Mis: Mai 2021
Geir fy enw i lawr?
Gobeithio nad yw’r baneri ddim gwaeth. Mae bron yn amser i’w gosod i gyhwfan yn yr ardd ffrynt unwaith eto ar gyfer pencampwriaeth yr Ewros. Heno, bydd cyhoeddiad o bwys i’r chwaraewyr pan fydd Robert Page yn enwi’r 26 chwaraewr a fydd yng ngharfan Cymru. Gan fod yna 34 dan ystyriaeth daw’r cyhoeddiad â siom i wyth ohonynt, a mentraf awgrymu mai’r rheiny fydd Tom Lockyer, Rabbi Matondo, Dylan Levitt, Brennan Johnson, Tom King, George Thomas, Mark Harris a Rubin Colwill. Byddai peidio â chael lle yn y garfan yn siom neilltuol i’r dau neu dri cyntaf ond yn llai felly o bosibl i’r gweddill sydd ar ymylon y garfan pa un bynnag.
Dychmygaf y bydd yn anodd iawn i’r rhai a gaiff eu siomi os na fyddant wedi cael gwybod ymlaen llaw nad oes lle iddynt yn y garfan. Gobeithio nad yng nghynhadledd y wasg heno y cânt y newyddion drwg nad yw eu henwau ar y rhestr a gyflwynir i UEFA erbyn dechrau’r gystadleuaeth a gêm gyntaf Cymru, yn erbyn Y Swistir am 5.00 o’r gloch bnawn Sadwrn, Mehefin 12.
Ers wythnosau bu’r 34 chwaraewr hyn (ac ambell un arall na ddewiswyd ar gyfer y garfan estynedig hyd yn oed, yn arbennig Hal Robson-Kanu a Sam Vokes} yn gwneud eu gorau i brofi eu bod yn deilwng o gael eu dewis i’r garfan a’r tîm. Mae rhai’n sicr o’u lle, ond chwysu fu eraill heb wybod a fyddan nhw wedi gwneud digon.
Mor wahanol yw teyrnas nefoedd a’i ‘henwau yn llyfr y bywyd’ (Philipiaid 4:3). Ni raid wrth ansicrwydd. Nid oes angen pryderu a welir ein henwau yn llyfr y bywyd. Ac nid mater o brofi teilyngdod fydd hi. Yn ôl un proffwyd, ‘Ysgrifennwyd ger ei fron gofrestr o’r rhai a oedd yn ofni’r Arglwydd ac yn meddwl am ei enw’ (Malachi 3:16). Ofni Duw yw’r gyfrinach. Meddir wrth eglwys Sardis, ‘Cofia, felly, beth a dderbyniaist ac a glywaist; cadw at hynny ac edifarha … Y sawl sy’n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd’ (Datguddiad 3:3 a 5).
Pwy heddiw tybed a ŵyr am ddyhead y gân?
‘Geir fy enw i lawr
yn y dwyfol lyfr mawr?
O! mi garwn gael gwybod
fod fy enw i lawr.’
Na, nid oes raid wrth chwysu tan y funud olaf i gael gwybod. Ofni Duw ac edifarhau a chredu’r Efengyl a ddaw â’r sicrwydd fod ein henwau ninnau trwy drugaredd yn gwbl ddiogel yn y llyfr.
‘Arglwydd mae fy mhechodau
fel môr-dywod di ri,
ond dy waed, O! fy Ngheidwad,
sydd ddigonol i mi;
dy addewid ’sgrifennwyd
mewn llythrennau fel tân,
“Eich pechodau fel ’sgarlad,
Wnaf fel eira yn lân”.’
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Mai, 2021.
