei chredu yn amcanu i’w gwneud.  Ond nid y pethau hynny yw’r Efengyl.  Y newyddion da am Iesu Grist a’r hyn a wnaeth drosom yw’r Efengyl.  Ac yn hynny o beth, mi allwn ddweud fod yr Efengyl yn fwy cyfyng nag y byddai llawer yn tybio yw hi. 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Ebrill, 2021.

Yr un gobaith

Anodd os nad amhosibl fyddai i neb yng ngwledydd Prydain fod heb wybod am angladd a gynhaliwyd yn Windsor brynhawn ddoe. Ers ei farwolaeth wythnos i ddydd Gwener bu’r wasg a’r cyfryngau’n llawn o deyrngedau i Ddug Caeredin, ac wedi wythnos gyfan o sylw i drefniadau’r angladd bydd lluniau ac adroddiadau ohono’n sicr yn llenwi’r papurau newydd heddiw ac  yfory.

Ynghyd â’r holl deyrngedau a dalwyd dros y dyddiau diwethaf gan deulu a chydnabod, a dieithriaid na fu iddynt erioed dorri mwy na dau neu dri gair â’r ymadawedig, cafwyd mwy na digon o sylw i helyntion a chydberthynas rhai o aelodau’r teulu brenhinol â’i gilydd. Ond wedi’r angladd, rwy’n dyfalu mai un o’r delweddau a welir ar dudalennau blaen y papurau dros y dyddiau nesaf fydd llun y Frenhines yn eistedd ar ei phen ei hun yn yr angladd er mwyn  sicrhau ei bod hi a phawb arall yn cadw’r pellter angenrheidiol yn unol â’r cyfyngiadau oherwydd Covid-19.

Ac nid oes wadu y bydd yn ddelwedd gref: gwraig sydd ar drothwy ei phen blwydd yn 95 oed yn eistedd ar ei phen ei hun yn angladd ei gŵr wedi 73 mlynedd o briodas. Gallwn ddisgwyl i’r ddelwedd honno gael ei defnyddio’n helaeth dros y misoedd nesaf. Ond beth bynnag a wneir o’r ddelwedd, yr un peth diymwad y mae’n ei ddangos yw bod marwolaeth yn realiti creulon nad oes modd i neb ei osgoi. 

Breintiwyd y Frenhines a’i gŵr â sawl peth a’u gwnaeth yn gwbl wahanol i’r rhelyw ohonom o ran cyfoeth a statws. Breintiwyd hwy hefyd â hir oes ac iechyd da ymhell i’w nawdegau. Nid yw’r fraint honno wedi ei chyfyngu i gyfoethogion wrth gwrs, a diolchwn gyda phawb a freintiwyd mewn ffordd debyg. Ond beth bynnag y breintiau, meidrol ydym, ac ni all yr un ohonom osgoi brath marwolaeth a’i grafangau.

Ond y mae i fonedd a gwreng obaith trwy Grist, a goncrodd angau trwy ei farwolaeth ar Galfaria a’i atgyfodiad. Yn ôl pob tystiolaeth, mae’r Frenhines yn brofiadol o’r gobaith hwnnw trwy ei ffydd bersonol yn yr Arglwydd Iesu. Yn ei galar ac yn wyneb angau, ni all brenhines hyd yn oed ond ymddiried yn addewid Duw am y nefoedd a’r bywyd tragwyddol sydd yn ein haros trwy Iesu Grist.

Y mae’n ddrwg gen i am golled y Frenhines. Rwy’n cydymdeimlo â hi, fel yr wyf yn cydymdeimlo, gobeithio, ag eraill a gollodd anwyliaid.  Fedraf fi ddim rhannu ei phoen a’i galar gan na welais i mo’i gŵr erioed. Ond os gwir a ddeallaf am ffydd y Frenhines yn Iesu Grist, y mae hi a minnau a phawb sy’n credu yn y Gwaredwr yn un â’n gilydd trwyddo Ef.  Ei chysur mawr hi heddiw yw nad ydyw ar ei phen ei hun o gwbl gan ei bod yn rhannu gobaith yr Efengyl â llu o bobl o bob gwlad ac oes. Mae marwolaeth yn elyn i bawb, ond y mae’r fuddugoliaeth sicr drosto hefyd i bawb sy’n credu yn Iesu Grist.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 18 Ebrill, 2021.