Ysbryd gwylaidd
‘Hen bryd hefyd!’ Geiriau agoriadol araith y diweddar Spike Milligan wrth iddo dderbyn gwobr am ‘gyfraniad oes’ ifyd comedi rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth yn 2002. Fe’m hatgoffwyd o’r geiriau hynny wedi i Eric Cantona gael ei ethol i Oriel Anfarwolion Uwch-gynghrair Bêl Droed Lloegr y dydd o’r blaen. Ymateb y Ffrancwr oedd, ‘Dwi ddim yn synnu!
Roedd y gynulleidfa’n glana chwerthin wrth i Spike Milligan yn llawn hiwmor gydnabod y wobr. Doedd o ddim am ddiolch i neb, meddai, gan iddo wneud y cyfan ei hun! Gwenu wnes innau o glywed geiriau nid annisgwyl Cantona. Gan mai diddanwyr oedd y ddau yn eu gwahanol feysydd wn i ddim pa mor ddifrifol oedden nhw wrth ddweud y pethau hyn. O bosib eu bod ill dau’n wylaidd iawn y tu ôl i’r hiwmor a’r wyneb cyhoeddus. O bosib nad hefyd!
Person gwylaidd a gaiff y sylw heddiw ar Ŵyl y Pentecost: person na fyddai am un eiliad yn ystyried tynnu sylw ato’i hun na’i ddyrchafu ei hun mewn unrhyw ffordd. Roedd Iesu Grist wedi gwneud hynny’n eglur wrth iddo ddweud am yr Ysbryd Glân, ‘Bydd ef yn fy ngogoneddu i, oherwydd bydd yn cymryd o’r hyn sy’n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi’ (Ioan 16:14).
Gwyddom am ostyngeiddrwydd Iesu Grist Fab Duw, a ddaeth i’r byd nid i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu. Mae gostyngeiddrwydd yn nodwedd amlwg o’r Ysbryd Glân hefyd. Duw yw yntau, ond nid yw trydydd person y Drindod yn dymuno i neb ei addoli na’i ddyrchafu ef. Dymuniad sicr yr Ysbryd yw bod yr Arglwydd Iesu Grist yn cael ei anrhydeddu a’i ganmol. Gogoneddu Iesu Grist oedd ei nod pan dywalltwyd yr Ysbryd ar Ddydd y Pentecost, a dyna ei nod o hyd. Gwna hynny, medd Crist, trwy ‘gymryd o’r hyn sy’n eiddo’ i Grist a’i fynegi i ni.
Cymwynas fawr yr Ysbryd Glân yw ei fod yn tynnu sylw at bopeth ynglŷn â Iesu Grist. Popeth am ei berson: pwy a sut un ydyw; popeth a ddysgodd ac a ddangosodd amdano’i hun ac am Dduw’r Tad; popeth a wnaeth trwy ei fywyd a’i farwolaeth a’i atgyfodiad; daw’r Ysbryd â’r cyfan i’n sylw er mwyn i ni ryfeddu at Iesu a’i fawrygu.
Nid yw’r Ysbryd yn ei wthio’i hunan i’r blaen, ond y mae er hynny’n gwbl anhepgor yng ngwaith yr Eglwys. Arno y mae Eglwys Crist yn dibynnu am oleuni ac arweiniad a nerth. Ni allwn wneud dim dros deyrnas Dduw ac yng ngwasanaeth Crist ar wahân i’r Ysbryd Glân. Ceisiwn Ef, disgwyliwn wrtho ac ildiwn iddo, a’r cyfan nid er ei fwyn ei hun ond er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Hyd yn oed ar y Pentecost â’i holl gynnwrf, nid ar yr Ysbryd a dywalltwyd yr oedd y sylw ond ar yr Iesu a groeshoeliwyd.
Dychmygwn lawenydd yr Ysbryd o weld yr Arglwydd Iesu Grist yn cael ei fawrygu yn ein plith heddiw, yn yr Eglwys fyd-eang ac yn y byd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Sul y Pentecost, 23 Mai, 2021.