Torcalonnus

Tristwch o’r mwyaf fu gweld dros y dyddiau diwethaf derfysg ar strydoedd Derry a Belfast a threfi eraill yng Ngogledd Iwerddon.  Dair blynedd ar hugain i ddoe yr arwyddwyd Cytundeb Gwener y Groglith.  Mae manylion y Cytundeb yn ddieithr i’r mwyafrif o bobl, ond y mae’n amlwg er hynny mai dyma sail yr heddwch a’r cymod a’r cydweithio a gafwyd yng Ngogledd Iwerddon ers arwyddo’r Cytundeb ar Ebrill 10, 1998.

Wedi dweud hyn, mae pethau ymhell o fod yn berffaith yno. Un prawf amlwg o hynny dros y blynyddoedd fu’r ’wal heddwch’ sy’n gwahanu’r gymuned weriniaethol yn un rhan o Belfast oddi wrth y gymuned unoliaethol. Wedi blynyddoedd o ryfela a lladd, y peth olaf y bu neb call am ei wneud ers 1998 yw unrhyw beth a fyddai’n peryglu’r heddwch a sicrhawyd.

Mae’n debygol nad un rheswm yn unig sydd dros y terfysg presennol.  Ond un rheswm – ac yn dorcalonnus, o bosibl y prif reswm – yw Brexit a’i  oblygiadau.  O fewn y gymuned unoliaethol mae llawer yn ofni’r ffaith fod Brexit wedi gwanhau perthynas Gogledd  Iwerddon â gweddill y Deyrnas Unedig, a’r ofn hwnnw sydd yn rhannol beth bynnag wedi esgor ar drais y dyddiau diwethaf.

Y gwir dristwch yn hyn i gyd yw bod mwy na digon o bobl, o sawl perswâd gwleidyddol, wedi rhybuddio y gallai Brexit niweidio Cytundeb Gwener y Groglith ac ansefydlogi’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon ond bod Boris Johnson a’i Lywodraeth wedi dewis anwybyddu’r cyfan er mwyn sicrhau’r ddelfryd o ‘ryddhau Prydain’.  Drwy holl saga Brexit, anodd fu peidio â meddwl nad yw’r bobl hyn yn malio dim beth a ddigwydd yn Iwerddon.  Mae’n annhebygol iawn y gwelwn yr un ohonynt yn ddigon dewr i ystyried y posibilrwydd y gall fod a wnelo Brexit unrhyw beth â’r hyn a welwyd y nosweithiau diwethaf hyn.

Am flynyddoedd, bu heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn destun gweddi gan Gristnogion yng Nghymru ac ar draws y byd.  Mae’r hyn a welwyd ers deng niwrnod a mwy yn ysgogiad i ni weddïo o’r newydd na fydd pethau’n gwaethygu ond yr adferir heddwch a threfn yno ar unwaith.  Gweddïwn y bydd gwleidyddion ac arweinwyr o fewn y gwahanol gymunedau’n gwneud pob ymdrech i sicrhau cymod a heddwch.  Gweddïwn y daw diwedd i’r terfysg cyn bod rhagor yn cael eu hanafu a chyn i neb gael ei ladd.

Cyn gadael y Pasg, cofiwn gytundeb arall, gwell a mwy, sy’n gysylltiedig â’r Groglith: cytundeb a sicrhaodd, trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist, heddwch rhwng Duw a phawb sy’n credu yn y Crist hwnnw. Dyma gytundeb sicr na fydd yn methu byth am mai cytundeb a wnaed o un ochr ydyw.  Duw a’i sicrhaodd.  Nid oedd a wnelom ni a’i sefydlu ac ni allwn ei ddileu, ond gallwn trwy ras elwa arno wrth gael ein cymodi â’r Duw Byw.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Ebrill, 2021.

Y stori fwyaf

A’r cwpan yn deilchion ar lawr y gegin y ddau beth yr estynnais atynt oedd brwsh a phapur newydd. Ond doedd dim papur newydd i’w gael i lapio’r darnau’n ddiogel ynddo am na phrynais un ers misoedd. Flwyddyn neu ddwy yn ôl, fyddwn i ddim wedi dychmygu bod heb bapur newydd dyddiol, ond erbyn hyn ar y radio a’r we y caf bron y cyfan o’r newyddion.

Rhaid cyfaddef bod y naill gyfrwng a’r llall yn medru bod yn ailadroddus. Nid rhyfedd hynny o gofio eu bod i bob pwrpas yn darparu newyddion bedair awr ar hugain y dydd. Cryfder y ddau gyfrwng yw’r ffordd y maent yn cyflwyno ambell i ‘stori fawr’ sy’n datblygu’n gyflym. Caiff rhai straeon sylw am ddyddiau lawer, a ninnau’n cael gwybod beth sy’n digwydd o awr i awr.

Pe byddai’r fath wasanaeth i’w gael yn y dyddiau yr oedd Crist ar y ddaear, tybed pa sylw y byddai ei groeshoeliad a’i atgyfodiad wedi ei gael, os o gwbl? A fyddai’r digwyddiadau hyn wedi dod i sylw’r gwasanaeth newyddion lleol yn Jerwsalem hyd yn oed, heb sôn am fod yn newyddion cenedlaethol a rhyngwladol? A fyddai marwolaeth y dyn ifanc o Nasareth wedi ennyn sylw o gwbl? A fyddai’r cyfryngau wedi tynnu sylw at yr anghyfiawnder a wnaed ag ef?  A fyddai penderfyniad Pilat i olchi ei ddwylo o’i achos wedi bod o ddiddordeb i unrhyw un?  A phe byddai sôn am y peth, dychmygaf y byddai cyfeillion Iesu yn mynnu gwneud unrhyw sylw yn anhysbys ac yn ddienw. Ac a fyddai Sul y Pasg a bedd gwag yn ddigon o stori?  Pe byddai, gallaf ddychmygu’r arweinwyr crefyddol yn heidio i’r stiwdio i fynnu mai twyll a chelwydd ar ran dilynwyr Iesu oedd y cyfan.   

Pwy fyddai wedi medru dychmygu na fyddai stori fwy na hon yn unman y Pasg hwnnw nac unrhyw ddydd arall cynt na wedyn? Heb help na phapur na radio na theledu na rhyngrwyd na’r cyfryngau cymdeithasol, buan yr aeth y newydd am groes a bedd gwag Iesu Grist i bob cwr o’r byd. Ac am ugain canrif wedi hynny, arhosodd yn brif stori newyddion i’r holl fyd. Pa newid bynnag a wêl y byd eto, bydd y groes a’r bedd gwag yn dal yn newydd da ac yn dal i gael eu cyhoeddi. 

Mae pobl yn barod i ddilorni’r Ffydd a phawb sy’n ei harddel. Y mae ein traddodiad crefyddol, ein diwylliant anghydffurfiol a’n bywyd eglwysig hyd yn oed dan warchae. Wyddom ni ddim beth ddaw ohonynt. Ond yr un peth a wyddom yw na fydd y newydd da am Iesu Grist yn diflannu. Ni fydd Duw yn ei adael ei hun heb dyst i’w gariad a’i ras yn yr Efengyl.  Yn naturiol, mynd a dod mae straeon y dydd, a buan iawn yr anghofiwn am ddigwyddiadau a gafodd sylw mawr am gyfnod byr. Ond ni dderfydd y sôn am Iesu.  Bydd ei groes a’i fedd gwag yn parhau yn newyddion syfrdanol nid yn unig tra pery byd ond i dragwyddoldeb.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Sul y Pasg, 04 Ebrill, 2021.