Wyneb yn wyneb
Nid y peth hawsaf yn y byd yw nabod neb dan fwgwd. Maddeuwch i mi os euthum heibio i chi’n ddiweddar heb ddeud dim. Un gwael ydw i ar y gorau am gofio wynebau: mae’n anos fyth â phawb yn gwisgo mwgwd. Ond nid fi yw’r unig un sy’n cael trafferth: rwyf wedi cyfarch mwy nag un wrth fynd am dro a hwythau heb fy nabod.
Chefais i mo’r drafferth honno wrth aros fy nhro yn y ddeintyddfa fore Gwener pan ddaeth ffrind o weinidog o’r stafell driniaeth. Mi wnaethon ni nabod ein gilydd er gwaetha’r mwgwd. Gan fod deintyddion, fel pawb sy’n trin cleifion, yn gorfod glanhau’n drylwyr rhwng apwyntiadau’r dyddiau hyn mi gawsom bum munud o sgwrs. A chan nad oeddwn wedi ei weld ers o leiaf bymtheg mis oherwydd Covid-19 yr oeddwn yn falch o’r pum munud hwnnw.
Manteisio ar gyfleodd prin i gael sgwrs â hwn a’r llall fu’r hanes ers mis Mawrth y llynedd. Prin fu’r cyfle i weld teulu, heb sôn am ffrindiau, a does ryfedd fod pobl yn edrych ymlaen at weld ei gilydd a chael cymdeithasu fel o’r blaen. Mae’n debyg y byddwn ni oll, am ryw hyd beth bynnag, yn gwerthfawrogi cwmni pobl eraill pan fydd modd i ni fod eto yng nghwmni ein gilydd.
Un gymdeithas na fu raid bod hebddi trwy gyfnod y Cloi fu’r gymdeithas â Duw. Ac nid bodloni ar bum munud annisgwyl yma ac acw fu raid chwaith. Onid oes llawer ohonom wedi profi’r gymdeithas honno’n un felys dros y misoedd diwethaf? Pan nad oedd modd i ni weld ein gilydd, pan nad oedd (a phan nad oes o hyd) gyfle i ni gyfarfod â’n gilydd wyneb yn wyneb mewn oedfa yn y capel, roedd modd troi at Dduw a siarad ag Ef trwy weddi. Roedd modd dweud ein cwyn wrtho a chydnabod ein hofnau; roedd modd ceisio ei help a’i faddeuant; roedd modd erfyn am gysur a gobaith yng nghanol yr argyfwng.
Os na wnaethom hynny dros y misoedd diwethaf mae’n dda cofio y medrwn geisio Duw heddiw. Trown ato, a cheisio ei wyneb. Gallwn fod yn hyderus y bydd yn ein hadnabod. Mae’r Arglwydd yn medru gweld heibio i bob mwgwd y mynnwn ei wisgo er mwyn rhoi’r argraff ein bod yn well nag ydym. Diolch nad oes raid i ni wisgo mwgwd crefyddolder na moesoldeb na dim o’r fath: mae Duw’n ein croesawu ato fel yr ydym. Fedrwn ni ddim gweld wyneb Duw, nid am ei fod yn ei guddio’i hun oddi wrthym ond am ei fod yn rhy lân a sanctaidd i ni allu edrych arno. Mae Duw wedi ei ddatguddio’i hun i ni: nid yw’n gwisgo mwgwd ond mae wedi ei ddangos ei hun yn eglur yn ei Fab Iesu Grist. Ac wrth i ni glosio ato trwy weddi a thrwy ei Air, daw’r hyn a ddatguddiodd am ei gariad a’i dosturi a’i faddeuant a’i ras yn fwy a mwy eglur i ni. Peidiwn â bodloni ar bum munud yma ac acw, nac ar ‘ddigwydd taro’ ar Dduw ond yn hytrach fynnu ei gwmni o hyd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 16 Mai, 2021.
Dod a mynd
Etholwyd ein Haelodau Senedd am y pum mlynedd nesaf ddydd Iau, a chaiff y Llywodraeth newydd ei ffurfio o fewn y dyddiau nesaf. Penderfynodd rhai o’r Aelodau Senedd beidio ag ail sefyll etholiad a chollodd ambell un ei sedd. Dychmygaf fod y trigain Aelod, yn cynnwys y rhai a ail etholwyd, ar ben eu digon wedi iddynt gael eu dyrchafu i wasanaethu yn y Senedd. Mae amryw ohonynt yn edrych ymlaen at ddyrchafiad pellach i swyddi yng Nghabinet y Llywodraeth newydd.
Caiff y penodiadau hynny eu gwneud yr wythnos hon mae’n debyg, a does ond gobeithio a gweddïo y bydd y Llywodraeth a’r Senedd newydd yn gwasanaethu er lles pobl Cymru yn effeithiol a theg a chyfiawn.
Dyrchafiad arall a gaiff sylw’r Eglwys ddydd Iau ar Ddydd y Dyrchafael sy’n dwyn i gof Esgyniad yr Arglwydd Iesu Grist i ogoniant y nefoedd. Ddeugain niwrnod wedi ei Atgyfodiad, gadawodd Iesu ei ddisgyblion. Ni fyddai mwyach yn ymddangos iddynt fel y gwnaethai sawl gwaith wedi’r Atgyfodiad. Yng ngŵydd y disgyblion, codwyd ef oddi ar y ddaear a’i gipio o’u golwg mewn cwmwl, yn arwydd sicr iddynt ei fod yn esgyn i’r nefoedd at Dduw. Dyna gadarnhad pellach fod ei ddioddefaint trosom ar Galfaria wedi bodloni Duw’n llawn.
Ni chaiff yr Esgyniad hanner cymaint o sylw ag a gaiff rhai o ddigwyddiadau eraill bywyd Iesu. O feddwl am yr holl sylw a roddwn i ddyfodiad Iesu Grist i’r byd trwy ei eni ym Methlehem, mae’n syfrdanol cyn lleied o sylw a roddir i’w ymadawiad ar Fynydd yr Olewydd, yng nghyffiniau Bethania. Mae’r ddau ddigwyddiad yn perthyn i’w gilydd: y naill yn dangos sut y daeth Iesu o’r nefoedd i’r ddaear pan wnaed y Gair yn gnawd, a’r llall yn dangos sut y dychwelodd i’r nefoedd yn y cnawd dynol hwnnw.
A bod yn deg, mae’n hawdd iawn gweld pam fod stori’r Geni yn fwy poblogaidd na stori’r Esgyniad. Mae’r Testament Newydd yn rhoi llawer mwy o sylw i’r hyn a ddigwyddodd ym Methlehem. Ond er pwysiced yr hyn a ddywedir am y beichiogi gwyrthiol a geni Iesu yn fab i Mair, ni ddylid anwybyddu’r Esgyniad. Nid yw ymadawiad Iesu’n fwy nac yn llai rhyfeddol na’i ddyfodiad: daeth Mab Duw o’r nef i’r ddaear, a gadawodd Mab Duw’r byd a dychwelyd i’r nef. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi sylw i’r Esgyniad: y mae’n rhaid wrtho gan nad yw’r Stori yn gyflawn hebddo. Daeth Iesu yn faban a thyfu yn blentyn ac yn ŵr ifanc. Cyflawnodd y gwaith a osodwyd ar ei gyfer gan Dduw ei Dad. Bu farw. Claddwyd ef a daeth yn ôl yn fyw. Ond beth ddigwyddodd wedyn? Yr Esgyniad sy’n dangos i ni ei fod wedi mynd yn ôl i’r nefoedd ac wedi ei ogoneddu. Y digwyddiad rhyfeddol hwn sy’n ein sicrhau na fu farw Iesu’r eilwaith ac na ‘ddiflannodd’ o’r Stori ond iddo gael ei ddyrchafu yn hytrach i’w briod le yn nheyrnas Dduw.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 09 Mai, 2021.
Cudd fy meiau
Pe byddwn yn sgwennu hunangofiant mi wn be fyddai teitl y gyfrol. Does gen i ddim bwriad i wneud dim o’r fath, ac mae’n dda hynny o gofio bod cyfrol yn dwyn y teitl hwnnw wedi ei chyhoeddi ers blynyddoedd. Adlais o eiriau un o emynau Pantycelyn sydd i deitl cyfrol Pennar Davies, Cudd Fy Meiau. Does gen i ddim awydd o gwbl i godi’r llen ar fy meiau mawr na mân. Gyda’r emynydd y dywedaf:
‘Cudd fy meiau rhag y werin,
cudd hwy rhag cyfiawnder ne’;
cofia’r gwaed un waith a gollwyd
ar y croesbren yn fy lle;
yn y dyfnder
bodda’r cyfan sy yno’ i’n fai.’
A chydag ef y diolchaf fod fy meiau innau, trwy dywalltiad gwaed Crist ar groes Calfaria, wedi eu cuddio rhag cyfiawnder nef.
Nid awydd i roi’r argraff fy mod yn well nag ydw i sy’n gwneud i minnau ddeisyf i’m beiau gael eu cuddio rhag eraill ond cywilydd o feddwl y deuai neb i wybod am y cudd-feddyliau a’r gweithredoedd sydd hyd yn oed yn waeth na’r rhai amlwg. Ie, ‘cudd fy meiau rhag y werin a rhag cyfiawnder nef’, ond nid rhagof fi fy hun chwaith. Pethau i gywilyddio rhagddynt, i fod yn edifar ac i ymddiheuro ac i geisio maddeuant amdanynt ydi’r beiau hyn. Nid pethau y dymunaf eu harddangos mohonynt, a minnau’n gwybod am y drwg a wnaf ac a wneuthum i bobl eraill ac i enw Duw.
Nid pethau i’w gwadu gennyf yw fy meiau, ac nid eiddof fi’r hawl i’w hesgusodi ac i leihau eu difrifoldeb. A dyna pam fod Boris Johnson wedi llwyddo i’m cythruddo unwaith eto’r wythnos ddiwethaf. Dau gwestiwn y bu raid iddo eu hwynebu yn ystod yr wythnos oedd, pwy a dalodd yn wreiddiol am addurno ei fflat yn Stryd Downing ac a ddywedodd y byddai’n well ganddo weld pentwr o gyrff na gorfod gorchymyn trydydd cyfnod clo.
Gwadu iddo ddweud hynny wna’r Prif Weinidog er bod rhai’n fodlon mynd ar eu llw iddo eu dweud. Mae’n deg nodi bod eraill yn cefnogi’r hyn a ddywed Mr Johnson. A mynnu ei fod wedi talu am y gwaith a wna, ond heb ateb y cwestiwn pwysicaf, ‘Pwy a dalodd i ddechrau?’ Mi glywn ni ragor am y naill gwestiwn a’r llall.
Beth bynnag y gwir, yr un peth oedd yn fy nghorddi wrth weld Mr Johnson yn gwingo a gwylltio a gwadu oedd ei haeriad parhaus nad yw’r ‘bobl’ yn malio am faterion o’r fath. Os yw’r Prif Weinidog yn palu celwyddau ac os dywedodd y geiriau am gyrff y meirw, y mae wedi tramgwyddo a pheri loes fawr i filoedd o bobl. Pa hawl sydd ganddo i fynnu nad oes neb yn malio am bethau o’r fath? Nid eiddo’r un ohonom yr hawl i gyfiawnhau ein beiau trwy ddiystyru’r drwg a wnânt i eraill. Chawn ni ddim dweud celwydd a brifo a thwyllo’n gilydd, a mynnu nad ots am y cyfan. Nid ein gwaith ni yw cuddio ein beiau.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 02 Mai, 2021.